Mae rhaglen ‘Global Wales Discover’, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac a ddatblygwyd gan British Council Cymru, yn cynnig nawdd i fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio mewn prifysgolion yng Nghymru i dreulio cyfnod byr yn astudio, gweithio neu wirfoddoli mewn amryw o wledydd targed ledled y byd.
Datblygwyd y rhaglen mewn ymateb i ffigurau sy’n dangos cyn lleied o fyfyrwyr prifysgol o Gymru sy’n astudio, gwirfoddoli neu fanteisio ar gyfleoedd profiad gwaith mewn gwledydd tramor fel rhan o’u hastudiaethau.
Cynhelir lansiad ffurfiol rhaglen ‘Global Wales Discover’ yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 10 Mehefin 2019. Cefnogir y digwyddiad lansio yma gan Brifysgolion y Deyrnas Unedig, Rhyngwladol (Universities UK International).
Meddai Jenny Scott, Cyfarwyddwr Gwlad British Council Cymru: “Mae profiadau rhyngwladol yn creu cenhedlaeth o bobl ifanc yng Nghymru sydd â chysylltiadau byd-eang. Dengys astudiaethau hefyd bod myfyrwyr sy’n manteisio ar gyfle rhyngwladol yn fwy tebygol o ennill gradd uwch , bod yn gyflogadwy ac ennill cyflog uwch".
“Bydd y rhaglen yma’n helpu i ddatblygu presenoldeb Cymru ledled y byd wrth gefnogi myfyrwyr o Gymru i dreulio amser mewn gwledydd sydd o ddiddordeb arbennig i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys: UDA, Canada, Siapan, Qatar, Fietnam, India, Tsieina a’r Undeb Ewropeaidd gyfan. Bydd y lleoliadau yma’n helpu Cymru i ffurfio perthnasau newydd gydag unigolion, cyrff a sefydliadau yn y gwledydd hyn”.
Datblygwyd y rhaglen beilot £1.6m yma gan British Council Cymru gyda chymorth Llywodraeth Cymru a chynllun Cymru Fyd-eang fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i argymellion Adolygiad Diamond ynghylch cefnogi myfyrwyr sy’n dewis astudio dramor.
Nod y rhaglen yw mynd i’r afael â’r prinder myfyrwyr sy’n cael profiad rhyngwladol yn ystod eu cyfnod prifysgol drwy gynnig cyfleoedd byr-dymor wedi’i hariannu sy’n hawdd i’w trefnu o amgylch cyrsiau’r myfyrwyr a’u hymrwymiadau teuluol a gwaith.
Dywedodd Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg: “Fel un a elwodd yn fawr o’r amser a dreuliais fel myfyriwr yn astudio dramor, rwy’n gwybod o brofiad cymaint y gall profiad o’r fath ehangu eich gorwelion”.
“Rydyn ni’n cymryd camau uniongyrchol i gynnig cyfleoedd, darparu cefnogaeth wedi’i dargedu a gwella cyfleoedd bywyd holl fyfyrwyr Cymru. Mae astudio’n rhyngwladol yn gyfrwng ardderchog i gynyddu symudedd cymdeithasol ac rwyf eisiau sicrhau bod y cyfleoedd yma ar gael i bawb, o bob cefndir a ledled Cymru gyfan.”