Dydd Llun 21 Tachwedd 2016


Mae tîm economi creadigol Prifysgol Caerdydd yn cynnull symposiwm i ystyried yr elfennau a geir mewn dinas greadigol, mewn partneriaeth â British Council Cymru.

Mae Caerdydd: Prifddinas Greadigol yn ymateb i ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd yr economi greadigol, nid yn unig o ran ei chyfraniad at ansawdd bywyd pobl, ond fel rhan benodol o'r economi yn ei rhinwedd ei hun.

Bydd y digwyddiad yn tynnu ar yr hyn a ddysgwyd o flwyddyn gyntaf Rhwydwaith Caerdydd Creadigol - prosiect â'r nod o gadarnhau Caerdydd fel dinas greadigol, gyda sector diwylliannol sylweddol sydd yn rhan o ffabrig bywyd y ddinas ac sydd hefyd yn gonglfaen ei heconomi.

Gyda chefnogaeth  British Council Cymru, bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys themâu a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn sgil ymchwil ehangach a safbwyntiau meddylwyr blaenllaw yn yr economi greadigol.

Cyflwynir y brif araith gan yr economegydd blaenllaw yn y maes hwn, a Chyfarwyddwr Economi Greadigol mewn Polisi ac Ymchwil yn Nesta, Hasan Bakhshi.

Deiliad Cadair yr Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Ian Hargreaves, fydd yn cadeirio'r symposiwm. Dywedodd: "Caiff Caerdydd ei hyrwyddo fel dinas wych i fyw ynddi. Mae hynny'n iawn, ond rydym ni am ychwanegu bod dinas braf i fyw ynddi yn ddinas greadigol. 

"Mae gwaith Caerdydd Creadigol yn ymwneud â chynyddu momentwm economi greadigol y ddinas rhanbarth, fydd yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn darparu swyddi, ffyniant a ffordd gyfoethocach o fyw. 

"Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio i ddatblygu'r sgwrs mae Caerdydd yn ei chael gyda dinasoedd creadigol eraill ac edrych ar anghenion y sector creadigol, mewn meysydd fel seilwaith digidol ac addysg."

Dywedodd Rebecca Gould, Pennaeth y Celfyddydau yn British Council Cymru: "Mae ymchwil Rhwydwaith Caerdydd Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd yn allweddol i ddwysau ein dealltwriaeth o economi greadigol ffrwythlon Caerdydd a bydd yn darparu tystiolaeth empirig gadarn o statws y ddinas fel un o ganolfannau creadigol craidd y DU. Mae'r symposiwm yn cynnig cyfle i ni rannu'r ymchwil hwn gyda chynulleidfa eang; i fywiogi, ysbrydoli ac addysgu.

 "Mae creadigrwydd, boed yn dod o lawr gwlad, gan sefydliadau annibynnol neu ddiwydiannau ffurfiol sefydledig, yn rhedeg drwy enaid Cymru. Mae Caerdydd, fel prif ddinas, mewn sawl ffordd yn ganolog i hyn. Mae cefnogi rhwydwaith greadigol Caerdydd yn bwysig nid yn unig o safbwynt economaidd ond hefyd o safbwynt cymdeithasol."

Nod allweddol sydd gan y prosiect Economi Greadigol a Rhwydwaith Caerdydd Creadigol yw sicrhau gwell dealltwriaeth o economi greadigol Caerdydd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, gan mai ychydig o ddata cyfredol sydd ar gael am siâp, cymeriad ac ehangder yr economi greadigol yng Nghaerdydd, mae ymchwil mapio wedi'i gynnal i ganfod y bobl, sefydliadau a busnesau hynny sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol.  

Caiff yr adroddiad dilynol, Mapio Economi Greadigol Caerdydd, ei ddosbarthu yn symposiwm Caerdydd: Prifddinas Greadigol gan yr Athro Justin Lewis o Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd. 

Mae Caerdydd: Prifddinas Greadigol ddydd Iau, 8 Rhagfyr rhwng 9.30am a 4pm yn Adeilad Haydn Ellis Prifysgol Caerdydd. I sicrhau lle am ddim, cofrestrwch ar Eventbrite. 

Nodiadau i olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â:

 

Mae Caerdydd Creadigol yn rhwydwaith sy'n creu cysylltiadau rhwng pobl sy'n gweithio mewn unrhyw sefydliad, busnes neu swydd greadigol yn rhanbarth Caerdydd. Drwy annog pobl i weithio gyda'i gilydd, credwn y gallwn wneud Caerdydd yn gartref i greadigrwydd.

Cefnogir Caerdydd Creadigol gan Dîm Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â’r aelodau a’i sefydlodd, sef Canolfan Mileniwm Cymru, BBC Cymru Wales a Chyngor Caerdydd. 

Ynglŷn â rhwydwaith Caerdydd Creadigol 

Mae asesiadau annibynnol y llywodraeth yn cydnabod Prifysgol Caerdydd fel un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil, ac mae'n aelod o Grŵp Russell, sy'n cynnwys y prifysgolion sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar waith ymchwil yn y DU. Roedd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 yn rhoi'r Brifysgol yn y 5ed safle trwy'r DU gyfan ar gyfer rhagoriaeth ymchwil. Ymhlith ei staff academaidd mae dau sydd wedi ennill Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel mewn Meddygaeth 2007 a Changhellor y Brifysgol, yr Athro Syr Martin Evans.  Sylfaenwyd y Brifysgol drwy Siarter Frenhinol ym 1883, a heddiw mae'n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae arbenigedd eang y Brifysgol yn cynnwys: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol; Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd; a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ynghyd ag ymrwymiad hirdymor i ddysgu gydol oes. Mae Sefydliadau Ymchwil blaenllaw Prifysgol Caerdydd yn cynnig dulliau newydd radical o fynd i'r afael â phroblemau byd-eang pwysig. www.caerdydd.ac.uk  

Y British Council

Y British Council yw corff rhyngwladol y DU ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn creu gwybodaeth a dealltwriaeth gyfeillgar rhwng pobl y DU a gwledydd eraill. Gan ddefnyddio adnoddau diwylliannol y DU rydym ni'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r gwledydd rydym ni'n gweithio gyda nhw - newid bywydau drwy greu cyfleoedd, adeiladu cysylltiadau a meithrin ymddiriedaeth. Rydym ni'n gweithio gyda thros 100 o wledydd ar draws y byd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, yr iaith Saesneg, addysg a chymdeithas sifil. Bob blwyddyn rydym ni'n cyrraedd 20 miliwn o bobl wyneb yn wyneb a thros 500 miliwn o bobl ar-lein, drwy ddarllediadau a chyhoeddiadau. Fe'n sefydlwyd yn 1934 ac rydym ni'n elusen yn y DU gyda Siarter Brenhinol yn ein llywodraethu, ac yn gorff cyhoeddus y DU. Caiff y mwyafrif o'n hincwm ei godi drwy gyflenwi amrywiaeth o brosiectau a chontractau addysgu ac arholi Saesneg, contractau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae deunaw y cant o'n cyllid yn dod gan Lywodraeth y DU.

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy

http://twitter.com/bcwales

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

 

Rhannu’r dudalen hon