Mae ffigurau yn dangos gostyngiad arall yn nifer y disgyblion sy'n sefyll arholiadau mewn ieithoedd tramor yn 2017 yng Nghymru, er hyn mae Sbaeneg yn mynd yn groes i'r tuedd hwn gan fod y nifer sydd wedi cofrestru i sefyll arholiadau Safon Uwch a TGAU wedi cynyddu.
Mae nifer y disgyblion sy'n sefyll arholiadau TGAU mewn Ffrangeg ac Almaeneg wedi gostwng, gyda'r nifer sy'n dewis Ffrangeg yn gostwng o 4312 y llynedd i 3842 eleni a'r nifer sy'n dewis Almaeneg yn gostwng o 1196 i 828. Gwnaeth nifer y disgyblion sy'n sefyll arholiadau Sbaeneg gynyddu i 1570 o gymharu â 1507 yn 2016.
Mae ffigurau Safon Uwch yn dangos y gwnaeth nifer y disgyblion sy'n sefyll arholiadau Ffrangeg ostwng i 357 o gymharu â 416 yn 2016 a bod y nifer sy'n sefyll arholiadau Almaeneg wedi gostwng i 104 o 123 yn 2016. Gwnaeth y nifer sy'n sefyll arholiadau Safon Uwch Sbaeneg gynyddu i 178 o gymharu â 162 y llynedd.
Wrth sôn am y ffigurau, dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru:
"Nododd adroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru, a gyhoeddwyd gan y British Council ym mis Mehefin 2017, fod y nifer sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern yn parhau i ostwng ym mlynyddoedd 10 ac 11, gan ddangos y byddai'r rhifau yn disgyn hyd yn oed yn fwy yn 2017 a 2018. Yn anffodus, mae'r rhagfynegiad hwn ar gyfer 2017 wedi troi'n realiti.
"Mae ennill cymhwyster mewn iaith dramor fodern yn gamp wirioneddol, nid yw'r cyrsiau na'r arholiadau yn opsiwn hawdd, ond mae cymwysterau mewn iaith dramor yn fanteisiol yn broffesiynol ac yn bersonol mewn byd sy'n gynyddol gysylltiedig.
"Y gwir amdani yw, wrth i Gymru a gweddill y DU weithio i ail-osod eu hunain ar lwyfan y byd, mae ieithoedd yn fwy pwysig nag erioed. Nid dim ond ffordd dda o ymwneud â diwylliant arall yw dysgu iaith; mae hefyd yn rhoi hwb i ragolygon gwaith a gall roi hyder i bobl ifanc fanteisio ar gyfleoedd rhyngwladol. Mae'n hollbwysig ein bod yn annog llawer mwy o bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau iaith nawr ac yn y dyfodol.
"Yn yr hydref, byddwn yn gweithio â ffigyrau blaenllaw yn y sector ieithoedd yng Nghymru er mwyn datblygu syniadau newydd i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol y gostyngiad parhaus hwn."
Darparwyd yr holl ffigurau gan y Cyd-bwyllgor Cymwysterau.