Debut performance from Lleuwen Steffan & Brieg Guerveno Lleuwen’s song Aderyn / Lapous ©

Patrick Olner

Dydd Gwener 14 July 2023

 

Cafodd digwyddiad arbennig ei gynnal ddoe gan y British Council yn Neuadd Hoddinott y BBC i ddathlu dysgu ieithoedd rhyngwladol drwy raglen Cerdd Iaith. Daeth 100 o ddisgyblion o ysgolion ledled Cymru at ei gilydd i ganu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chorws Cenedlaethol Cymru.

Rhoddwyd dimensiwn rhyngwladol ychwanegol i’r digwyddiad gan y cerddorion, Lleuwen Steffan a Brieg Guerveno a gyflwynodd y perfformiad cyntaf o gân Lleuwen, ‘Aderyn / Lapous’. Roedd yn berfformiad arbennig a ddangosodd allu cerddoriaeth i gysylltu cynulleidfaoedd gydag ieithoedd newydd a threftadaeth gerddorol drwy ddangos y tebygrwydd a’r cysylltiadau rhwng treftadaeth Cymru a Llydaw.

Cân ddwyieithog Gymraeg a Llydaweg yw ‘Aderyn / Lapous’. Mae’n chwarae gyda geiriau sy’n debyg neu’r un peth yn y ddwy iaith Geltaidd, gan gydio yng ngwraidd eu hystyr. Cafodd y gân ei hysbrydoli gan hen ddywediad Llydaweg - "Pep lapous e gan, pep pobl he yezh" (mae gan bob aderyn ei chân, a phob cenedl ei hiaith). Mae’r ddeuawd hefyd yn fan cychwyn i brosiect cydweithio cerddorol newydd rhwng Lleuwen Steffan, Brieg Guerveno a cherddorion eraill o Gymru a Llydaw.

Wrth sôn am y perfformiad cyntaf heddiw yn Neuadd Hoddinott, dywedodd Lleuwen Steffan:

“Mae hwn yn ddigwyddiad bendigedig i berfformio ‘Aderyn / Lapous’ ynddo am y tro cyntaf. Heddiw, rydyn ni wedi bod yn dathlu ieithoedd rhyngwladol drwy raglen Cerdd Iaith ac yn llythrenol, cerddoriaeth iaith. Gall cerddoriaeth fod yn ffordd bwerus o greu cysylltiadau ac agor y byd i bobl, yn enwedig i blant a thrwy’r gân yma dw i eisiau archwilio’r elfennau cyffredin hwyliog rhwng y Gymraeg a’r Llydaweg a dangos y cysylltiadau rhwng y ddwy iaith a’r ddau ddiwylliant”.

Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru am y perfformiad:

“Mae’n wych cael rhannu’r perfformiad cyntaf o’r gân newydd hyfryd yma – mae’n foment berffaith wrth i ni ddathlu Cerdd Iaith. Mae creu cysylltiadau byd-eang drwy gelf wrth galon gwaith y British Council, ac mae’r ddeuawd yma’n enghraifft ddisglair o rai o’r cysylltiadau diwylliannol sy’n cael eu creu rhwng Cymru a Ffrainc drwy gydol y flwyddyn hon”.

Mae’r British Council yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ar Flwyddyn Cymru yn Ffrainc gan gefnogi rhaglen o weithgareddau ym meysydd addysg, y celfyddydau a diwylliant i gefnogi unigolion a sefydliadu yn y ddwy wlad i feithrin cysylltiadau, datblygu perthnasoedd a chreu gwaith newydd.

Bydd Blwyddyn Cymru yn Ffrainc yn para tu hwnt i 2023 – bydd nifer o fentrau cydweithio diwylliannol rhwng Cymru a Ffrainc yn rhan o dymor diwylliannol British Council Ffrainc a fydd yn rhan o raglen ‘Bwrw Golau ar Ddiwylliant 2024 – y Deyrnas Unedig a Ffrainc’

Gwybodaeth am yr artistiaid

Mae Lleuwen Steffan yn ganwr, ysgrifennwr caneuon a chyfansoddwr. Enillodd Lleuwen wobr ‘Y Gân Gymraeg Wreiddiol Orau’ am ‘Bendigeidfran’ yng Ngwobrau Gwerin Cymru, ac enillodd wobr Liet International am gân yn Llydaweg, ‘Ar Goulou Bev’. Yn fwy diweddar mae wedi bod yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y ffilm, ‘Ki Ma Mamm’ i Kalanna / FR3 Bretagne; ‘Byd Dan Eira’ i Theatr Bara Caws; a ‘Louise des Ours’ i Teatr Piba / Radio Kerne.

Mae Brieg Guerveno yn ysgrifennu a chanu mewn Llydaweg. Cafodd ei albwm diweddaraf, ‘Vel Ma Vin’, dderbyniad gwresog iawn. Mae’n cynnwys darnau mwy cyfriniol a gwerinol na phedwar albwm flaenorol Brieg, a oedd yn weithiau roc ffyrnig. Enillodd ‘Vel Ma Vin’ y wobr am albwm orau 2021 yng Ngwobrau Priziou, yn ogystal â gwobr am yr albwm orau a gynhyrchwyd yn Llydaw yn yr un flwyddyn.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2020-21 fe wnaethom ni ymgysylltu â 650 miliwn o bobl. 

Rhannu’r dudalen hon