Daeth dros 100 o addysgwyr o ledled Cymru at ei gilydd ddydd Llun Mawrth 31 ar gyfer Cynhadledd Ysgolion Bro yng Nghaerfyrddin.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan British Council Cymru a Llywodraeth Cymru i amlygu sut mae prosiectau cymunedol wedi gweddnewid addysg a chymunedau lleol. Roedd siaradwyr gwadd rhyngwladol hefyd yn cymryd rhan yn y gynhadledd - yn rhannu eu profiadau a'u mewnwelediad.
Un o'r ysgolion dan sylw oedd Ysgol y Bedol yn Garnant, Rhydaman. Mae'r ysgol gynradd hon, yn hen bentref glofaol Garnant, wedi meithrin cysylltiad dwfn â'r gymuned leol, gan ddod â bywyd newydd i'r ardal.
Sefydlwyd Ysgol y Bedol ugain mlynedd yn ôl fel rhan o fenter Llywodraeth Cymru, 'Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif'. Cafodd yr ysgol ei chynllunio gyda golwg ar hwyluso defnydd cymunedol. Mae'n cynnwys adnoddau fel llyfrgell gymunedol, ystafell heddlu, campfa, neuadd chwaraeon a chaffi.
Mae'r ysgol yn cynnal amrywiaeth o brosiectau cymunedol, gan gynnwys menter pontio'r cenedlaethau sy'n paru disgyblion gyda thrigolion oedrannus sy'n mynychu canolfan ddydd gerllaw i chwarae gemau a gwneud gweithgareddau gyda'i gilydd. Fel yr esboniodd y Pennaeth, Gethin Richards, "Cafodd ein hysgol ei hadeiladau o'r cychwyn gyda'r gymuned wrth ei chalon. O'r diwrnod cyntaf, rydyn ni wedi gwneud yn siwr nad lleoliad ar gyfer addysg yn unig yw'r ysgol, ond canolfan i'r gymuned gyfan. Nid dim ond addysgu plant yw'r nod yma; mae ein golwg ar feithrin rhywbeth mwy. Drwy'r fenter hon rydyn ni'n gweld fod y genhedlaeth hŷn yn teimlo eu bod yn fwy o ran o'r gymuned, ac mae'r disgyblion hefyd yn cael cyfle i ddysgu drwy rannu eu straeon a'u profiadau."
Yn ogystal, mae'r ysgol wedi sefydlu caffi sydd nid yn unig yn agored i gymuned yr ysgol ond sydd hefyd yn cefnogi achosion lleol. Mae'r disgyblion yn cyfrannu at redeg y caffi drwy baratoi bwyd, tyfu cynyrch a threfnu digwyddiadau. Mae'r ysgol hefyd yn rhedeg clwb 'bwyd a hwyl' yn ystod gwyliau'r haf, gan ddarparu prydau a gweithgareddau i blant o gefndir difreintiedig.
“Nod y cyfan yw cysylltu â phobl,” meddai Gethin. “Drwy roi cyfle i'r disgyblion fod yn rhan o weithgareddau fel hyn, maen nhw'n dysgu am werth bod yn rhan o gymuned a'r effaith y gallant ei gael ar y bobl o'u cwmpas.”
Mae'r ysgol wedi bod yn greadigol wrth godi arian i gefnogi'r mentrau hyn. Mae'r gweithgareddau cymunedol a redir gan yr ysgol yn golygu y gallant ail-fuddsoddi unrhyw arian yn yr ysgol. Fel yr esbonia Gethin, "Rydyn ni wedi creu gweithgareddau fel y caffi sydd nid yn unig yn tanio diddordeb y disgyblion ond sydd hefyd yn helpu i ariannu gweithgareddau'r ysgol. Rydyn ni'n defnyddio'r arian yna i helpu gyda phopeth - o dripiau ysgol i wella'r adnoddau ar gyfer y dysgwyr."
Mae'r ysgol hefyd wedi ffurfio partneriaethau gyda sefydliadau lleol, fel fferm wynt gyfagos, i gefnogi prosiectau amgylcheddol ac addysgol. Mae'r cydweithio hwn wedi arwain at ddatblygu gardd, cut ieir a thwnel polythen gan ddarparu profiadau dysgu uniongyrchol gwerthfawr i'r disgyblion.
"Rydyn ni'n gwneud mwy na dim ond addysgu mewn ystafell ddosbarth," meddai Gethin. "Rydyn ni'n rhoi cyfle i'r disgyblion fod yn rhan o brosiectau yn y byd go iawn sy'n cael effaith bositif ar yr amgylchedd a'r gymuned. Mae'r partneriaethau hyn yn rhoi cyfle i'r disgyblion gysylltu'r hyn y maent yn ei ddysgu gyda'r byd o'u cwmpas."
Mae Lucy Lock yn athrawes Blwyddyn 3 ac arweinydd cwricwlwm yn Ysgol Gynradd Bro Banw yn Rhydaman lle maen nhw wedi gweithio'n galed i sicrhau fod yr ysgol yn ganolfan i'r gymuned gyfan. Mae'r plant yno wedi cymryd rhan mewn prosiectau gwastraff bwyd, prydau cymunedol a thyfu bwyd. Fel yr esbonia Lucy, "I ni, dechreuodd hyn o ddifrif gyda chynllun 'Big Bocs Bwyd' Llywodraeth Cymru. Dyna oedd un o'r camau cyntaf i wneud ein hysgol yn ganolfan i'r gymuned. Y syniad y tu ôl i 'Big Bocs Bwyd' oedd tanio diddordeb pobl ifanc oedd yn cael trafferth i gysylltu ag addysg draddodiadol. Drwy weithio ar brosiectau uniongyrchol a dysgu mewn cyd-destun ymarferol yn y byd go iawn, dechreuodd hyder a sgiliau'r disgyblion hyn flodeuo mewn ffyrdd oedd yn taro deuddeg â nhw.
"O hynny, fe wnaethon ni ehangu ein gwaith, gan gydweithio ag elusen Foodshare i fynd i'r afael ag ansicrwydd am fwyd. Mae'n golygu fod un peth yn llai gan deuluoedd i boeni amdano, ac mae'n helpu i sicrhau bod disgyblion yn gallu rhoi'u holl egni i ddysgu yn hytrach na methu canolbwyntio am eu bod yn llwgu. Mae effaith bositif Foodshare ar ddysgwyr a theuluoedd wedi bod yn sylweddol, ac wedi lleihau rhwystrau i addysg a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y gymuned," meddai Lucy.
I Lucy, roedd mabwysiadu llythrennedd bwyd fel rhan o'r cwricwlwm yn rhan bwysig o'r prosiect. Meddai: "Fe wnaethom ni sylweddoli bod addysgu plant am fwyd - nid sut i goginio'n unig ond deall o ble mae bwyd yn dod, sut mae'n effeithio ar ein hiechyd a sut i wneud dewisiadau mwy iach - yn hollbwysig.
Mae dysgwyr yr ysgol hefyd yn arwain mentrau fel rhaglen Waste Wizards, sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, a chaffi a arweinir gan y dysgwyr sy'n rhoi cyfle iddynt ddysgu drwy gael profiad uniongyrchol o goginio, gwasanaeth cwsmer a rheoli busnes."
Dywedodd Lucy: "Mae'r mentrau hyn yn grymuso dysgwyr drwy brofiad gwaith ymarferol, lle maent yn dysgu sgiliau coginio, gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli arian. Mae'n fater o roi perchnogaeth o'r prosiect i'r dysgwyr. Nhw sy'n gwneud y penderfyniadau a chymryd cyfrifoldeb a dysgu sgiliau bywyd drwy geisio a methu.
"Mae ffaith bod rhieni a gwirfoddolwyr wedi ymroi'n llwyr wedi bod yn allweddol i lwyddiant y mentrau hyn. Mae llawer o rieni ac aelodau o'r gymuned wedi rhoi o'u hamser a'u harbenigedd ac wedi chwarae rhan hollbwysig yn y rhwydwaith eangach o gefnogaeth rydym wedi ei datblygu."
I ehangu'r gwaith gyda'r gymuned ymhellach, yn ddiweddar mae'r ysgol wedi ennill nawdd gan y Loteri i greu cegin newydd o'r radd flaenaf. Dywedodd Lucy: "Bydd y gegin yma'n ein galluogi i ehangu ein rhaglenni cymunedol, a chynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am goginio a maeth. Bydd hefyd yn lleoliad ar gyfer dosbarthiadau coginio lleol a digwyddiadau cymunedol.
"Drwy hyn oll, rydym wedi parhau i ymroi i ddathlu'r amrywiaeth ddiwylliannol sydd yn ein hysgol. Rydyn ni'n gweithio i sicrhau fod pob dysgwr, waeth beth yw eu cefndir, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Mae hyn yn fwy nag addysg yn unig. Rydyn ni am greu amgylchedd lle gall pob plentyn ffynnu, teimlo'n ddiogel a bod yn rhan o rywbeth sy'n fwy na dim ond nhw."
Yn y cyfamser, yn Ysgol Pen Rhos yn Llanelli, mae'r Pennaeth Joe Cudd yn defnyddio dulliau arloesol i gryfhau cysylltiadau cymunedol yr ysgol. Mae'r ysgol, sydd mewn ardal arbennig o ddifreintiedig, yn ymrwymo i sicrhau bod clywed llais y plentyn, ymgysylltu â theuluoedd a llesiant wrth galon ethos yr ysgol.
Dywedodd Joe: " Rydyn ni'n credu mai teuluoedd yw'r addysgwyr cyntaf, ac mai ein rôl ni yw eu cefnogi nhw drwy rymuso ein dysgwyr i wneud gwahaniaeth. Mae ein gwaith yn fwy nag addysg yn ei ystyr draddodiadol yn unig. Er enghraifft, rydyn ni'n arwain rhaglenni blaengar fel defnyddio Minecraft i addysgu dysgwyr am newid yr hinsawdd. Ac mae ein rhaglen gadw gwenyn yn fwy na ffordd o hybu cynaliadwyedd; mae hefyd yn helpu i hybu iechyd meddwl.
"Un o'r prosiectau a gafodd effaith fawr oedd ein menter i godi ymwybyddiaeth o ganser y colon. Yn ein cymuned ni, roedd y nifer oedd yn mynd i gael eu sgrinio ar gyfer canser y colon yn isel iawn. Felly, fe wnaethon ni gynnal Menter Gancr Moon Dance, lle'r oedd dysgwyr cynradd yn gweithio gyda llawfeddyg nodedig ym maes y colon a'r rhefr i ddysgu am gancr y colon a'r rhefr ac am yr arwyddion a'r symptomau. Yna, fe aethon nhw â'r neges honno allan i'r gymuned. Arweiniodd hynny at gynydd sylweddol yn y nifer a aeth i gael eu sgrinio ar gyfer canser y colon. Mae'n enghraifft wych o sut y gall plant fod yn eiriolwyr pwerus yn eu cymuned."
Yn ogystal â'r mentrau llawr gwlad hyn, mae Ysgol Pen Rhos hefyd ar flaen y gad o ran defnyddio technoleg Deallusrwydd Artiffisial i weddnewid agweddau o fywyd y gymuned. Dywedodd Joe: "Drwy ddefnyddio adnoddau DA, rydyn ni'n dadansoddi data demograffig lleol i gael gwell dealltwriaeth o anghenion y gymuned a chreu cynlluniau y gellir eu rhoi ar waith. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n gweithio gyda thair ysgol yng Nghymru i ddatblygu model y gall penaethiaid mewn ysgolion eraill ei mabwysiadau i gynnal mentrau sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Ein nod yw sicrhau fod pob ysgol nid yn unig yn ganolfan ar gyfer addysgu a dysgu academaidd, ond hefyd yn sbardun i newid positif yn y gymuned.
"Yn y pendraw, nod y mentrau hyn oll yw sicrhau bod ein hysgol nid yn unig yn ganolfan ar gyfer addysgu a dysgu academaidd ond hefyd yn rhan hollbwysig o fywyd y gymuned, gan helpu'r plant a'u teuluoedd i ffynnu ym mhob ffordd bosibl."
Yn ystod y gynhadledd cafwyd annerchiadau gan siaradwyr gwadd o'r tu hwnt i Gymru, sef Lee Elliot Major, Athro Symudedd Cymdeithasol ym Mhrifysgol Exeter, a Michelle Dolan, Pennaeth Ysgol Uwchradd St Louis yn Dundalk, Iwerddon.
Agorwyd y gynhadledd gan Nicola Edwards, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Ecwiti mewn Addysg (Llywodraeth Cymru) a chafwyd gair o groeso gan Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Wrth sôn am Ysgolion Bro, dywedodd Lynn Neagle:
"Rwy am i holl ysgolion Cymru fod yn Ysgolion Bro. Dyna pam rwy mor falch i fod yn buddsoddi dros £31 miliwn mewn dulliau gweithredu Ysgolion Bro ac adnoddau ar eu cyfer yn y flwyddyn ariannol hon.
"Drwy weithio gyda'n gilydd i rannu syniadau, arfer gorau ac ymchwil o bob rhan o Gymru a gwledydd eraill gallwn barhau i yrru agenda Ysgolion Bro yn ei flaen, gan helpu i osod y sylfeini gorau ar gyfer addysgu a dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc ym mhob cwr o Gymru."
Hon oedd y drydedd Gynhadledd Ysgolion Bro a gynhaliwyd yng Nghymru gan British Council Cymru - yn dilyn digwyddiadau llwyddiannus yng Nghaerdydd a Wrecsam. Mae'r gynhadledd yn parhau i fod yn llwyfan hollbwysig i rannu gwybodaeth, meithrin cydweithio ac ysbrydoli ymgysylltiad cymunedol pellach ym maes addysg.
Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Rydyn ni'n falch i gefnogi a dathlu gwaith ysgolion yng Nghymru sy'n gwneud gwahaniaeth diriaethol yn eu cymunedau. Mae'r mentrau hyn yn tanlinellu'r pŵer sydd gan addysg i ddod â phobl at ei gilydd ac ysgogi newid cymdeithasol arwyddocaol. Wrth ddod â chynrychiolwyr nodedig, arweinwyr lleol ac addysgwyr at ei gilydd fel hyn gallwn rannu arfer gorau a datblygu rhwydwaith fyd-eang o arloesi a chydweithio. Gyda'n gilydd, gallwn lywio dyfodol addysg yng Nghymru a meithrin potensial pob dysgwr."
Mae mwy o wybodaeth am waith British Council Cymru yng Nghymru ar gael ar ein gwefan British Council Cymru neu dilynwch ni ar X, Facebook neu Instagram.