Dydd Mawrth 11 Awst 2015

 

Tri chwmni theatr o Gymru wedi'u dewis ar gyfer Arddangosfa Caeredin y British Council

Bydd tri chynhyrchiad theatr o Gymru yn teithio i Ŵyl Ymylol Caeredin (7 - 31 Awst 2015) i gymryd rhan yn Arddangosfa Caeredin y British Council (24 - 29 Awst).

Dewiswyd y cwmnïau o 250 o geisiadau ac maent yn ymuno â 27 o gwmnïau llwyddiannus eraill o bob cwr o'r DU.

Dyma'r tri chynhyrchiad o Gymru sydd wedi'u dewis:

Caiff drama Sherman Cymru ‘Iphigenia in Splott’ gan Gary Owen ei pherfformio yng Nghaeredin yn y King Dome, Pleasance, 24 - 30 Awst. Mae addasiad doniol a theimladwy Owen o chwedl Roegaidd drasig yn ymchwilio i anghyfiawnderau cymdeithasol mewn modd beiddgar.

Bydd y cyfarwyddwr a'r perfformiwr o Gaerdydd, Jo Fong, yn cyflwyno ‘An Invitation…’, perfformiad rhyfeddol sy'n cymylu ffiniau dawns ac sy'n ‘cymryd bod yn chwareus o ddifrif’ yn Dance Base, 25 - 26 Awst.

Bydd cynhyrchiad Living Pictures, sef Diary of a Madman, addasiad newydd sy'n seiliedig ar stori fer glasur gan Nikolai Gogol, yn teithio o Gaerdydd i berfformio yn Zoo, Lleoliad 124, rhwng 7 a 30 Awst (ac eithrio 16 a 23 Awst).

Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: “Mae'r Arddangosfa'n adnabyddus am roi cyfle i gwmnïau ddangos eu gwaith i gynulleidfa o hyrwyddwyr rhyngwladol. Mae'n gyfle i waith cyffrous o'r DU gael eu gweld gan gynulleidfaoedd mewn gwledydd ledled y byd.

“Mae hwn yn gyfnod gwych i'r theatr yng Nghymru. Mae cymaint o waith arloesol yn mynd rhagddo ac mae pobl a sefydliadau creadigol o'r DU gyfan yn edrych ar Gymru â diddordeb, fel gwlad llawn syniadau ac fel lleoliad gwych i weithio. Rydym yn falch bod tri chwmni o Gymru wedi'u dewis ar gyfer yr Arddangosfa eleni ac rwy'n siŵr y byddant yn dal dychymyg yr ymwelwyr rhyngwladol.”

Mae'r British Council yn cynnal Arddangosfa Caeredin bob yn ail flwyddyn, a dyma yw'r cyfle mwyaf i gwmnïau theatr o'r DU gyflwyno eu gwaith i hyrwyddwyr rhyngwladol. Mae'r rhaglen yn cynnwys gwaith newydd sy'n cynrychioli'r cynyrchiadau theatr a dawns cyfoes gorau, gan adlewyrchu ehangder ac amrywiaeth celfyddydau perfformio ym Mhrydain.

Ers Arddangosfa gyntaf y British Council yn 1997, mae'r digwyddiad wedi rhoi cyfle i 350 o gwmnïau theatr a dawns deithio dramor, gan feithrin cydberthnasau newydd ac agor  marchnadoedd newydd ar gyfer celfyddydau perfformio'r DU.

Nodiadau i olygyddion

Sherman Cymru 

Wedi'i sefydlu yn 1973, Sherman Cymru, leolir yng Nghaerdydd, yw'r prif theatr gynhyrchu ar gyfer Ysgrifennu Newydd yng Nghymru, gan gomisiynu dramâu yn Gymraeg a Saesneg. Mae'r cwmni, sy'n cydweithio gyda sefydliadau mawr eraill, fel National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru (y cwmni iaith Gymraeg cyfatebol), yn ymrwymedig i ddatblygu gwaith dramodwyr a gwneuthurwyr theatr o Gymru ac sy'n gweithio yng Nghymru. Ochr yn ochr â rhaglen gynhwysfawr o berfformiadau a gynhyrchir yn fewnol ac yn allanol, mae'r theatr yn cynnal rhaglen allgymorth a chyfranogi sylweddol, gan greu cyfleoedd perthnasol ac ysbrydoledig sy'n galluogi dinasyddion Caerdydd i ymgysylltu â'r theatr.

Jo Fong

Wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, mae Jo Fong yn gyfarwyddwraig, yn goreograffwraig ac yn berfformwraig sy'n gweithio ym maes dawns, ffilm, theatr a'r celfyddydau gweledol. Fel dawnswraig, mae ei hystwythder, ei chwilfrydedd a'i hysbryd cignoeth a gwrthryfelgar wedi ategu gyrfa nodedig gyda sefydliadau dawns mawr gan gynnwys Rosas, Rambert Dance Company, Mark Bruce Company a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae'r ethos a'r brwdfrydedd hwnnw'n treiddio trwy ei gwaith coreograffi a chyfarwyddo sy'n gorfforol yn ei hanfod, ond sy'n ymgorffori llais a thestun, ac nid yw'n rhagfarnu yn erbyn unrhyw fath o gorff.

Living Pictures

Wedi'i ffurfio yn 1999 gan Robert ac Elen Bowman, mae Living Pictures o Gaerdydd yn 'labordy actio' i bob diben, a yrrir gan awydd parhaus i ddarganfod ffyrdd newydd a difyr o ddatblygu a pherfformio gwaith theatr. Gan ddefnyddio eu profiad sylweddol fel actorion a chyfarwyddwyr, mewn gyrfaoedd sy'n cynnwys gweithio gyda rhai o gwmnïau theatr mwyaf adnabyddus y DU - o Shared Experience, Northern Stage a Sherman Cymru i'r Royal Court, National Theatre a'r RSC - mae'r ddau hefyd yn ymrwymedig i ddatblygu ymarferwyr eraill sy'n rhannu eu chwilfrydedd am brosesau theatrig: bu Elen yn benodol, yn diwtor personol i unigolion fel Katie Mitchell ac Ian Rickson wrth iddynt ddatblygu'n gyfarwyddwyr nodedig.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang. 

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 20 y cant o'n trosiant a oedd yn £864m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy

http://twitter.com/bcwales

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

Rhannu’r dudalen hon