Rhyngwladol yn Ysgolion Cymru
Mae ysgolion cynradd yng Nghymru wedi dechrau'n dda wrth ymgorffori Ieithoedd Rhyngwladol yn yr ystafell ddosbarth yn ôl adroddiad ymchwil newydd gan y British Council sy'n cael ei lansio heddiw (18 Ionawr).
Prif ganfyddiadau:
- Nododd 72 y cant o'r ysgolion cynradd a ymatebodd eu bod yn addysgu Iaith Ryngwladol fel rhan o amserlen y cwricwlwm ym mlwyddyn ysgol 2022/23, o'i gymharu â 41 y cant ym mlwyddyn ysgol 2021/22.
- Ffrangeg yw'r iaith fwyaf poblogaidd a addysgir mewn ysgolion cynradd o hyd.
- Mae 67 y cant o'r ymatebwyr o ysgolion cynradd yn teimlo mai hyfedredd staff mewn ieithoedd yw'r testun pryder mwyaf o ran ateb gofynion y Cwricwlwm Newydd.
- Er gwaetha'r dirywiad yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU mewn Ffrangeg ac Almaeneg, mae athrawon yn dal i ddyfalbarhau gan arddangos arferion rhagorol wrth addysgu Ieithoedd Rhyngwladol yng Nghymru.
- Mae nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Lefel A mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg wedi sefydlogi i lefelau tebyg i'r rhai a welwyd cyn y pandemig.
- Mae ysgolion yn gwneud defnydd ardderchog o fentrau sy'n hybu dysgu ieithoedd, er enghraifft Llwybrau at Ieithoedd, Cerdd Iaith a Chynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern.
Cafodd yr ymchwil ei gynnal gan Dr Ian Collen, Dr Jayne Duff a Dr Aisling O'Boyle o Brifysgol Queen's, Belffast. Mae British Council Cymru wedi bod yn cynnal astudiaethau i statws addysgu a dysgu Ieithoedd Rhyngwladol yng Nghymru ers 2015. Eleni, bu'r tîm ymchwil yn dadansoddi ymatebion gan 8 y cant o ysgolion cynradd a thros 38 y cant o ysgolion uwchradd Cymru i ganfod mwy am sefyllfa'r ddarpariaeth ar gyfer Ieithoedd Rhyngwladol mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yma'n dilyn ar gefn ymchwil a wnaed yn 2022. Cafodd canfyddiadau'r ymchwil hwnnw ei gyhoeddi wrth i'r Cwricwlwm i Gymru newydd (gyda'i bwyslais ar hybu dull cyfanol, amlieithog a lluosieithog o addysgu a dysgu ieithoedd) gael ei roi ar waith. Eleni, yn ogystal â chanfyddiadau'r ymchwil mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys tri chyfweliad estynedig gydag athrawon Ieithoedd Rhyngwladol sy'n gweithio yn y maes cynradd ac uwchradd. Yn y cyfweliadau maent yn trafod yr heriau sy'n wynebu athrawon Ieithoedd Rhyngwladol yn ogystal ag enghreifftiau o arfer gorau sydd ar waith mewn dosbarthiadau yng Nghymru.
Addysgu a Dysgu Ieithoedd Rhyngwladol mewn Ysgolion Cynradd:
Ers cyhoeddi adroddiad 2022, mae'r newyddion da'n parhau mewn ysgolion cynradd yng Nghymru; gwelir tystiolaeth o gynnydd yn y diddordeb mewn Ieithoedd Rhyngwladol a thwf o ran ymgysylltu ag ieithoedd hefyd. Nododd 72 y cant o'r ysgolion cynradd a ymatebodd i'r arolwg eu bod yn addysgu Iaith Ryngwladol o fewn amserlen y cwricwlwm yn 2023, o'i gymharu â dim ond 41 y cant ym mlwyddyn ysgol 2021/22.
Mae'r cynnydd sylweddol yma'n dangos fod y Cwricwlwm i Gymru newydd wedi cael effaith gwirioneddol mewn byr dro. Mae dros hanner yr ysgolion cynradd a ymatebodd wedi cyflwyno Ieithoedd Rhyngwladol ym mlwyddyn 2022/23.
Ond, mae athrawon cynradd yn nodi hefyd bod rhwystrau i Addysgu a Dysgu Ieithoedd Rhyngwladol wrth geisio cyflawni gofynion y cwricwlwm newydd. Nododd 67% o'r ysgolion cynradd a ymatebodd eu bod yn teimlo bod 'Hyfedredd staff mewn Ieithoedd Rhyngwladol' yn her sylweddol. Yn ail agos i'r pryder hwn, nodir bod pwysau amserlennu yn ffactor heriol arall.
Eleni, mae'r data'n dangos cynnydd yn nifer y cyfleoedd sydd ar gael i ysgolion cynradd ymgysylltu'n rhyngwladol. Er bod 56 y cant o'r ysgolion cynradd a ymatebodd yn nodi nad oeddynt wedi gallu manteisio ar gyfleoedd i ymgysylltu'n rhyngwladol, mae'n werth nodi fod y ffigwr yma wedi gostwng o 8 y cant ers 2022.
Nododd yr ysgolion cynradd a ymatebodd eu bod wedi manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd i ymgysylltu'n rhyngwladol, gan gynnwys: adnoddau Power Languages, rhaglenni pontio gydag ysgolion uwchradd lleol, hyfforddiant ac adnoddau'r British Council gan gynnwys rhaglen Cerdd Iaith, a hyd yn oed ymweliadau ag ysgolion dramor. Ffrangeg yw'r iaith fwyaf poblogaidd a addysgir mewn ysgolion cynradd o hyd, gyda Sbaeneg yn ail agos. Nododd ymatebwyr cynradd eu bod hefyd yn addysgu Makaton, Wcraneg ac Iaith Arwyddion Prydain.
TGAU a Lefel A:
Nid yw canfyddiadau'r arolwg o ysgolion uwchradd mor galonogol. Wrth edrych ar ddata arholiadau a'r ymatebion a dderbyniwyd gan athrawon mewn 67 o ysgolion uwchradd ledled Cymru, gwelir bod y dirywiad yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU mewn Ffrangeg ac Almaeneg ers 2022 yn parhau (dirywiad o 24.9 y cant mewn Ffrangeg, a 26 y cant mewn Almaeneg). Mae'r data'n dangos mai dewis disgyblion o bynciau sy'n well ganddynt sy'n bennaf gyfrifol am y duedd hon (gwelwyd cynnydd amlwg yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer economeg ac astudiaethau busnes). Mae ffactorau eraill ar waith hefyd fel heriau cyfyngiadau amserlennu.
Mae'r ffigurau ar gyfer Sbaeneg yn parhau i ddilyn patrwm afreolaidd yng Nghymru (nas gwelir yn unman arall yn y Deyrnas Unedig) - gyda chynnydd bach o 7.5 y cant yn y nifer sy'n ymgeisio ar gyfer TGAU mewn Sbaeneg ers 2022.
Mae'n ddiddorol nodi y gwelwyd cynnydd bach yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Lefel A mewn Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg yn ysgolion Cymru yn 2023 o'i gymharu â 2022. Er bod y cynnydd yma'n fach iawn, mae'n bosib ei fod yn arwydd fod y sefyllfa'n sefydlogi i lefelau a welwyd cyn y pandemig.
Ffrangeg yw'r Iaith Ryngwladol fwyaf poblogaidd a addysgir yn ysgolion Cymru o hyd ar gyfer TGAU a Lefel A, gyda Sbaeneg yn ail agos. Ond fel y dangosodd ein hastudiaeth yn 2022, er mai Ffrangeg yw'r iaith sy'n cael ei hastudio fwyaf ar gyfer TGAU yng Nghymru, bu dirywiad serth yn y nifer sy'n ei hastudio ers troad y mileniwm. Nid yw'r dirywiad yma'n unigryw i Gymru - fel y dengys adroddiadau'r British Council ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y nifer isel o ddisgyblion sy'n astudio ar gyfer TGAU neu gymhwyster lefel 2 arall mewn Iaith Ryngwladol ar hyn o bryd. Nododd 67 y cant o'r ysgolion uwchradd a ymatebodd bod dim, neu lai na 10 y cant o'u disgyblion Blwyddyn 10 yn dewis astudio Iaith Ryngwladol ar y lefel yma. Mae'r ysgolion yn nodi bod sawl ffactor ar waith i esbonio'r niferoedd isel - gan gynnwys cyfyngiadau amserlennu a'r ffaith bod disgyblion yn blaenoriaethu pynciau eraill. Ers 2022, mae'r ganran o ysgolion uwchradd a ymatebodd lle nad oes modd i ddisgyblion ddewis Iaith Ryngwladol oherwydd cyfyngiadau amserlennu wedi cynyddu o 31 y cant i 51 y cant. Wrth ddefnyddio'r data Cyfnod Allweddol 4 yma i ragweld newidiadau yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU dros y blynyddoedd nesaf, ceir awgrym cryf bod dirywiad pellach yn debygol.
Ymgysylltu Rhyngwladol:
Er bod y darlun yma o sefyllfa Addysgu a Dysgu Ieithoedd Rhyngwladol yng Nghymru'n ymddangos yn ddigalon, mae'n amlwg o'r data a'r ymatebion bod athrawon uwchradd, fel athrawon cynradd, yn gweithio'n galed i addysgu ac annog disgyblion i astudio Ieithoedd Rhyngwladol ar lefel uwchradd. Mae'r adroddiad yn dangos bod lefel dda o ymgysylltu rhyngwladol yn digwydd mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Gwelwyd enghreifftiau o bartneriaethau rhyngwladol, defnydd o fenter Llwybrau at Ieithoedd Cymru, a chynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar y Cynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern sy'n annog disgyblion i ddysgu Ieithoedd Rhyngwladol ar gyfer TGAU a thu hwnt drwy raglen o fentora wyneb yn wyneb yn y dosbarth ac ar-lein.
Mae'r adroddiad yn nodi mai dim ond 9 y cant o'r ysgolion a ymatebodd sy'n cyflogi cynorthwyydd iaith - cynnydd o 1 y cant yn unig ers 2022. Gall cynorthwyydd iaith dramor wneud gwahaniaeth sylweddol i'r gwaith o addysgu iaith, canlyniadau arholiadau a deillianau dysgu mewn ysgol. Yn adolygiad rhaglen y British Council yn 2020-21, nododd 98 y cant o ysgolion a groesawodd gynorthwyydd iaith eu bod wedi gweld cynnydd yn safonnau gwrando a siarad y disgyblion; nododd 99 y cant y byddent yn argymell y rhaglen.
Mae'r ymatebion meintiol a nodir yn adroddiad eleni'n dangos yn glir bod athrawon a darlithwyr uwchradd yn awyddus i weld mwy o ddysgwyr yn astudio ieithoedd ar gyfer Lefel A, a'u bod hefyd yn pwysleisio'r angen i addysgu Ieithoedd Rhyngwladol mewn ffordd ystyrlon o'r cyfnod cynradd ymlaen.
Mae Adroddiadau Ymchwil y British Council i dueddiadau ieithoedd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon ac yma yng Nghymru i gyd yn dangos bod addysgu a dysgu Ieithoedd Rhyngwladol o oed ifanc yn fuddiol i lwybrau gyrfa, dealltwriaeth rhyng-ddiwyllianol a'r economi ehangach.
Wrth sôn am ganfyddiadau'r ymchwil, dywedodd Dr Collen: Mae adroddiad 2023 yn dangos fod addysgu a dysgu Ieithoedd Rhyngwladol yn blodeuo mewn ysgolion cynradd yng Nghymru. Mae'n ddechrau da i sicrhau gweithlu amlieithog sy'n barod i feithrin cysylltiadau byd-eang a thyfu'r economi. Amser a ddengys os bydd hyn yn arwain at adferiad yn y nifer sy'n ymgeisio am TGAU neu Lefel A mewn Ieithoedd Rhyngwladol yn y dyfodol."
Wrth drafod yr ymchwil, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae gyda ni bron i ddegawd o ymchwil yn edrych ar dueddiadau Addysgu a Dysgu Ieithoedd Rhyngwladol yng Nghymru, ac mae patrwm y dirywiad yn y nifer sy'n dewis astudio ieithoedd yn y cyfnod ôl-gynradd yn amlwg. Mae'r ymchwil diweddaraf yma'n destun optimistiaeth wrth i ni weld fod y cwricwlwm newydd yn dwyn ffrwyth yn barod o ran Addysgu a Dysgu Ieithoedd mewn ysgolion cynradd, a bod hyd yn oed rhywfaint o gynnydd yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Lefel A.
"Mae ieithoedd yn hanfodol i ddyfodol Cymru, ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol, cysylltiadau masnach a llwybrau gyrfa pobl ifanc mewn byd sy'n gynyddol gydgysylltiedig. Mae'r British Council yn ymroi o hyd i weithio gyda Llywodraeth Cymru, ysgolion ac addysgwyr i sicrhau bod Addysgu a Dysgu Ieithoedd yn flaenoriaeth."
Bydd Adroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2023 yn cael ei lansio'n swyddogol heddiw yng Ngwesty'r Hilton yng Nghaerdydd. Bydd Dr Ian Collen, Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol i Athrawon ym Mhrifysgol Queen's Belffast, yn trafod prif ganfyddiadau'r adroddiad. Yna bydd Yr Athro Claire Gorrara, Deon Ymchwil ac Arloesedd yng Ngholeg Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn cadeirio trafodaeth banel gyda Kerry Bevan, Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Gychwynnol ac Arweinydd Pwnc ar gyfer Tystysgrif Addysg i Raddedigion mewn Ieithoedd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Elin Arfon, Cymrawd Ymchwil yn y Consortiwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Ieithoedd (NCLE), Eira Jepson, Cydymaith Ymchwil, ac Andrea Waddington, Pennaeth Ysgol Gynradd Sili.
-Diwedd-