Pupils at Sully Primary School celebrating international week ©

Sully Primary School

Dydd Llun 28 Ebrill 2025

 Ers degawdau bellach, mae cynorthwywyr iaith wedi bod yn rhan fywiog o fywyd ysgolion yng Nghymru - yn dod â Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg a Mandarin yn fyw mewn ystafelloedd dosbarth ar draws y wlad.

Mae nifer ohonynt yn dod drwy raglen Cynorthwywyr Iaith y British Council, gan dreulio rhwng chwe mis a blwyddyn academaidd gyfan yn helpu disgyblion i ddysgu ieithoedd a chynnig cipolwg unigryw ar ddiwylliannau eu gwledydd cartref..

Ond gwelwyd dirywiad cyson yn nifer y cynorthwywyr sy'n ymweld â'n hysgolion ers dechrau'r 2000au - gan gyrraedd y nifer isaf erioed yn ystod pandemig Covid-19. Mae'r dirywiad yn cydfynd â gostyngiad sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern. Ond mae ffactorau eraill wedi cyfrannu at y dirywiad hefyd, gan gynnwys cystadleuaeth gan bynciau STEM, blaenoriaethau ysgolion, agweddau'r gymdeithas ehangach a chyfyngiadau ariannol.

Buom yn siarad â dwy ysgol a'u cynorthwywyr iaith am eu profiadau a'r effaith y mae eu presenoldeb yn dal i'w gael:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ysgol uwchradd gymysg cyfrwng Cymraeg lle mae addysgu a dysgu ieithoedd yn greiddiol. Ar hyn o bryd mae'r ysgol yn addysgu Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg, ac eleni, drwy'r British Council maent wedi croesawu cynorthwywyr iaith Almaeneg a Ffrangeg - gan gynnwys Viktoria, cynorthwyydd Almaeneg o Awstria.

Wrth sôn am y rhaglen, dywedodd Curon Evans, Pennaeth Almaeneg: "Rydyn ni wedi cael cynorthwywyr iaith yma cyhyd ag y gallaf gofio, ac maen nhw i gyd wedi bod yn wych - mae Viktoria wedi bod yn fendith. Mae hi'n eithriadol o alluog a brwdfrydig ac mae ganddi ddiddordeb gwirioneddol mewn gwella hyder a sgiliau siarad y disgyblion. Mae hi wedi creu adnoddau y bydda i'n eu defnyddio hyd nes bydda i'n ymddeol, ac mae hi, i bob pwrpas, wedi cymryd cyfrifoldeb am agwedd lafar yr arholiad Lefel A.

"Mae hi'n dod â dilysrwydd, brwdfrydedd ac egni ifanc i'r dosbarth - ac mae'r disgyblion yn cysylltu â hynny. Does gen i 'mo'r amser nac ychwaith, â bod yn blwmp ac yn blaen, y 'street cred' i redeg clybiau amser cinio. Ond maen nhw'n mynd i'w sesiynau hi o'u gwirfodd - hyd yn oed disgyblion nad oedd yn cymryd rhan o gwbl i ddechrau. Roedd dwy ferch yn eistedd i mewn yn ystod amser cinio tra roedd eu ffrindiau'n gwneud Almaeneg, ac fe ddechreuon nhw gymryd rhan ac arweiniodd hynny atyn nhw'n gofyn a allent wneud mwy. Dyna'r fath o gyfaredd sydd ganddi. Mae hi'n chwalu ystrydebau hefyd. Dyw'r disgyblion ddim yn ei gweld fel 'person tramor' ond yn hytrach, Viktoria yw hi - menyw ifanc hyfryd o Awstria.

"Mae cynorthwywyr iaith fel Viktoria'n hanfodol - maen nhw'n dod ag arbenigedd, brwdfrydedd a dilysrwydd sy'n dod â'r iaith yn fyw. Maen nhw'n cynnig mwy na gwybodaeth haniaethol yn unig; mae'r disgyblion yn cael cyfle i ddefnyddio eu sgiliau wrth ymwneud â pherson go iawn, ac mae hynny'n gwbl amhrisiadwy."

Mae Viktoria Kröll yn dod o Tyrol, talaith yn yr Alpau yng ngorllewin Awstria. Cyn dod ar leoliad yma, bu'n astudio Saesneg ac Almaeneg gyda'r bwriad o fod yn athrawes. Nawr, ym mlwyddyn olaf ei gradd meistr, mae wedi dewis ennill profiad addysgu yn y Deyrnas Unedig fel rhan o'i hastudiaethau.

Dywedodd: "Mae'r ysgol wedi bod yn rhan fawr o fy mhrofiad yma yng Nghymru. Mae'r profiad addysgu wedi bod yn werthfawr - er mod i wedi'i chael yn anodd ar y dechrau gan nad oeddwn i'n gyfarwydd â system ysgolion y DU. Ond, mae'r disgyblion wedi bod yn wych - yn wirioneddol gyfeillgar a brwdfrydig. Dw i'n meddwl mai'r hyn sydd wedi fy synnu fwyaf yw pa mor agored a pharod y maen nhw i ddysgu. Er y bu'n rhaid i fi ddysgu sut i addysgu Almaeneg i ddisgyblion sydd ddim yn ei siarad fel iaith gyntaf, roedden nhw'n wirioneddol frwdfrydig, ac roedd yn rhyfeddol i weld eu cynnydd."

"Dw i heb gael cyfle i ddysgu llawer o Gymraeg yn ystod fy amser yma, ond dw i wedi llwyddo i ddysgu rhai brawddegau elfennol - pethau fel, 'Sut ydych chi?' - dim ond digon i ffeindio fy ffordd yn yr ysgol. Mae'n rhan mor bwysig o'r diwylliant, a byddwn yn dwlu dysgu mwy amdani, yn enwedig ar ôl gweld mor falch yw pobl o'u hunaniaeth yng Nghymru.

"Yn gyffredinol, mae byw ac addysgu yng Nghymru wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn. Dw i wedi cwrdd â chymaint o bobl garedig a chyfeillgar, a dw i wedi cael cyfle i weld ffordd o fyw hollol wahanol. Mae cefn gwlad yma mor hardd, mae'r ysgol wedi bod yn lle ardderchog i weithio ynddo a dw i wedi dysgu cymaint. Yn sicr, byddaf yn gweld eisiau Cymru pan fyddaf yn gadael - mae'n lle sydd wedi creu argraff wirioneddol arna i. Y bobl, y tirlun, y diwylliant - mae'r cyfan wedi bod mor unigryw ac arbennig. Dw i wedi gwirioneddol fwynhau fy amser yma, a dw i'n edrych ymlaen at ddychwelyd a pharhau i ddarganfod yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig."

Mae ieithoedd hefyd yn rhan o guriad calon Ysgol Gynradd Sili ger Penarth. Ar hyn o bryd, mae ganddynt gynorthwyydd iaith Tsieinëeg Mandarin, Stephanie, yn helpu gyda gwersi iaith. Yn ogystal â Mandarin, mae'r ysgol hefyd yn addysgu Cymraeg, Eidaleg, Sbaeneg a Ffrangeg.

Dywedodd Pennaeth yr ysgol, Andrea Waddington: "Rydyn ni wedi bod yn rhan o'r rhaglen cynorthwywyr iaith ers tua 18 mlynedd, ac mae bellach yn rhan naturiol o fywyd yr ysgol. A dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi gweld yr effaith mae wedi ei gael ar y plant. Maen nhw'n fwy brwdfrydig am ddysgu ieithoedd, ac yn deall pwysigrwydd dysgu am ddiwylliannau gwahanol. Mae wedi bod yn arbennig o lwyddiannus gyda'r plant iau. Maen nhw'n dysgu iaith tra hefyd yn dysgu am ddiwylliant Tsieina. Ein nod yw darparu cwricwlwm cyfoethog sy'n annog y plant i fod yn frwdfrydig dros ddysgu.

"Mae'r plant yn mwynhau'r gwersi Mandarin yn fawr. Mae Stephanie'n mynd i mewn i'r dosbarth unwaith yr wythnos, felly ddim bob diwrnod, ond maen nhw'n edrych ymlaen yn fawr at y wers. Maen nhw'n llawn cyfrro am ddysgu iaith newydd a dysgu am ddiwylliant newydd, sy'n wych achos mae hynny hefyd yn sbarduno eu brwdfrydedd dros ddysgu Cymraeg. Roedd adeg pan nad oedd y plant yn hoff o'r syniad o ddysgu Cymraeg, ond nawr maen nhw ei gweld fel unrhyw iaith arall, fel Mandarin neu Eidaleg, ac maen nhw wedi dod i ddwlu ar ei dysgu.

"Mae Mandarin hefyd wedi cael effaith fawr ar ddatblygiad y plant. Nid yn unig maen nhw'n dysgu'r iaith, ond mae eu sgiliau echddygol manwl hefyd yn gwella - yn enwedig wrth iddyn nhw wneud gweithgareddau crefft fel origami. Rydyn ni wedi gweld twf yn y brwdfrydedd dros ddysgu am y byd, ac mae'r plant hefyd wedi tyfu'n fwy chwilfrydig am wledydd a diwylliannau eraill.

"Yn ariannol, rydyn ni wedi gallu manteisio ar y rhaglen drwy rannu Stephanie gyda dwy ysgol arall. Mae hi'n gwneud 12 awr yr wythnos - wedi'u rhannu rhyngom ni, Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Ysgol Stanwell. Mae cryn dipyn o ddisgyblion Tsieineaidd yn Fitzalan; maen nhw'n Dsieiniaid ail genhedlaeth. Mae Stephanie'n eu cefnogi drwy eu helpu i ymarfer eu Tsieinëeg, sy'n ffordd ardderchog o roi cymorth i'r disgyblion hynny a'u helpu i deimlo cysylltiad â'u treftadaeth. Rydyn ni hefyd wedi derbyn cymorth drwy grantiau, sydd wedi bod o help mawr gydag ochr ariannol pethau."

Mae Stephanie Li yn rhannu ei rôl fel cynorthwyydd iaith ar draws nifer o ysgolion, gan roi cefnogaeth i ddisgyblion lleol a disgyblion Tsieineaidd ail genhedlaeth.

Wrth sôn am ei hamser yng Nghymru, dywedodd: "Dw i'n mwynhau addysgu yma'n fawr achos mae adwaith ac adborth y disgyblion wastad mor bositif. Bod tro dw i'n dysgu rhywbeth iddyn nhw, fel sut i fy nghyfarch mewn Tsieinëeg, mae'n gwneud i fi deimlo mod i nôl yn Tsieina. Mae'n brofiad mor werthfawr.

"Gyda'r plant iau, dw i'n mwynhau'n arbennig canolbwyntio ar yr agweddau diwylliannol. Efallai nad ydyn nhw bob tro'n canolbwyntio'n llwyr ar yr elfen ieithyddol, ond pan fydda i'n cyflwyno agwedd o ddiwylliant Tsieina, maen nhw'n cyffroi a holi cymaint o gwestiynau. Mae'n ddiddorol iawn i weld eu chwilfrydedd am Tsieina.

"Gyda'r disgyblion hŷn, mae'n grêt achos mae ganddyn nhw ddealltwriaeth gadarn o ddysgu iaith yn barod. Dw i'n gallu addysgu mwy o elfennau iaith penodol iddyn nhw, ac maen nhw'n codi pethau mor gyflym. Dw i wastad yn cael fy synnu gan gymaint maen nhw'n ei ddysgu, a dw i'n cael boddhad mawr wrth weld eu cynnydd.

"A dw i hefyd wrth fy modd yng Nghymru. Dw i wedi teithio o gwmpas De Cymru gyda fy ffrindiau, a dw i'n arbennig o hoff o ardaloedd yr arfordir. Dw i'n credu bod Cymru'n lle gwych, a dw i wedi cael croeso mor gynnes yma."

Wrth drafod rhaglen Cynorthwywyr Iaith y British Council, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:

"Mae rhaglen Cynorthwywr Iaith y British Council yn chwarae rhan allweddol drwy ddod ag ieithoedd yn fyw mewn ysgolion yng Nghymru. Wna i fyth anghofio'r cynorthwyydd iaith Ffrangeg a ddaeth i fy ysgol i - cafodd hi ddylanwad anferth drwy ein helpu i berffeithio'r acen, trochi ein hunain yn y diwylliant a'n cyflwyno i agweddau ffres a chyfoes o'r wlad."

"Mae ein cynorthwywyr yn sbarduno disgyblion mewn ffyrdd real a gwahanol, gan helpu pobl ifanc i feithrin ymwybyddiaeth fyd-eang a thyfu'n fwy agored eu meddwl. Rydyn ni'n annog pob ysgol yng Nghymru i anfon cais, a helpu i ail-danio cariad at ddysgu ieithoedd mewn amgylchedd dysgu sy'n adlewyrchu'r byd go iawn."

Mae amser ar ôl o hyd i ysgolion wneud cais i gymryd rhan yn rhaglen Cynorthwywyr Iaith 2025-26 y British Council. Mae'r broses ymgeisio ar agor tan Ddydd Mercher, 30 Ebrill 2025. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.britishcouncil.org/school-resources/employ-language-assistant

Mae'r rhaglen Cynorthwywr Iaith yn parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng y Deyrnas Unedig a'r byd drwy addysg, y celfyddydau ac addysgu'r iaith Saesneg. Cewch fwy o wybodaeth am waith y British Council yng Nghymru ar ein gwefan https://wales.britishcouncil.org/  neu drwy ein dilyn ar X, Facebook neu Instagram.

Nodiadau i olygyddion

Ymholiadau'r cyfryngau - cysylltwch â:

Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, British Council:

+44 (0)7542268752     E: Claire.McAuley@britishcouncil.org                   

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn meithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2022-23 fe wnaethom ni ymgysylltu â 600 miliwn o bobl. Cafodd y British Council ei sefydlu yn 1934, rydym yn elusen yn y Deyrnas Unedig a reolir gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y DU.

Rhannu’r dudalen hon