Prifysgolion Saudi Arabia yn edrych i gyfeiriad Caerdydd am sgiliau sicrhau ansawdd
Bydd cynrychiolwyr o 14 prifysgol yn Saudia Arabia yn ymweld â phrifysgolion yng Nghaerdydd i ddysgu sut mae cyrsiau gwyddoniaeth o safon uchel yn cael eu cyflwyno.
Bydd athrawon a deoniaid o brifysgol Saudi yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ar ddydd Llun, 14 Mawrth. Bydd yr ymweliad yn canolbwyntio ar sut mae’r prifysgolion yn datblygu ac yn cynnal rhaglenni gwyddoniaeth addysg uwch o safon uchel.
Mae’r ymweliad wedi cael ei drefnu gan asiantaeth sicrhau ansawdd ar gyfer addysg uwch y British Council a Saudi Arabia, sef y Comisiwn Cenedlaethol ar gyfer Dilysiad Academaidd ac Asesu (NCAAA).
Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council: Mae’r NCAAA am gyflwyno academyddion Saudi i brifysgolion sydd yn cynnig cyrsiau gwyddoniaeth a thechnoleg ardderchog. Ar hyn o bryd, mae sicrhau ansawdd a dilysiad yn flaenoriaethau i sefydliadau addysg uwch yn Saudi Arabia. Bydd yr ymweliad hwn yn cyflwyno’r cynrychiolwyr i’r sector prifysgolion Cymru, yn enwedig ei systemau sicrhau ansawdd. Fe fydd hyn yn eu cynorthwyo i adnabod arfer da ac yn gosod sylfaen ar gyfer partneriaethau rhwng prifysgolion Cymru a Saudi Arabia yn y dyfodol.
Mae’r ymweliad yn rhan o’r rhaglen tair blynedd Global Wales fydd yn gweld y naw prifysgol yng Nghymru, y British Council, Prifysgolion Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i gynyddu symudedd mewnol ac allanol, cydweithredu ar ymchwil ryngwladol a phartneriaethau strategol mewn addysg uwch yng Nghymru.