Language Trends Wales 2024
Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024

 

Mae adroddiad diweddaraf Tueddiadau Ieithoedd Cymru gan British Council Cymru yn dangos bod nifer y disgyblion sy'n ceisio am TGAU mewn Ffrangeg ac Almaeneg wedi gostwng o fwy na hanner dros y ddegawd ddiwethaf, gan amlygu bod angen ymyryd ar adegau tyngedfenol mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru i ddiogelu addysgu a dysgu Ieithoedd Rhyngwladol. Mae adroddiad eleni'n pwysleisio'r angen i warchod ein llif o ddysgwyr ieithoedd rhyngwladol i sicrhau bod Cymru'n parhau'n wlad sy'n edrych tuag allan a chystadlu ar lwyfannau'r byd.

Mae adroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru, sy'n ddeg mlwydd oed eleni, yn amlygu cwymp serth yn nifer y disgyblion sy'n dewis astudio Ieithoedd Rhyngwladol yn yr ysgol uwchradd. Mae nifer y ceisiadau ar gyfer TGAU mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg wedi gostwng o dros 7,500 yn 2015 i ychydig yn llai na 4000 yn 2024. Mae ceisiadau Safon Uwch yn yr un ieithoedd wedi gweld gostyngiad o 800, i lai na 500 yn ystod yr un cyfnod.

Er bod arwyddion addawol iawn o dwf addysgu a dysgu Ieithoedd Rhyngwladol mewn ysgolion cynradd, mae canfyddiadau'r adroddiad yn nodi dwy adeg gwbl allweddol, sef yn oedrannau 14 a 16, lle gwelir dirywiad arwyddocaol yn nifer y disgyblion sy'n dewis ieithoedd rhyngwladol - sy'n fygythiad gwirioneddol i ddyfodol gallu Ieithoedd Rhyngwladol yng Nghymru.

Wrth sôn am y llwybr dysgu ar gyfer Ieithoedd Rhyngwladol dywedodd Dr Ian Collen, un o awduron yr adroddiad: "Mae tystiolaeth ein hymchwil yn dangos na chaniateir cynnal dosbarthiadau bach ar gyfer TGAU a Safon Uwch mewn Ieithoedd Rhyngwladol mewn rhai ysgolion yng Nghymru. Efallai mai dim ond rhyw bump neu chwech o ddisgyblion yw hynny mewn un ysgol, ond pan luosogir hynny ar draws nifer o ysgolion, mae'n golygu, o bosib, bod taith ddysgu iaith cannoedd o ddisgyblion yn stopio pan maent yn 14 neu'n 16 oed. Mae hynny'n torri'r llif o ddarpar ieithegwyr i addysg bellach ac uwch, ac i fyd gwaith y tu hwnt i hynny."

Prif Ganfyddiadau | Tueddiadau Ieithoedd 2024:

  • Nododd bron i 70 y cant o'r ysgolion uwchradd a ymatebodd bod dim neu lai na 10 y cant o'u dysgwyr ym Mlwyddyn 10 yn astudio ar gyfer TGAU neu gymhwyster Lefel 2 arall mewn Iaith Ryngwladol.
  • Er bod Ffrangeg yn cael ei gynnig fel pwnc ym Mlwyddyn 7 mewn 70 y cant o'r ysgolion uwchradd a ymatebodd, mae hynny'n gwymp o 10 y cant o'i gymharu â ffigwr 2023. Er hynny, mae Ffrangeg yn cadw ei lle fel yr Iaith Ryngwladol fwyaf poblogaidd ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru - yn groes i'r duedd a welir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
  • Mae athrawon ysgolion uwchradd yn tynnu sylw at ddiffyg ariannu ar gyfer Ieithoedd Rhyngwladol, yn ogystal â'r angen i adolygu ffiniau graddio llym arholiadau cyhoeddus.
  • Mae pob un o'r colegau ôl-16 a ymatebodd yn defnyddio technoleg Deallusrwydd Artiffisial wrth addysgu Ieithoedd Rhyngwladol.

Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Eleni rydym yn nodi deng mlynedd o gyhoeddi ein hymchwil yn mapio tueddiadau addysgu a dysgu Ieithoedd Rhyngwladol yng Nghymru. Wrth edrych yn ôl ar ffigurau'r ddegawd ddiwethaf yn eu cyfanrwydd, mae'r canlyniadau'n frawychus. Rydym ar drothwy argyfwng mewn ieithoedd fel Almaeneg yng Nghymru - mae perygl gwirioneddol y bydd yn diflannu'n llwyr fel pwnc mewn ysgolion uwchradd. Nid yw ein canlyniadau'n dangos chwaith bod ieithoedd fel Mandarin neu Arabeg yn cymryd lle ieithoedd Ewropeaidd fel y byddech, o bosib, yn ei ddisgwyl o ystyried y newidiadau yn nhueddiadau geowleidyddol a busnes y ddeng mlynedd ddiwethaf. Yn hytrach, rydym yn gweld dirywiad cyffredinol mewn addysgu a dysgu Ieithoedd Rhyngwladol.

"Bydd Cymru'n colli cenhedlaeth o ddysgwyr iaith os nad ydym yn gweithredu i wrthdroi'r duedd hon, deall cyfyngiadau'r ddarpariaeth bresennol, a thanio brwdfrydedd pobl ifanc am ddysgu ieithoedd a'r budd a ddaw o hynny. Mae dysgu iaith yn fwy na dysgu 'dim ond yr iaith'. Mae'n ffordd o ddod i ddeall gwahanol arferion, diwylliannau a phobl a sut i feithrin cysylltiadau ar draws ffiniau. Os yw Cymru am fod yn wlad sy'n edrych allan i'r byd o ddifrif, mae angen inni feithrin a hybu galluoedd rhyngwladol cenedlaethau'r dyfodol, ac mae ieithoedd yn chwarae rhan enfawr yn hynny."

Mae'r patrwm cyffredinol ar gyfer pob un o'r prif ieithoedd Ewropeaidd yn dangos tuedd tuag i lawr. Er bod Ffrangeg yn cadw ei lle fel yr iaith fwyaf poblogaidd ar gyfer TGAU a Safon Uwch, o gymharu â ffigurau 2023 gwelwyd gostyngiad o bron i ddeg y cant yn narpariaeth y pwnc yng nghyfnod hollbwysig Blwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd. Nid yw'r nifer sy'n dewis astudio Sbaeneg yn ysgolion uwchradd Cymru yn dilyn yr un duedd ag a welir yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, lle bu cynnydd mewn niferoedd dros y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn, Sbaeneg yw'r Iaith Ryngwladol fwyaf poblogaidd ar gyfer TGAU yng Ngogledd Iwerddon, a disgwylir gweld yr un duedd yn Lloegr yn y ddwy flynedd nesaf; ond yng Nghymru gwelwyd gostyngiad bach yn nifer y ceisiadau ar gyfer TGAU Sbaeneg eleni o'i gymharu â 2023, a gostyngiad o 26 y cant dros y ddegawd ddiwethaf.

Mae ffigurau addysgu a dysgu Almaeneg yn destun pryder arbennig. Er y gwelwyd cynnydd bach yn nifer y ceisiadau ar gyfer TGAU Almaeneg ers y llynedd, yn gyffredinol mae'r mae'r nifer sy'n dewis ei astudio yn fach. Mae nifer y ceisiadau ar gyfer Safon Uwch wedi gostwng o 48.7 y cant dros y ddegawd ddiwethaf. Mae'r dirywiad yma'n destun pryder arbennig o ystyried mai'r Almaen yw ail bartner masnach mwyaf y Deyrnas Unedig.

Mae athrawon yng Nghymru a ymatebodd i'r arolwg wedi tynnu sylw at rwystrau sylweddol i addysgu a dysgu Ieithoedd Rhyngwladol, gan adlewyrchu heriau tebyg a welir ar draws y Deyrnas Unedig. Er bod nifer o ddisgyblion yn dangos diddordeb mewn astudio Ieithoedd Rhyngwladol, yn aml iawn mae cyfyngiadau'r ddarpariaeth sydd ar gael a chyfyngiadau amserlennu yn eu rhwystro rhag dewis ieithoedd. Nodwyd hefyd bod strwythurau'r arholiadau yn arbennig o heriol, ac mae athrawon ledled y D.U. yn galw am ddiwygio'r dulliau asesu. Er bod Saesneg yn iaith a siaredir yn eang ledled y byd, mae athrawon yn pwysleisio pwysigrwydd sgiliau amlieithog i allu manteisio ar gyfleoedd datblygu gyrfa a busnes rhyngwladol. Dengys ymchwil gan y British Council bod gan wledydd â sgiliau iaith cryf fantais sylweddol o ran masnach, diplomyddiaeth a chyfnewid diwylliannol.

Er gwaetha'r heriau, mae gan Gymru fanteision unigryw a allai helpu i wrthdroi'r tueddiadau hyn. Mae cyd-destun dwyieithog Cymru yn cynnig sail naturiol i ehangu addysgu a dysgu ieithoedd. Mae dull lluosieithog y Cwricwlwm Newydd i Gymru yn manteisio ar hyn drwy gwmpasu amrywiaeth o ieithoedd gan gynnwys ieithoedd cartref ac ieithoedd cymunedol disgyblion ochr yn ochr â Chymraeg a Saesneg. Mae athrawon cynradd ac uwchradd ledled Cymru'n defnyddio dulliau arloesol i danio brwdfrydedd eu disgyblion i ddysgu ieithoedd, gan ddarparu cyfleoedd a chefnogaeth ychwanegol iddynt ymarfer a chael adborth.

Am y tro cyntaf, roedd ymchwil Tueddiadau Ieithoedd Cymru eleni'n cynnwys cystadleuaeth creu poster i ddisgyblion Blwyddyn 6 yn ysgolion cynradd Cymru. Dengys canfyddiadau'r arolwg bod disgyblion cynradd yr ysgolion a ymatebodd yn gwybod am 70 o wahanol ieithoedd; ac roedd 80 y cant yn dangos ymwybyddiaeth ryngwladol gref drwy eu gwahanol ddefnydd o luniau o globau yn eu posteri. Hefyd, gwelwyd bod gan y disgyblion ddealltwriaeth soffistigedig o'r cyswllt rhwng ieithoedd a dinasyddiaeth fyd-eang, a'u bod yn ystyried bod amlieithrwydd yn rhan naturiol o'u dyfodol. Mae'r brwdfrydedd cynnar yma'n cynnig cyfle hollbwysig i gynnal y broses o ddysgu ieithoedd i gyfnod addysg uwchradd.

Mae ymchwil blynyddol Tueddiadau Ieithoedd Cymru yn cynnig cipolwg hollbwysig ar gyflwr addysgu a dysgu ieithoedd mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru. Mae'r canfyddiadau diweddaraf yn cyflwyno rhybudd yn ogystal â chyfle: er bod heriau sylweddol yn wynebu addysgu a dysgu ieithoedd mewn ysgolion uwchradd a cholegau, mae manteision naturiol addysg ddwyieithog yng Nghymru a brwdfrydedd disgyblion cynradd am ieithoedd yn sylfeini cadarn ar gyfer newid.

Gellir lawrlwytho'r adroddiad cyflawn yma

Anna Christoforou, Senior Media and Campaigns Manager, UK, British Council

E:  Anna.christoforou@britishcouncil.org

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2022-23 fe wnaethom ni ymgysylltu â 600 miliwn o bobl. 

Rhannu’r dudalen hon