Daeth dros bedwar deg o bobl ifanc o Wcráin at ei gilydd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i rannu eu profiadau, pryderon a gobeithion am y dyfodol, rai dyddiau ar ôl nodi pedair blynedd ers ymosodiad llawn Rwsia ar Wcráin.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan British Council Cymru a Hyb Wcráin Cymru Wales. Roedd yn gyfle i bobl rhwng 16-34 oed a gafodd eu geni yn Wcráin ond sydd bellach yn byw yng Nghymru i ddod at ei gilydd. Rhoddwyd gair o groeso i fynychwyr y digwyddiad gan Steven Doughty AS, y Gweinidog Gwladol dros Ewrop, Gogledd America a Thiriogaethau Dramor.
Yn ystod y sesiwn, siaradodd y bobl ifanc am yr her o adeiladu bywydau newydd wrth hefyd geisio cynnal cysylltiadau ag Wcráin, pwysigrwydd cefnogaeth y gymuned, a'r ansicrwydd y maen nhw'n ei deimlo am eu dyfodol.
Roedd y digwyddiad yn dilyn cyhoeddi ymchwil gan y British Council, Understanding Ukranian young people's current concerns, needs and hopes, sy'n edrych ar brofiadau pobl ifanc yn Wcráin drwy grwpiau ffocws a chyfweliadau a gynhaliwyd ym misoedd cynnar 2024.
Er bod y rhyfel wedi cael effaith llethol o negyddol ar fywydau pobl ifanc o Wcráin, mae'r ymchwil yn dangos eu bod yn dal i gredu y bydd y wlad yn cael ei hadfer ymhen amser. Dywedodd llawer o'r bobl ifanc a gymerodd ran yn yr ymchwil fod dyhead cryf ganddynt i ddychwelyd i'w mamwlad a chyfranu i'w dyfodol.
Soniodd Anhelina (20 oed), sy'n dod o Kyiv ond sy'n byw yng Nghaerdydd nawr, am y profiad o gysylltu â phobl ifanc eraill o Wcráin sy'n byw yng Nghymru. Dywedodd: "Ro'n i eisiau gweld y problemau mae pobl o wahanol oedrannau yn eu hwynebu a gweld os galla i wneud unrhyw beth i helpu newid pethau. Mae'n bedair blynedd ers i ni ddod yma gyntaf, felly mae llai o stigma am ffoaduriaid o Wcráin nawr, a dw i'n gobeithio y bydd popeth yn bositif yn y dyfodol. Am y tro, mae fy nyfodol i yma yng Nghymru. Dw i'n astudio a helpu fy mam sydd ddim yn gallu siarad Saesneg - ond fe hoffwn i fy mhlant gael profiad o Wcráin hefyd rhyw ddydd."
Mae Mykhailo (19 oed) hefyd yn dod o Kyiv yn wreiddiol. Bellach, mae'n byw yn Abertawe. Soniodd am ei argraffiadau cyntaf o Gymru. Dywedodd: "Doedd gen i neb yma, felly ro'dd rhaid i fi ddysgu byw ar fy mhen fy hun ac roedd hynny ychydig yn ddigalon i ddechrau. Wedi peth amser, fe wnes i ffeindio grŵp o Wcreiniaid, a nawr mae gyda ni gymdeithas Wcreinaidd yn fy mhrifysgol. Mae pobl yng Nghymru'n garedig, ac mae'n teimlo'n fwy hamddenol yma nag mewn rhannau eraill o'r DU. Ro'n i eisiau dod i'r digwyddiad yma heddiw i gwrdd â phobl yn Hyb Wcráin Cymru, a gweld beth mae'r British Council yn ei wneud. Dw i'n dal i geisio gweithio allan ble dw i am fod yn y dyfodol. Mae'n fwy na thebyg na wna i fynd yn ôl i Wcráin, felly dw i'n trio ffeindio rhywle dw i eisiau bod."
Cafodd y digwyddiad ei hwyluso gan Nicholas Wysoczanskyj, Rheolwr Wcráin yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru. Bydd cyfraniadau mynychwyr y digwyddiad yn cael eu cynnwys mewn adroddiad byr yn adlewyrchu prif syniadau ac argymhellion y drafodaeth.
Dywedodd Nicholas Wysoczanskyj: "Fel Cymro o dras Wcreinaidd, sydd â theulu a ffrindiau yn Wcráin o hyd, dw i wedi bod yn rhan o'r gefnogaeth mae ein gwlad wedi'i roi i Wcreiniaid a Wcráin ers dyddiau cyntaf yr ymosodiad llawn.
"Mae llawer wedi newid yn y pedair blynedd ers iddyn nhw gyrraedd yma gyntaf. Mae bywydau wedi cael eu hail-sefydlu, gan gryfhau'r cysylltiad hir rhwng pobl Cymru a Wcráin ymhellach. I'r rhai ifancaf a ddaeth yma, Cymru yw eu cartref nawr. Dyma lle maen nhw wedi treulio cymaint o'u blynyddoedd ffurfiannol. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn gwrando ar y bobl ifanc hynny - i ddeall eu gobeithion, breuddwydion a dyheadau. Achos bydd y bobl ifanc yna'n gyfrifol am siapio dyfodol Cymru ac Wcráin. Dim ond drwy wrando o ddifrif arnyn nhw y gallwn ni ddysgu sut i'w helpu i wireddu hynny."
Ychwanegodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae'r bobl ifanc hyn wedi dangos gwytnwch rhyfeddol yn wyneb heriau eithriadol. Nod y digwyddiad yma oedd rhoi cyfle gwirioneddol i'r rheini sy'n byw yng Nghymru bellach i feithrin cysylltiadau a rhannu eu lleisiau, a'u helpu i ail-ddychmygu eu dyfodol.
"Mae gan y cysylltiad rhwng Cymru ac Wcráin wreiddiau dwfn. Rydyn ni'n amcanu i fod yn Genedl Noddfa gyntaf y byd, ac ers i'r rhyfel ddechrau mae Cymru wedi agor ei drysau i gannoedd o bobl o Wcráin sy'n dianc rhag y gwrthdaro. Mae digwyddiadau fel hyn yn gyfle i wrando, dysgu a sefyll gydag Wcráin - nid dim ond mewn egwyddor, ond drwy ein gweithredoedd."
Mae'r digwyddiad yma'n rhan o ymrwymiad parhaus British Council Cymru i gryfhau'r cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru ac Wcráin. Mae gwaith y British Council yn Wcráin yn cyrraedd miloedd o Wcreiniaid bob blwyddyn drwy raglenni addysgu ac arholiadau Saesneg, a chefnogi athrawon sy'n delio â thrawma a tharfu ar ddysgu.
Yng Nghymru, mae'r British Council yn gweithio gydag ysgolion drwy raglen Partneriaethau Ysgolion y DU ac Wcráin, croesawu artistiaid preswyl o Wcráin, a datblygu rhaglenni cyfnewid diwylliannol.