Bydd un ar ddeg o brosiectau celfyddydol o Gymru yn mynd â diwylliant Cymru draw i India fel rhan o dymor diwylliannol UK-India 2017.
Yn ystod y flwyddyn bydd aelodau o’r proffesiynau creadigol o Gymru ac India yn teithio i wledydd ei gilydd i gydweithio, ac i ddatblygu, cynhyrchu a pherfformio gwaith newydd.
Mae’r prosiectau wedi’u cynllunio gan sefydliadau creadigol ac aelodau o’r proffesiynau creadigol o bob cwr o Gymru mewn partneriaeth â sefydliadau o India.
Maent wedi cael eu dewis i dderbyn arian o Gronfa India Cymru gwerth £450,000, cynllun ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council, sydd â’r nod o helpu meithrin cysylltiadau rhwng Cymru ac India.
Caiff y rhestr lawn o’r prosiectau a ddewiswyd ei chyhoeddi ddydd Mercher, 8 Chwefror yng Nghanolfan y Mileniwm gan Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi. Ymhlith y siaradwyr yn y lansiad fydd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Nick Capaldi, a Chyfarwyddwr British Council India, Alan Gemmell.
Bydd y portffolio amrywiol o brosiectau yn gweld partneriaid o Gymru ac India yn cydweithio ar draws ystod o ffurfiau celfyddydol, gan gynnwys theatr, dawns, y celfyddydau gweledol, llenyddiaeth a cherddoriaeth.
Bydd perfformiadau yn digwydd yng Nghymru ac yn India, a bydd rhywfaint o’r gwaith ar gael i’w weld ar-lein, gydag artistiaid a chynulleidfaoedd o’r ddwy wlad yn cael budd o’r cyfleoedd, gan gynnwys trwy weithdai, teithiau a sgyrsiau.
Dyma rai o uchafbwyntiau’r prosiect:
• Bydd Theatr Iolo yn gweithio gyda ThinkArts, cwmni o India sy’n cynhyrchu digwyddiadau celfyddydol i blant, er mwyn datblygu theatr newydd i fabanod a phlant ifanc.
• Bydd Llyfrau Parthian yn gweithio gyda Bee Books o India ar eu prosiect ‘Through the Valley, City, Village’, gydag awduron o Gymru ac India yn cydweithio yn Bengal a Chymru i gynhyrchu llyfr newydd.
• Bydd y cwmni theatr Living Pictures o Gymru yn mynd ar daith yn India gyda’u cynhyrchiad ‘Diary of a Madman’, gan weithio gyda chwmni QTP Entertainment o India a fydd yn cynnig gweithdai sgiliau technegol. Cynhelir perfformiad yn y digwyddiad Literature Live yn Mumbai dan nawdd cwmni dur Tata.
Ymhlith yr enwau celfyddydol mawr o Gymru a fydd yn meithrin cysylltiadau ag India mae National Theatre Wales, Canolfan Celfyddydau’r Chapter, Llenyddiaeth Cymru a Ffotogallery.
Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
Mae gan Gymru berthynas gref ag India ers tro. Mae Blwyddyn Diwylliant DU-India 2017 yn cynnig cyfle pwysig i Gymru ac India gryfhau ac adnewyddu’r berthynas honno, a chreu cysylltiadau deinamig newydd drwy gydweithio’n greadigol.
“Rwy’n hynod falch bod Cronfa India Cymru wedi’i sefydlu ar y cyd â’r British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, ac rwy’n sicr y bydd yn gwneud cyfraniad mawr i Flwyddyn Diwylliant DU-India 2017. Bydd hefyd yn gyfle i ddathlu’r cyfraniad diwylliannol y mae cynifer o bobl o dras Indiaidd sy’n byw yng Nghymru, wedi’i wneud i’n bywyd cenedlaethol ni.”
Meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
“2017 yw Blwyddyn Diwylliant y DU-India ac mae’n cynnig cyfle i ddathlu a datblygu’r partneriaethau a’r cysylltiadau sy’n bodoli ers tro rhwng sefydliadau diwylliannol yng Nghymru ac yn India. Mae’r cyfle cyffrous hwn yn hybu ymdeimlad o gyd-ymdrech, a bydd yn arwain at greu gweithgareddau celfyddydol newydd drwy annog ystod eang a newydd o waith theatr, llenyddiaeth, ffotograffiaeth a llawer mwy.”
Meddai Alan Gemmell, Cyfarwyddwr British Council India:
“Mae diwylliant Cymru ac India yn rhannu hoffter o gerddoriaeth, y celfyddydau a chwaraeon. Mae artistiaid a sefydliadau celfyddydol o’r ddwy wlad yn awyddus i brofi diwylliannau ei gilydd drwy ongl gyfoes gan ddysgu ohonynt. Mae’r cyfle hwn yn cynnig llwyfan greadigol i bartneriaid yng Nghymru ac India i greu cyswllt a chydweithio er budd y ddwy wlad gan greu cyfleoedd newydd ar gyfer masnach, buddsoddi a thwristiaeth. Gall y cysylltiadau hyn hefyd fod yn ysbrydoliaeth i fyfyrwyr yn India i ddewis Cymru fel lleoliad i’w hastudiaethau uwch. Rydym yn falch o fod yn bartner i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru i ddathlu Blwyddyn Diwylliant y DU-India yn ystod 2017.”
Yn ôl Raj Aggarwal, Conswl Anrhydeddus India yng Nghymru:
“Mae Cymru ac India ill dwy yn hoff iawn o gerddoriaeth, dawnsio, theatr a llenyddiaeth, felly mae’r prosiect cyfnewid hwn yn gyfle gwych i’r ddwy wlad rannu treftadaeth celfyddydau perfformio ei gilydd. Mae’n brosiect gwych gyda gweledigaeth a chwmpas eang ac yn arbennig o gyffrous am ei fod yn cynnwys cydweithredu a chyfuno doniau’r ddwy wlad i weithio ynghyd i greu gwaith newydd ac unigryw. Bydd dawnswyr proffesiynol o’r ddwy wlad yn perfformio yng Nghymru ac India, a bydd y band o Gymru, Burum, yn gweithio gyda cherddorion blaenllaw India, i gyfuno alawon ac arddulliau y ddwy genedl ar daith yn y ddwy wlad. Bydd gwaith ar y cyd rhwng awduron Cymraeg, Saesneg a Bengali yn cyfuno gwaith chwech o awduron gyda pherfformiadau byw i gyhoeddi darn o waith tairieithog. Mae hwn yn gyfle ardderchog, nid yn unig i weld a mwynhau diwylliant a doniau’r wlad arall, ond hefyd i gydweithio i greu cyfanwaith o’r ddwy sy’n plethu diwylliannau ein gwledydd i’r dyfodol.”
Mae 2017 yn dathlu 70 blynedd o annibyniaeth India ac mae’r British Council wedi datblygu tymor o weithgaredd diwylliannol i nodi’r achlysur. Lansiwyd India Cymru yn y Ffair Lyfrau Ryngwladol yn Kolkata, ddydd Sadwrn, 4 Chwefror, ac roedd Avik Debnath, Uwch Reolwr Datblygu Busnes o Swyddfa Llywodraeth Cymru yn Uchel Gomisiwn Prydain yn Delhi Newydd, yn cynrychioli Cymru yn y digwyddiad.