Swansea teachers visiting Harlem Children's Zone in New York State to exchange ideas on community school approach
Dydd Mercher 01 May 2024

Mae dirprwyaeth o 11 o athrawon o ysgolion yn Abertawe wedi dychwelyd i Gymru'n ddiweddar ar ôl ymweld â menter nodedig Parth Plant Harlem (Harlem Children's Zone) yn Efrog Newydd. Fe deithion nhw i Harlem i ddysgu'n uniongyrchol am y 'Dull Ysgolion Cymunedol' sy'n cael ei hybu gan sefydliadau arloesol fel Parth Plant Harlem (HCZ). Mae'r model yma'n rhan o bolisi ehangach Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a drafodwyd mewn cynhadledd am Ysgolion Bro a gynhaliwyd yn Wrecsam yr wythnos ddiwethaf.

Yn ystod wythnos brysur yn Efrog Newydd, cafodd yr athrawon gyfle i weld model HCZ ar waith drostynt eu hunain. Cawsant gyfle i gwrdd ag ymarferwyr ac arsylwi ar waith partneriaethau cymunedol, mentrau iechyd, rhaglenni ymgysylltu â theuluoedd a gweithgareddau ar ôl ysgol yn ogystal â dysgu am strategaethau i gynyddu ymgysylltiad cymunedol a deilliannau addysgol mewn ardaloedd difreintiedig.

Dyma'r trydydd ymweliad o'r fath a hwyluswyd gan British Council Cymru i ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol a phersbectifau byd-eang ar fodelau addysg sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Ar deithiau blaenorol, ymwelodd athrawon o Gymru ag Efrog Newydd yn 2017, a Fflorida yn 2019. Roedd y daith yma'n rhan o Raglen Addysg Ryngwladol (IEP) British Council Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

"Mae Parth Plant Harlem wedi ein syfrdanu. Mae angerdd y staff, y cydgysylltiad drwy'r sefydliad cyfan, yr ymroddiad i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llithro drwy'r craciau - mae'n wirioneddol ysbrydoledig" dywedodd Peter Owen, Pennaeth Ysgol Gymunedol Townhill yn Abertawe. "Mae HCZ yn cynnig model pwerus i ni ystyried sut y gallwn wella deillianau ar gyfer ein dysgwyr mwyaf difreintiedig yn economaidd."

Pwysleisiodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru, werth y rhaglen gyfnewid ryngwladol: "Mae cysylltu ein hathrawon gyda rhaglenni rhyngwladol arloesol yn helpu i roi syniadau blaengar ar waith yma yng Nghymru. Bydd y prosiect yma gyda Pharth Plant Harlem yn cynnig dealltwriaeth newydd ac amhrisiadwy i helpu datblygu'r model Ysgolion Bro yng Nghymru. Mae'r ymweliadau datblygu proffesiynol hyn wedi creu cysylltiadau dwfn a chyfleoedd dysgu rhwng UDA a Chymru, ac mae'r ddwy wlad yn elwa ar ganlyniadau hynny."

Wrth sôn am y gynhadledd Ysgolion Bro yn Wrecsam, ychwanegodd: "Cawsom glywed straeon ysbrydoledig gan athrawon ac ysgolion am brosiectau yng Ngogledd Cymru sy'n canolbwyntio ar gymunedau, yn ogystal â chlywed gan arweinwyr polisi ar ddatblygiadau polisi ym maes ysgolion bro."

Mae'r ymweliadau rhyngwladol hyn yn cyd-fynd â blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o fabwysiadu dull ysgolion cymunedol i roi cefnogaeth i ddisgyblion, ysgolion a'u cymunedau ehangach.

Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: "Ein huchelgais yw i holl ysgolion Cymru fod yn Ysgolion Bro - yn ymateb i anghenion eu cymunedau, adeiladu partneriaethau cadarn gyda theuluoedd a chydweithio'n effeithiol gyda gwasanaethau eraill."

"Roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i ni wahodd persbectif rhyngwladol ar ein gwaith yng Nghymru, a dangos enghreifftiau o ysgolion yng Nghymru sydd wedi datblygu dulliau Ysgolion sy'n Canolbwyntio ar y Gymuned."

Ddydd Iau diwethaf mynychodd dros 100 o ymarferwyr y gynhadledd Ysgolion Bro yn Wrecsam - y tro cyntaf i'r gynhadledd gael ei chynnal yng Ngogledd Cymru. Cafwyd cyflwyniadau am bartneriaethau amlasiantaeth, strategaethau ymgysylltu â theuluoedd ac effaith y model ymgysylltu mewn ardaloedd fel Wrecsam, Prestatyn a Llangefni.

Cyflwynwyd prif anerchiadau'r gynhadledd gan Dr Amy Ellis o Ganolfan Ysgolion Cymunedol Prifysgol Canol Fflorida a rannodd ei phrofiad a'i harbenigedd yn UDA, a Nicola Edwards, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Adran Tegwch mewn Addysg, Llywodraeth Cymru.

Cafwyd cyfraniadau o ogledd Cymru gan Donna Dickenson, Pennaeth Gwasanaeth Atal a Gofal a Chefnogaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a Lisa Mathews, Rheolwr Ysgolion Bro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Roedd y Gynhadledd Ysgolion Bro yma a gynhaliwyd gennym yn parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a thramor. Cewch fwy o wybodaeth am waith British Council Cymru yma: https://wales.britishcouncil.org/en neu dilynwch ni ar Twitter, Facebook neu  Instagram.

-Diwedd-

Ymholiadau Cyfryngau:

Rosalind Gould | Rheolwr Cyfryngau, Y Deyrnas Unedig

rosalind.gould@britishcouncil.org
M +44 (0)777 0934 953

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2022-23 fe wnaethom ni ymgysylltu â 600 miliwn o bobl. 

Rhannu’r dudalen hon