Bydd Cyngor Caerdydd yn derbyn cyfanswm o €97,200 (£68,282) o gyllid Ewropeaidd Erasmus+ dros ddwy flynedd i helpu consortiwm o 18 o ysgolion i ddatblygu rhaglen Ysgolion y Goedwig yng Nghymru.
Mae Ysgolion y Goedwig yn annog chwarae a dysgu yn yr awyr agored mewn amgylchedd coetir. Bwriad y cyllid a dderbyniwyd yw datblygu a rhannu arbenigedd yn Ysgolion y Goedwig fel rhan o brosiect symudedd staff Ysgolion Cam Allweddol 1 Erasmus+.
Prosiect dwy flynedd 'Annog Dysgu yn yr Awyr Agored - gweledigaeth ar gyfer Ysgolion yn Ne Cymru' yw'r cyntaf o'i fath i gael ei gynnal yn ardal De Cymru.
Bydd 18 o ysgolion ar draws saith awdurdod lleol yn dod at ei gilydd i wella ansawdd dysgu wrth gyflwyno rhaglen Ysgolion y Goedwig yng Nghymru. Bydd athrawon yn ffurfio rhwydwaith rhanbarthol a chymryd rhan mewn cyfres o raglenni hyfforddi yn Nenmarc a Gwlad yr Iâ. Bydd deunyddiau a syniadau addysgu ar gyfer dysgu yn awyr agored hefyd yn cael eu datblygu a'u rhannu gyda gweithwyr proffesiynol ledled Cymru.
Dywedodd Emily Daly o Gyngor Caerdydd: "Bydd y prosiect hwn yn sylfaen i waith cyffrous iawn rhwng 18 o ysgolion o saith cyngor gwahanol. Mae'n gyfle perffaith i'r 49 o athrawon sy'n cymryd rhan rannu syniadau a phrofiadau, gan gyflawni amcan Llywodraeth Cymru i ehangu ar waith rhwng cyfoedion mewn ysgolion."
Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: "Rydym yn croesawu llwyddiant Cyngor Caerdydd yn fawr, a hoffem weld mwy o ysgolion yng Nghymru yn manteisio ar gyllid Erasmus+. Rydym yn gobeithio y bydd y cyllid ar gyfer prosiect Ysgolion y Goedwig yn ysbrydoli arweinwyr ysgolion eraill i weld sut y gallai eu hysgolion hwy hefyd fanteisio ar raglen Erasmus+."
Mae Ysgol Babanod Cwmaman, Ysgol Gynradd Maes-y-Coed, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville, Ysgol Feithrin Fairoak ac Ysgol Gynradd Lansdowne i gyd yn ysgolion heb fannau gwyrdd, felly bydd staff yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu gweithgareddau cwricwlwm creadigol ac arloesol.
Bydd staff o Ysgol Gynradd Dolau, Ysgol Gynradd Gilwern, Ysgol Gynradd Millbrook, Ysgol Gynradd Gatholig Joseff Sant, ac Ysgol Gynradd Parc y Rhath yn canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd fel rhan o'r prosiect.
Dan arweiniad athrawon sydd wedi derbyn hyfforddiant Ysgolion y Goedwig, bydd staff o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Ffagan, Ysgol y Wern, Ysgol Pwll Coch, Ysgol Melin Gruffydd, Ysgol Gynradd Evenlode, Heronsbridge, Meithrinfa Grangetown ac Ysgol Penalltau yn ystyried y syniadau y tu ôl i Ysgolion y Goedwig a'r rôl bwysig mae dysgu yn yr awyr agored yn ei chwarae yn y cwricwlwm. Byddant hefyd yn dysgu sgiliau newydd ar gyflawni a sut i wneud Ysgolion y Goedwig yn rhan o'u hysgolion nhw.
Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddysgu ffurfiol ac anffurfiol ledled ffiniau'r UE i roi hwb i sgiliau a chyflogadwyedd a moderneiddio addysg, hyfforddiant a gwaith ieuenctid. Y British Council sy'n rheoli rhaglen Erasmus+ yn y DU, mewn partneriaeth â Ecorys UK, ac mae wedi lleoli ei hwb yn ei swyddfa yng Nghaerdydd lle mae dros 50 o bobl wedi'u cyflogi fel rhan o'r rhaglen.