Gall athrawon ysgolion cynradd nawr defnyddio cerddoriaeth a drama i helpu eu disgyblion i ddysgu Sbaeneg a Chymraeg trwy ddefnyddio gwefan newydd, rhad ac am ddim i'w defnyddio.
Mae gwefan Cerdd Iaith yn cynnwys mwy na 30 o weithgareddau, fel gemau drama syml a chaneuon mewn tair iaith.
Darperir popeth sydd ei angen ar athrawon i arwain disgyblion trwy'r gweithgareddau, gan gynnwys cyfarwyddiadau llawn, fideos arddangos, cerddoriaeth ddalen y gellir ei lawrlwytho, geiriau, ffeiliau sain ac awgrymiadau ar gyfer ymestyn a myfyrio.
Dywedodd Rebecca Gould, Pennaeth Celfyddydau British Council Cymru: “Mae Cerdd Iaith yn adnodd newydd a phwerus ar gyfer athrawon cynradd sy’n anelu at daclo’r dirywiad mewn dysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion. Bydd y gweithgareddau’n ysgogi a thanio brwdfrydedd plant i ddysgu’n weithredol a siarad ieithoedd newydd yn hyderus. Mae’r wefan yn llawn dop o gynnwys gwreiddiol i gyffroi’r dychymyg. Mae’n hawdd i’w defnyddio ac rydyn ni’n gobeithio y bydd athrawon yn manteisio ar y cyfle i archwilio a phori drwy’r gweithgareddau.Rwy’n credu y gwelan nhw ei fod yn adnodd delfrydol i helpu gyda’r her o ddysgu plant gartref. Byddwn hefyd yn argymell y wefan i rieni sy’n chwilio am weithgareddau addysgol llawn hwyl i’w defnyddio gyda’u plant".
Addasrwydd i oedran
Cafodd yr adnodd ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda disgyblion cynradd rhwng 7 – 11 oed. Bydd yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 sy’n paratoi i symud i’r ysgol uwchradd a gwersi ieithoedd tramor modern, ond mae’n addas i’w ddefnyddio gyda dysgwyr iau hefyd.
Ymwelwch â’r wefan
Sut dechreuodd hwn
Dechreuodd Cerdd Iaith fel prosiect addysgu creadigol i archwilio dulliau newydd o ddysgu cerddoriaeth ag ieithoedd mewn ysgolion cynradd yn Ne a Gorllewin Cymru. Cafodd y prosiect gwreiddiol ei gyflwyno gan British Council Cymru mewn partneriaeth gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Yr Athrofa – Addysg i Gymru ac Ein Rhanbarth ar Waith (ERW). Ariannwyd y fenter gan Gronfa Datblygu Athrawon Sefydliad Paul Hamlyn.
Cafodd y caneuon eu creu’n arbennig ar gyfer Cerdd Iaith gan y Prifardd, Mererid Hopwood a’r cyfansoddwyr, Gareth Glyn a Tim Riley.
Rhaglen hyfforddi athrawon
Mae adnodd Cerdd Iaith yn cefnogi athrawon i adeiladu ar wybodaeth dysgwyr o Gymraeg a Saesneg er mwyn cyflwyno trydedd iaith yn y dosbarth, yn unol â gofynion Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’n gyfrwng i ysgogi a thanio brwdfrydedd y plant i ddysgu’n weithredol a dechrau siarad ieithoedd newydd.
Mae arweinwyr y prosiect wedi bod yn gweithio gyda cherddorion, ieithyddion, ymarferwyr drama ac athrawon o Dde a Gorllewin Cymru am y tair blynedd ddiwethaf. Maent yn cyflwyno hyfforddiant yn yr ysgolion ac yn allanol fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus athrawon. Mae’r hyfforddiant yma’n cynnwys gweithgareddau dysgu creadigol a gall hefyd gynnwys ymarferwyr creadigol sy’n dod i mewn i ysgolion i arddangos y gweithgareddau’n uniongyrchol.
Oherwydd y cyfyngiadau a achoswyd gan bandemig Covid-19, rydyn ni nawr yn cynnig yr hyfforddiant yma ar-lein. Yn ystod y ddau sesiwn hyfforddi (2 awr yr un), byddwn yn cyflwyno’r prosiect, yr adnodd ar-lein a’r fethodoleg i athrawon yn ogystal â dangos sut y gellir defnyddio’r cynnwys yn yr ystafell ddosbarth a/neu ar-lein.
Cynlluniwyd adnodd Cerdd Iaith i gyd-fynd â’r rhaglen hyfforddi yr ydym yn ei chynnig (ac i ymestyn elfennau ohoni), ond gellir ei ddefnyddio’n annibynnol hefyd.
Os ydych chi neu eich ysgol eisiau rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu os ydych chi eisiau cofrestru ar gyfer ein sesiynau hyfforddi, cysylltwch â ni yma: TeamWales@britishcouncil.org