Dydd Iau 21 Ionawr 2016

 

Cerddorion Cymreig yn creu gwaith rhyngwladol ar gyfer Celtic Connections

Bydd y cerddorion gwerin Gymreig Jordan Williams a Gwilym Bowen Rhys yn perfformio yng ngŵyl cerddoriaeth Celtic Connections yng Nglasgow ar y 21 o Ionawr, ynghyd â saith o gerddorion o’r Ariannin, Sbaen, yr Alban ac Uruguay.

Bu’r grŵp rhyngwladol o gerddorion yn gweithio gyda’i gilydd am bum diwrnod flwyddyn ddiwethaf, yn ystod y breswylfa Nexo ym Mueno Aires a hynny i ddatblygu perfformiad ar y cyd. Bob blwyddyn mae Nexo yn dod a cherddorion Celtaidd at ei gilydd i greu darn newydd sbon o gerddoriaeth yn arbennig ar gyfer yr ŵyl Celtic Connections.

Mae Jordan, cyn-fyfyriwr y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, yn chwarae’r dwbl bas gyda’r grŵp gwerin Gymreig, Elfen ac mae Gwilym wedi cyfrannu fel gitarydd i amrywiaeth o brosiectau cerddoriaeth gwerin cyfrwng Cymraeg.

Mae Nexo yn rhan o brosiect Celtic Corridor y British Council sydd yn cysylltu cerddorion â’r diwydiant gerddoriaeth yn yr Alban, Cymru a De America. Gwahoddwyd y cerddorion Cymreig i gymryd rhan yn y breswylfa sydd wedi’i gyllido gan British Council Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Celtic Connections yw’r ŵyl gerddoriaeth gwreiddiau mwyaf yn Ewrop a dathliad fwyaf sefydlog y DU o gerddoriaeth byd, traddodiadol a gwerin.

Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: “Mae gan y sin gerddoriaeth Gymraeg lawer o dalent i’w rhannu gyda’r byd, ac rydym yn falch iawn o gael rhoi cyfle i ddau o gerddorion Cymreig weithio’n rhyngwladol a chael mwy o gyfle i arddangos eu gwaith.”

Nodiadau i olygyddion

Jordan Williams  (Llais a’r Ffliwt)

Fel cerddor amryddawn, astudiodd Jordan yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth draddodiadol a chanfod ffyrdd o ddod a’r maeth yma o gerddoriaeth i’r cyhoedd. Mae Jordan yn chwarae’r dwbl bas gyda’r grŵp gwerin Gymreig, Elfen a fu’n cymryd rhan yng ngŵyl Interceltique de Lorient yn ddiweddar.

Gwilym Bowen Rhys (Llais, Gitâr a Mandolin)

Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, mae Gwilym wedi cyfrannu ei dalentau fel gitarydd i nifer o brosiectau cerddoriaeth gwerin cyfrwng Cymraeg sydd yn ceisio ail-ddarganfod etifeddiaeth Cymru. Ei fwriad yw recordio ei albwm cyntaf flwyddyn nesaf.

Gwrandewch ar Gwilym ar YouTube: https://youtu.be/g4BE556LM7o

Celtic Connections

Celtic Connections yw’r ŵyl gerddoriaeth gwreiddiau mwyaf yn Ewrop a dathliad fwyaf sefydlog y DU o gerddoriaeth byd, traddodiadol a gwerin. Cynhelir yr ŵyl bob blwyddyn yng Nglasgow  ym mis Ionawr ac mae’n cynnwys rhai o sêr cerddoriaeth byd, gyda phresenoldeb yn cyrraedd 110, 000 a gwerth £1.5m o docynnau wedi’u gwerthu.

Nexo

Darperir Nexo mewn partneriaeth â’r British Council, Celfyddyd Ryngwladol Cymru, Xunta de Galicia ac Axencia Galega das Industries Culturais, a gynhyrchir gan JAU a’i gefnogi gan Creative Scotland a Fundación SGAE. Diben y rhaglen yw gwella’r ddeialog, y ddealltwriaeth ddiwylliannol, y cydweithredu a’r cysylltiadau rhwng artistiaid Galician, Lladin Americanaidd a Phrydeinig, gan arwain yn y pen draw at gydweithredu pellach a sefydlu cynlluniau partneriaeth newydd ar gyfer arddangos cerddoriaeth.

Nexo/Celtic Connections: https://youtu.be/L5yIKY0LPkA

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang. 

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 20 y cant o'n trosiant a oedd yn £864m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.

Am ragor o wybodaeth ewch i: wales.britishcouncil.org

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy

http://twitter.com/bcwales

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

Rhannu’r dudalen hon