Sylwadau British Council Cymru ar gyrsiau ieithoedd Safon Uwch
Mae ffigurau Safon Uwch 2015 CBAC yn dangos bod nifer cofrestriadau ar gyfer arholiadau ieithoedd tramor yn parhau'n gymharol sefydlog - gyda 460 ar gyfer Ffrangeg (468 yn 2014), 121 ar gyfer Almaeneg (114 yn 2014) a chynnydd sylweddol ar gyfer Sbaeneg gyda 219 o'i gymharu â 167 y llynedd.
Wrth sôn am y ffigurau, dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru:
“Mae nifer y cofrestriadau ar gyfer ieithoedd tramor modern yn parhau'n isel iawn, ond rydym yn falch o weld bod y gostyngiad wedi stopio eleni. Mae'r cynnydd iach yn nifer y rhai sy'n astudio Sbaeneg yn galonogol iawn, gan fod Sbaeneg ar frig rhestr y British Council o'r deg iaith sydd fwyaf eu hangen gan y DU. Mae'r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n astudio Ffrangeg a Sbaeneg ar lefel Safon UG yn peri mwy o bryder - ein gobaith yw y bydd y disgyblion hynny'n sy'n astudio ieithoedd y parhau â nhw at Safon Uwch. Mae'r graddau pasio da a'r gyfran barchus o raddau uchel yn dangos bod addysgu ieithoedd o'r radd flaenaf ar gael mewn ysgolion yng Nghymru a bod gan ein pobl ifanc yn bendant y gallu i basio arholiadau ieithoedd.
“Mae angen i Gymru weld mwy o bobl ifanc yn astudio ieithoedd er mwyn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir mewn busnes rhyngwladol. Rydym hefyd yn gwybod y gall diffyg sgiliau iaith atal pobl ifanc rhag manteisio ar gyfleoedd rhyngwladol, a all fod yn allweddol i lwyddiant gyrfaol a datblygiad personol yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi strategaethau newydd ar waith i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dewis astudio ieithoedd ar lefel TGAU a Safon Uwch ac rydym yn gweithio gyda nhw. Yn y dyfodol, gobeithiwn weld mwy o ddisgyblion yn astudio ieithoedd.”
Cyhoeddodd British Council Cymru Tueddiadau Iaith Cymru ym mis Mehefin 2015; canfu'r adroddiad bod dysgu ieithoedd tramor yn cael ei wthio i'r cyrion fwyfwy o fewn y cwricwlwm yng Nghymru, gyda nifer y disgyblion sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern yn lleihau.