Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2015

 

Nôl i l’école? Oedolion yn y DU yn difaru colli sgiliau iaith o'u dyddiau ysgol

  • Arolwg y British Council yn datgelu bod mwy na hanner (58%) yr oedolion yn y DU yn difaru gadael i'w sgiliau iaith o'u dyddiad ysgol lithro (62% yng Nghymru);
  • Er bod mwy na thri chwarter o'r rhai a arolygwyd (77%) (79% yng Nghymru) o'r farn bod sgiliau iaith yn gwella cyfleoedd gwaith, dywedodd y rhan fwyaf (75%) (77% yng Nghymru) eu bod wedi colli'r rhan fwyaf o'r sgiliau hynny o fewn dim ond blwyddyn i adael yr ysgol;
  • Mae bron dwy ran o dair (65%) (68% yng Nghymru) yn cyfaddef na wnaethant wir gwerthfawrogi manteision dysgu iaith yn yr ysgol gyda mwy na hanner (53%) (55% yng Nghymru) yn difaru peidio â gwneud y mwyaf o astudio ieithoedd pan gawsant y cyfle.

 Yn ôl ymchwil newydd gan y British Council, mae mwy na hanner (58%) yr oedolion yn y DU yn difaru gadael i sgiliau iaith gwerthfawr o'u dyddiad ysgol lithro ac mae'r ganran hon hyd yn oed yn uwch yng Nghymru, sef 62%.

Er bod mwy na thri chwarter o'r rhai a arolygwyd (77%) (79% yng Nghymru) o'r farn bod sgiliau iaith yn gwella cyfleoedd gwaith, a bod bron dwy ran o dair (65%) (71% yng Nghymru) o'r farn bod siarad iaith arall yn gwneud i chi ymddangos yn fwy deallus, dywedodd yr un ganran (65%) (68% yng Nghymru) na wnaethant byth llawn werthfawrogi manteision dysgu iaith yn yr ysgol. Mae ychydig dros hanner (53%) (55% yng Nghymru) hefyd yn difaru peidio â gwneud y mwyaf o astudio ieithoedd pan gawsant y cyfle.

Er bod bron un o bob dau (46% yn y DU a Chymru) yn cyfaddef bod eu diffyg sgiliau iaith presennol yn achosi embaras iddynt, roedd 75% (77% yng Nghymru) o'r rhai a arolygwyd wedi colli'r rhan fwyaf o'r sgiliau hynny o fewn dim ond blwyddyn i adael yr ysgol, gan gynyddu i 65% (91% yng Nghymru) o fewn dwy flynedd. Mae hyn yn egluro pam bod pedwar o bob pump o'r rhai a astudiodd yr ieithoedd mwyaf cyffredin - Ffrangeg ac Almaeneg - wedi dweud nad ydynt yn hyderus yn defnyddio'r ieithoedd hynny nawr (78% ac 82% yn y drefn honno) (CYMRU: ddim yn hyderus yn defnyddio Ffrangeg 83%. Ddim yn hyderus yn defnyddio Almaeneg 81%), sy'n tanlinellu faint o wybodaeth werthfawr a gollir pan fydd pobl yn gadael yr ysgol.

Cafodd yr ymchwil, a gynhaliwyd gan gwmni Populus ymhlith mwy na 2,000 o oedolion yn y DU (a oedd yn cynnwys 110 o gyfweliadau yng Nghymru), ei chomisiynu gan y British Council yn ystod Wythnos Addysg Ryngwladol 2015 fel rhan o'i waith i feithrin cydberthnasau ar gyfer y DU ledled y byd drwy iaith, diwylliant ac addysg - a chefnogi dysgu ieithoedd tramor modern yn y DU.

Mae'r canlyniadau'n adlewyrchu'r dirywiad ehangach mewn dysgu iaith a welwyd yn y DU mewn blynyddoedd diweddar ac, er bod mwy na dwy ran o bump (44%) (45% yng Nghymru) o'r rhai a arolygwyd wedi ennill cymhwyster mewn iaith yn yr ysgol, dim ond 10% yn y DU a Chymru oedd yn meddu ar radd Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol mewn iaith dramor. Yn fwy pryderus, dim ond niferoedd bach iawn oedd wedi astudio Arabeg (2%) (1% yng Nghymru) neu Fandarin Tsieinëeg (2%) (1% yng Nghymru) ar unrhyw lefel - dwy o'r pum prif iaith a ystyrir yn fwyaf pwysig i ddyfodol y DU*.

Wrth gyfeirio at yr arolwg, dywedodd Vicky Gough, Cynghorydd Ysgolion yn y British Council: "Yn hytrach na ‘je ne regrette rien’, ‘je regrette beaucoup’ sy'n wir yn achos oedolion yn y DU mewn perthynas â dysgu iaith - sy'n gwbl gywir - gan fod cyflogwyr yn galw allan am sgiliau iaith ac amcangyfrifir bod eu prinder presennol yn y DU yn costio degau o biliynau o bunnoedd i'r wlad mewn masnach a chyfleoedd busnes coll bob blwyddyn.

"Mae angen i ni annog llawer mwy o'n pobl ifanc nid yn unig i feithrin eu sgiliau iaith yn yr ysgol ond i sicrhau eu bod yn eu cynnal yn y dyfodol. Y gwir yw bod dysgu iaith nid dim ond yn ffordd dda o ymwneud â diwylliant arall ond bydd yn rhoi hwb i ragolygon gwaith hefyd. Mae angen i ni sicrhau nad yw'r genhedlaeth nesaf hefyd yn difaru colli sgiliau iaith ond ei bod, yn hytrach, yn gallu cysylltu, byw a gweithio gyda'i chyd-ddyn ledled y byd."

Yn ddiddorol, nid dim ond yn y DU y mynegir edifeirwch am beidio â dysgu iaith - yn gynharach eleni, gwnaeth Bill Gates, dyn mwyaf cyfoethog y byd, gyfaddef mai un o'r pethau roedd yn ei ddifaru fwyaf oedd peidio â dysgu iaith.

Dangosodd canfyddiadau allweddol eraill o'r arolwg y canlynol:

-     Mae bron tri chwarter (73%) (78% yng Nghymru) o bobl o'r farn bod siarad iaith arall yn sgil bwysig i'w chael;

-     Mae 72% (70% yng Nghymru) o'r farn bod sgiliau iaith yn sefyll allan ar CV;

-     Mae 68% (63% yng Nghymru) o'r farn bod ieithoedd yn magu hyder gydag 87% (83% yng Nghymru) o'r farn bod ieithoedd yn ddefnyddiol ar wyliau tramor ac 84% (91% yng Nghymru) yn cytuno bod ieithoedd yn agor drysau i ddiwylliant a ffordd o fyw wahanol;

-     Dywedodd 37% (43% yng Nghymru) y byddent wedi hoffi cael y cyfle i astudio iaith nad oedd yn iaith Ewropeaidd yn yr ysgol.

Mae'r canlyniadau'n atgyfnerthu canfyddiadau astudiaeth a ryddhawyd gan y British Council yr wythnos hon sy'n tynnu sylw at fanteision profiad rhyngwladol wrth fagu hyder mewn sgiliau iaith dramor, cyfathrebu a sgiliau eraill yr 21ain ganrif. Mae ‘World of Experience’ yn ystyried gwahanol fathau o brofiad rhyngwladol - gan gynnwys rhaglenni cyfnewid ysgolion, teithio, gwirfoddoli, astudio a gweithio dramor a'r ffordd y mae'r profiadau hyn yn helpu i feithrin sgiliau sydd o fudd i unigolion, cyflogwyr a chymdeithas ehangach y DU yn y byrdymor a'r hirdymor. Dengys yr adroddiad fod pobl sydd â 'phrofiad rhyngwladol dyfnach' yn fwy tebygol o arloesi yn y gweithle. Mae hefyd yn nodi bod pobl â sawl profiad rhyngwladol wedi'u hannog gan eu profiad rhyngwladol cyntaf i chwilio am gyfleoedd pellach yn ymwneud ag astudio, teithio neu weithio dramor, gyda'r rheini a gafodd eu profiad rhyngwladol cyntaf pan oeddent yn yr ysgol wedi'u hysbrydoli fwyaf i achub ar gyfleoedd eraill.

Drwy gydol Wythnos Addysg Ryngwladol 2015, mae'r British Council yn annog mwy o bobl ledled y DU i ystyried manteision profiadau rhyngwladol a dysgu iaith. Ar sail thema 'fy nhaith ryngwladol', gofynnir i ysgolion ledled y wlad ddathlu eu ffocws rhyngwladol a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel her gwaith cartref â thema ryngwladol. Hefyd, crëwyd cyfres fideo fer â chyngor ymarferol ar ddysgu iaith yn arbennig er mwyn annog mwy o bobl yn y DU i ddechrau dysgu iaith newydd neu ailafael mewn un o'u dyddiau ysgol - rhywbeth y byddai 42% (44% yng Nghymru) o'r rhai a arolygwyd yn hoffi ei wneud.

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Addysg Ryngwladol 2015 ac ymgyrch #LearnALanguage y British Council, ewch i www.britishcouncil.org neu dilynwch #LearnALanguage ar Twitter.

Nodiadau i olygyddion

*Yn adroddiad Languages for the Future, a gyhoeddwyd gan y British Council yn 2013, nodwyd mai Sbaeneg, Arabeg, Ffrangeg, Mandarin Tsieinëeg, Almaeneg, Portiwgaleg, Rwseg, Tyrceg a Japanëeg yw'r ieithoedd a fydd yn fwyaf pwysig i'r DU dros yr 20 mlynedd nesaf. Fe'u dewiswyd ar sail ffactorau economaidd, geowleidyddol, diwylliannol ac addysgol, gan gynnwys anghenion busnes y DU, targedau masnach dramor y DU, blaenoriaethau diplomyddol a diogelwch, a'u hamlygrwydd ar y we.

Cynhaliodd Populus gyfweliadau â hapsampl o 2,080 o oedolion 18+ oed yn y DU o blith ei banel ar-lein rhwng 28 a 29 Hydref 2015. Arolygwyd pobl ledled y wlad a phwysolwyd y canlyniadau yn ôl proffil yr holl oedolion. Noder bod rhai o'r ffigurau dan sylw yn hepgor y sawl a ddewisodd 'ddim yn gymwys'.Mae Populus yn un o sylfaenwyr Cyngor Arolygu Prydain ac mae'n glynu wrth ei reolau.Rhoddir rhagor o wybodaeth yn www.populus.co.uk.

Gellir cael dadansoddiad rhanbarthol llawn o'r data ar gais.

Gellir cael rhagor o fanylion am waith y British Council ar ieithoedd yn:

http://www.britishcouncil.org/education/schools/support-for-languages

 Ceir cyngor '5 y dydd' ar gyfer pobl sy'n awyddus i ddechrau dysgu iaith yma: http://www.britishcouncil.org/sites/britishcouncil.uk2/files/d041_languages_5-a-day_graphic_a5.pdf

 Mae'r ffigurau a nodwyd gan Vicky Gough yn ymwneud â'r canlynoli:

Mae galw cyflogwyr am fwy o sgiliau iaith ymhlith gweithlu'r DU yn cyfeirio at Arolwg Addysg a Sgiliau 2014 CBI/Pearson a ddynododd fod bron dwy ran o dair o gwmnïau yn dweud bod angen sgiliau iaith dramor, sy'n debygol o gynyddu wrth i gwmnïau uchelgeisiol geisio ymuno â marchnadoedd newydd sy'n tyfu'n gyflym. 

 ii)  Dengys ymchwil annibynnol a gynhaliwyd ar ran Masnach a Buddsoddi y DU gan yr Athro James Foreman-Peck yn 2014 fod sgiliau iaith gwael a diffyg dealltwriaeth ddiwylliannol yn llesteirio perfformiad masnach y DU o ryw £48 biliwn y flwyddyn. Dengys yr adroddiad, heb y sgiliau ieithyddol a diwylliannol perthnasol, nad yw busnesau'r DU yn meddu ar y ddealltwriaeth angenrheidiol o'r farchnad i ymgysylltu ac achub ar gyfleoedd masnach yn effeithiol, yn enwedig mewn economïau sy'n tyfu'n gyflym, fel BRIC. Mae'r temtasiwn i ymuno â marchnadoedd Saesneg yn unig hefyd yn golygu nad yw'r DU yn gwireddu ei photensial o ran twf y farchnad allforio mewn marchnadoedd ieithoedd anghyffredin. Effeithir yn arbennig ar allforwyr bach a chanolig o ran eu gallu i gyflogi'r arbenigwyr iaith a ddefnyddir gan gwmnïau rhyngwladol.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang.

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2,000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy addysgu Saesneg, rhannu'r celfyddydau a chynnal rhaglenni addysg a chymdeithas.

Rydym yn elusen a gofrestrir yn y DU ac a lywodraethir gan y Siarter Frenhinol. Mae grant arian cyhoeddus craidd yn darparu 20 y cant o'n trosiant, a oedd yn £864 miliwn y llynedd. Daw gweddill ein refeniw o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, fel dosbarthiadau Saesneg a sefyll arholiadau yn y DU, a hefyd drwy gontractau addysg a datblygu a chan bartneriaethau â sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch yn y DU ac yn rhyngwladol. 

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council drwy https://twitter.com/BritishCouncil a http://blog.britishcouncil.org/.

Rhannu’r dudalen hon