Prosiect cerddoriaeth teirieithog yn taro tant gydag ysgolion
Mae prosiect peilot o'r enw Cerdd Iaith / Listening to Language, sydd â'r nod o annog plant i ddysgu iaith mewn ysgolion cynradd gan ddefnyddio cerddoriaeth fel adnodd, yn cael ei gyflwyno mewn deg ysgol gynradd ledled De-orllewin Cymru. Mae’r prosiect cerddoriaeth teirieithog yn mynd i’r afael â’r dirywiad mewn dysgu ieithoedd yng Nghymru.
Dan arweiniad Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, British Council Cymru, ERW a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae cerddorion o'r Gerddorfa ynghyd ag arbenigwyr iaith wedi bod yn helpu athrawon mewn ysgolion yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion i ddatblygu dulliau creadigol o ddysgu Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg. Mae'r prosiect, a gaiff ei ariannu gan Sefydliad Paul Hamlyn, yn ystyried sut mae elfennau cerddorol iaith fel rhythm, ailadrodd ac odl yn gallu helpu pobl i ddysgu. Mae athrawon yn annog disgyblion i wrando ar sŵn ieithoedd i wella'r broses o ddatblygu a deall geirfa newydd.
Nododd adroddiad Tueddiadau Iaith Cymru (2016) ar ran British Council Cymru ac adroddiad Dyfodol Llwyddiannus (2015) gan yr Athro Graham Donaldson ar ran Llywodraeth Cymru fod dysgu iaith yng Nghymru yn dirywio.
Dywedodd Chris Lewis, Pennaeth Addysg yn British Council Cymru, 'Mae nifer y bobl sy'n dysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi bod yn dirywio'n sylweddol am dros ddegawd. Y llynedd canfu ein hadroddiad Tueddiadau Iaith Cymru, yr ail arolwg cenedlaethol o addysgu iaith tramor modern yng Nghymru fod ysgolion yn cael trafferth cynyddu nifer y disgyblion sy'n cofrestru ar gyfer TGAU mewn ieithoedd tramor, gyda'r nifer leiaf yn dod o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Canfu'r adroddiad fod gan y mwyafrif o ysgolion - mwy na dwy ran o dair - lai na 25% o ddisgyblion yn astudio iaith dramor fodern ar lefel TGAU'.
Parhaodd drwy ddweud, 'Mae Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i strategaeth i atal y dirywiad hwn, am i blant ddechrau dysgu ieithoedd yn gynt, a nod y prosiect hwn yw cefnogi'r uchelgais hwnnw drwy weithio'n uniongyrchol gydag athrawon i ddatblygu dulliau newydd a chyffrous sy'n seiliedig ar y celfyddydau o addysgu a dysgu iaith mewn lleoliad cynradd'.
Nod Cerdd Iaith hefyd yw datblygu a chryfhau'r berthynas rhwng Cymru a Phatagonia, yn sgil dathlu 150 mlwyddiant sefydlu'r Wladfa yno. Ynghyd â datblygu sgiliau iaith, mae disgyblion yn dysgu drwy gerddoriaeth ynglŷn â hanes y Wladfa, anheddiad y Cymry ym Mhatagonia. Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar y cyfnod preswyl cymunedol arloesol a dreuliodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ym Mhatagonia, fel rhan o'i thaith i Dde America yn 2015.
Mae dau dymor cyntaf y prosiect wedi canolbwyntio ar ddatblygu dulliau newydd o addysgu, gan ddefnyddio adnoddau fel caneuon teirieithog, wedi'u hysgrifennu gan y cyfansoddwr Gareth Glyn o Gymru. Bydd y trydydd tymor yn helpu athrawon i archwilio sut y gellir rhoi'r dulliau newydd hyn ar waith. Caiff gweithdai olaf yr ail dymor eu cynnal ar 21 Mawrth mewn ysgolion yn Aberystwyth, Llandysul, Abertawe a Chydweli.
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Porth Tywyn, Odette Nicholas, fod 'Cerdd Iaith yn gyfle ysbrydoledig i weithio ar y cyd ag athrawon a phartneriaid creadigol i ysgogi a datblygu dysgwyr creadigol, myfyriol'.
Dywedodd Pennaeth Partneriaethau a Dysgu BBC NOW, Suzanne Hay ‘Mae gwrando ar gerddoriaeth mewn unrhyw amgylchiadau bron yn deffro emosiwn. Mae Cerdd Iaith yn gofyn i’r myfyrwyr wneud hyn; gwrando ar sain iaith ac ystyried yr emosiwn a’i ystyr. Rydyn ni’n gweld drwy ymateb i sain geiriau bod plant yn datblygu cysylltiad mwy ystyriol â’r iaith maen nhw’n ei dysgu.’
Dywedodd yr Athro Mererid Hopwood o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, 'Mae wedi bod yn gyfle gwych i archwilio gydag athrawon ysgolion cynradd sut mae disgyblion yn ymateb i sŵn geiriau. Mae'r dull hwn o weithredu yn ymddangos fel pe bai'n datblygu gwerthfawrogiad o bwysigrwydd gwrando trylwyr a'r angen i greu'r amgylchedd cywir i annog pobl i gymryd risgiau wrth ddysgu ieithoedd newydd.
Mae Cerdd Iaith yn rhan o Gronfa Datblygu Athrawon gwerth £1 filiwn Sefydliad Paul Hamlyn, menter ledled y DU i alluogi gweithwyr addysg proffesiynol i gael mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus o safon ac i gefnogi arferion effeithiol sy'n seiliedig ar y celfyddydau mewn dosbarthiadau cynradd.