Bydd yr artistiaid o Gymru, Jo Fong a George Orange yn cymryd rhan yn Nhymor y D.U/Fietnam
Dydd Mercher 14 Mehefin 2023

 

Heddiw yn Hanoi, cyhoeddwyd bod nifer o artistiaid a sefydliadau o Gymru wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn Nhymor y D.U./Fietnam sy’n cael ei chynnal gan y British Council

Bydd y Tymor, sy’n rhedeg o fis Mehefin i fis Rhagfyr 2023, yn amlygu a dathlu’r gorau o fentrau cyfnewid a chydweithio ym maes addysg a diwylliant rhwng y Deyrnas Unedig a Fietnam.

Mae Tymor y D.U./Fietnam yn nodi 30 mlynedd o weithgarwch y British Council yn Fietnam a 50 mlynedd o gysylltiadau diplomyddol rhwng y Deyrnas Unedig a Fietnam. Thema ein tymor o weithgareddau yw’r Hinsawdd a’r Amgylchedd a Threftadaeth Gyffredin. Bydd yn gyfrwng i ddod â meddylwyr blaenllaw, academyddion, addysgwyr, entrepreneuriaid ac artistiaid o sefydliadau amrywiol yn y Deyrnas Unedig a Fietnam at ei gilydd i rannu syniadau a phrofiadau, a thrafod mentrau cydweithio sydd ar waith yn barod yn ogystal â mentrau cydweithio yn y dyfodol ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Bydd yn cynnwys popeth – o hacathonau, preswyliadau a chynadleddau i arddangosfeydd digidol, ffilmiau, cerddoriaeth a chelfyddyd weledol.

Ymysg yr artistiaid o Gymru sy’n cymryd rhan mae Jo Fong a George Orange, a fydd yn cydweithio gyda Saigon Theatreland yn ninas Ho Chi Min a Life Art yn Hanoi ar brosiect o’r enw ‘The Ecology of Community’. Drwy gyfres o weithdai a digwyddiadau stiwdio agored bydd y prosiect yn archwilio’r broses o greu theatr a pherfformiad gydag artistiaid ledled Fietnam.

Yn y cyfamser, bydd yr ysgrifennwr a’r artist, Joshua Jones, yn mynd â’i brosiect ‘We Call it a Room’ i Fietnam. Bydd yn datblygu cysylltiadau rhwng beirdd ac ysgrifenwyr o Gymru a Fietnam gan ganolbwyntio ar hunaniaethau cwiar.

Yn y sector addysg uwch, bydd Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda Phrifysgol Nha Trang a Sefydliad Arloesedd a Chymhwyso Technoleg Nha Trang ar brosiect yn ymwneud â chynaliadwyedd a threftadaeth gyffredin. Bydd gwahoddiad i gynulleidfaoedd o Gymru fynychu a chyfrannu i gyfres o gynadleddau, gweithdai, darlithoedd agored, sioeau diwylliannol, rhaglenni symudedd, tiwtora a mentora academaidd yn ymwneud â’r diwydiannau creadigol.

Yn ogystal, bydd Prifysgol Bangor yn archwilio newid yn yr hinsawdd. Mewn prosiect ar y cyd â Phrifysgol Hanoi byddant yn datblygu rhwydwaith ar gyfer trychinebau naturiol i baratoi ar gyfer canlyniadau posib digwyddiadau sy’n seiliedig ar yr hinsawdd, gan gynnig hyfforddiant ar gyfer  lliniaru trychinebau naturiol i academyddion, gwyddonwyr, aelodau o’r llywodraeth a Sefydliadau Anllywodraethol perthnasol.

O ran yr iaith Saesneg, bydd y sefydliadau o Gaerdydd CELT (Centre for English Language Teaching) a Peartree Languages yn gweithio gyda phartneriaid yn Fietnam ar brosiectau’n ymwneud â’r hinsawdd. Bydd CELT yn gweithio gyda Phrifysgol Phenikaa ar brosiect hyfforddi ar-lein i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd drwy addysgu’r iaith Saesneg, a bydd Peartree Languages yn datblygu prosiect gyda Phrifysgol Thai Nguyen yn canolbwyntio ar hyfforddiant am yr hinsawdd a chynaliadwyedd i athrawon.

Wrth sôn am y tymor, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd fod nifer o artistiaid a sefydliadau addysg o Gymru yn rhan o Dymor y D.U./Fietnam eleni. Mae’r Tymor yma’n gyfle unigryw i ddyfnhau cysylltiadau sydd eisoes yn gryf rhwng Cymru a Fietnam. Dw i’n arbennig o falch bod gyda ni nifer o bartneriaethau sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd

 “Rydyn ni’n gobeithio y bydd y Tymor yma’n rhoi cyfle i bobl o’r ddwy wlad gryfhau’r clymau sy’n bodoli rhyngom yn barod a chreu partneriaethau creadigol newydd ym meysydd y Celfyddydau a Diwylliant, Addysg a’r Iaith Saesneg. Rwy’n edrych ymlaen at y misoedd ysbrydoledig o gyfnewid diwylliannol sydd o’n blaenau.”

Bydd Tymor y D.U./Fietnam yn rhedeg o fis Mehefin i fis Rhagfyr 2023. Am fwy o wybodaeth am Dymor y D.U./Fietnam 2023 ewch i: //www.britishcouncil.vn/en/programmes/uk-vietnam-season-2023  neu dilynwch yr hashnod #UKVNSeason ar gyfryngau cymdeithasol.

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth am Dymor y D.U./Fietnam cysylltwch â:

Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, British Council: +44 (0)7542268752 E: Claire.McAuley@britishcouncil.org  

Gwybodaeth am Dymor y D.U./Fietnam

Mae’r Tymor yma o weithgareddau yn nodi hanner can mlwyddiant y berthynas ddiplomyddol rhwng y Deyrnas Unedig a Fietnam, a 30 mlynedd o bresenoldeb y British Council yn Fietnam. Bydd yn gyfle i sbarduno mentrau cydweithio newydd sy’n dathlu’r gorau o’r cysylltiadau rhwng y Deyrnas Unedig a Fietnam, a chryfhau’r cysylltiadau rhwng trigolion y Deyrnas Unedig a Fietnam. Bydd y Tymor yn dychmygu ein dyfodol gyda’n gilydd drwy ddod ag artistiaid, prifysgolion ac arweinwyr cymdeithas sifil at ei gilydd. Bydd yn rhoi cyfle i bobl ar draws Fietnam a’r Deyrnas Unedig i brofi gwaith creadigol arloesol a chyffrous wrth i rai o gwmnïau, artistiaid a sefydliadau gorau’r ddwy wlad gydweithio a chyd-greu gyda’i gilydd.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2020-21 fe wnaethom ni ymgysylltu â 650 miliwn o bobl.

Rhannu’r dudalen hon