Bydd Gwrando Drwy'r Nos ar y Glaw gan yr artist rhyngwladol nodedig Syr John Akomfrah yn agor i'r cyhoedd dydd Sadwrn yma, 24 Mai, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddechrau taith o gwmpas y DU.
Cafodd y gwaith ei gomisiynu'n wreiddiol gan y Britsh Council i'w ddangos yn y Pafiliwn Prydeinig yn Biennale Fenis yn 2024. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw man cychwyn taith yr arddangosfa o gwmpas y DU.
Cafodd Syr John Akomfrah ei urddo'n farchog yn 2023 am ei gyfraniad i'r celfyddydau; mae wedi ennill bri am ei ffilmiau celf a gosodweithiau fideo aml-sgrin sy'n herio categorïau genre gan archwilio themâu byd-eang cymleth gan gynnwys anghyfiawnder hiliol, hanes trefedigaethol, mudo, hunaniaeth pobl ar wasgar ac argyfwng yr hinsawdd. Daeth i amlygrwydd ar ddechrau'r 1980au fel un o sylfaenwyr y Black Audio Film Collective (BAFC), ac yn ddiweddarach yn ei yrfa enillodd Wobr Artes Mundi yng Nghaerdydd yn 2017.
Wrth drafod agoriad yr arddangosfa yng Nghaerdydd ar bodlediad rhyngwladol newydd British Council Cymru Breaking Boundaries, soniodd John am ei gyswllt ers amser maith â Chymru.
Dywedodd: "Mae fy mherthynas â Chymru - â Chaerdydd yn benodol - yn mynd yn ôl i'r '80au. Ro'n i'n rhan o fenter o'r enw Association of Workshops - nifer o weithdai ffilm a sefydlwyd ar hyd a lled y wlad. Fe ddes i Gaerdydd i gyfarfod yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yn yr '80au, ac eto yn y '90au. Felly roedd ennill gwobr Artes Mundi yng Nghaerdydd yn brofiad arbennig o hyfryd i fi. Ac fe gafodd nifer o'r gweithiau a welwch yn yr arddangosfa eu creu yng Nghymru. Rwy'n teimlo perthynas gref â'r wlad a'r ddinas."
Cafodd arddangosfa Gwrando Drwy'r Nos ar y Glaw ei hysbrydoli gan gerdd o'r 11eg Ganrif gan y bardd o Tsieina, Su Dongpo.
Fel yr esbonia John: "Mae'n gerdd am amser toredig - amser sy'n bodoli ar lefelau gwahanol, ar adegau gwahanol. Yn y bôn, mae'n gerdd am freuddwydio a breuddwydwaith. Mae'r gwaith sy'n dod i Gaerdydd yn gyfres o ddarnau rhyng-gysylltiedig am freuddwydwaith sy'n dod ag amrywiaeth o naratifau, enydau a digwyddiadau at ei gilydd. O Ryfel Fietnam i'r argyfwng pysgota yn Lloegr yn y 1970au, i'r mudiad menywod yn Lloegr a ledled gwledydd y De Byd-eang (Global South) yn y 1960au a'r ''70au, i fudo i'r wlad hon ac i Gymru.
"Ond mae'r cyfan yn gweithio fel mae breuddwyd yn gweithio: mae pethau'n doredig, yn rhyng-gysylltiedig - eiliadau amhosib a geir mewn sefyllfaoedd bob dydd - y cyfan wedi'i gyd-gysylltu mewn ffordd freuddwydiol, o ran moeseg ac estheteg hefyd."
Cafodd yr arddangosfa wreiddiol ei chreu gyda golwg ar bensaernïaeth unigryw'r Pafiliwn Prydeinig yn Biennale Fenis. Mae'r arddangosfa'n datgelu ei hun wrth i ni symud drwy ystafelloedd cydgysylltiedig - pob ystafell yn archwilio thema benodol, ond â themâu'n goferu hefyd.
Meddai: "I ddechrau bues i'n meddwl am sut y gallwn gael darn o waith penodol ym mhob ystafell unigol. Ac wrth gwrs, wrth weithio, dechreuodd yr ystafelloedd eu hunain awgrymu cysylltiadau rhwng y gwahanol ddarnau. Mae gan bob ystafell destun penodol, os dych chi eisiau, y môr mewn un, mudo i Brydain yn y llall, Fietnam mewn un, plentyndod yn y llall. Ond mae pob un ohonynt yn goferu. Maent yn rhannu rhai delweddau penodol. Maen nhw'n rhannu straeon penodol a chymeriadau penodol."
"Y peth i'w wneud yw dychmygu... camu i mewn i ystafell a chael y teimlad rhyfedd 'ma o déjà vu - dych chi'n gwybod eich bod, rhywsut, wedi dod ar draws rhywbeth o'r blaen, ond nid yn yr union ffurff yma."
Mae dull unigryw John Akomfrah yn ymdrech i ail-fframio'r peth cyffredin a'r peth rhyfedd, a chymell y gwyliwr i gwestiynnu'r hyn maent yn ei weld.
Dywedodd: "Dyw gweld rhywun yn sefyll mewn pum troedfedd o ddŵr ddim yn ddigwyddiad bob dydd, dyw e ddim yn beth arferol. Ond dyw'r ddau beth ynddynt eu hunan ddim yn anghyffredin chwaith. Rhywsut, mae cyfuno'r ddau beth yn fy ngorfodi, i ddechrau, i feddwl: Beth sy'n digwydd fan hyn? Ble ydw i? Ac rwy'n meddwl mai dyna'r cwestiwn dych chi am gymell pobl i'w ofyn.
"Mae'r cwestiwn mawr yna Ble ydw i? yn arwain at yr holl gwestiynau eraill yna: Pam ydyn ni yma? Beth yw pwynt hyn? Beth yw ystyr y gwaith yma? Mae gweithiau celf yn ymgodymu â'r holl gwestiynau yna.
Bydd Gwrando Drwy'r Nos ar y Glaw yn rhedeg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 7 Medi 2025. Gellir archebu tocynnau am ddim, ac maent ar gael yma:
https://amgueddfa.cymru/caerdydd/digwyddiadau/12493/Gwrando-Drwyr-Nos-ar-y-Glaw-gan-John-Akomfrah/?
Noddir taith yr arddangosfa yn y DU gan yr Art Fund. Bydd y gosodwaith yn ymweld â'r Walker Gallery yn Lerpwl ym mis Mai 2026 ac yna Dundee Contemporary Arts ym mis Rhagfyr 2026.
Gallwch glywed Syr John Akomfrah yn trafod yr arddangosfa ar bodlediad y British Council Breaking Boundaries, sydd ar gael nawr: https://wales.britishcouncil.org/en/programmes/arts/breaking-boundaries-returns-new-four-part-podcast-series-2025