Dydd Llun 30 Tachwedd 2015

 

Dewis chwe awdur o Gymru i ymddangos mewn ffair lyfrau rhyngwladol

Mae chwe awdur o Gymru wedi cael eu dewis i ymddangos yn un o ffeiriau llyfrau mwyaf dylanwadol y byd.

Bydd Owen Martell, Jon Ronson, John Harrison, Rebecca F John, Ian Sinclair a Joe Dunthorne yn ymuno â chriw o awduron o’r DU a fydd yn teithio i Ffair Lyfrau Rhyngwladol Guadalajara ym Mecsico dan law’r British Council. Sîn lenyddol y DU yw ffocws y ffair eleni, sy’n cael ei chynnal rhwng 28 Tachwedd a 6 Rhagfyr 2015.

Hon yw un o’r ffeiriau mwyaf o’i math yn y byd – yn ail yn unig i Frankfurt o ran maint. Yn 2014, tyrrodd mwy na 760,000 o ymwelwyr iddi, yn cynnwys 2,700 o newyddiadurwyr, ac mae disgwyl i filiwn o bobl ymweld â hi eleni.  

Daw ymweliad yr awduron ar fachlud 2015 – Blwyddyn y DU a Mecsico – sydd wedi llwyddo i gryfhau cysylltiadau rhwng y ddwy wlad. 

Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: Fe fydd y Ffair yn adeiladu cysylltiadau rhwng awduron, cyhoeddwyr a sefydliadau llenyddol o Gymru a darllenwyr, cyhoeddwyr, a sefydliadau hawliau ym Mecsico a’r rhanbarth Lladin-Amercianaidd. Rydym yn falch iawn y bydd chwech o awduron blaenllaw Cymru yn cael y cyfle i arddangos llenyddiaeth a diwylliant Cymreig, yn ogystal â rhannu’r arbenigedd sydd gan Gymru mewn dwyieithrwydd, cyfieithu a gwaith llenyddol yn y gymuned. Rwy’n siŵr y byddant yn ysbrydoli nifer o ymwelwyr y ffair lyfrau i ddarganfod Cymru drosto’u hunain.”

”Ysgrifennodd John Harrison ei lyfr 1519: A Journey to the End of Time ar ôl dilyn ôl troed Cortés, yr anturiaethwr o Sbaen, ar draws Mecsico am bedwar mis, wrth iddo wella o ganser. Mae’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r wlad:

“Rwy’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i Fecsico eto ar ôl bod yno ddwy flynedd yn ôl, pan o’n i’n dal i wella ar ôl cael triniaeth am ganser y gwddf. Do’n i ddim yn gallu bwyta bwyd solet bryd hynny felly rwy’n edrych ymlaen at gael blasu danteithion y wlad y tro 'ma. Rwy hefyd yn gobeithio denu diddordeb cyhoeddwyr o bedwar ban byd mewn llenyddiaeth o Gymru, mae cymaint yn digwydd. Hoffwn i hefyd ddweud wrth y byd a’r betws am y cyfoeth o safleoedd diwylliannol o bob math sydd gan Fecsico i’w cynnig. Er i mi deithio am bedwar mis ar gyfer y llyfr, fe allen i dreulio pedwar mis arall yno heb weld popeth. Wnaf i fyth diflasu; Mecsico yw’r wlad fwyaf croesawgar i mi ymweld â hi erioed.”

Dywedodd Richard Davies, cyfarwyddwr Parithan Books, cyhoeddwyr Rebecca F John a John Harison:

"Rydym yn ddiolchgar i’r British Council am alluogi i ni anfon dau awdur i Guadalajara, mae’n ddigwyddiad pwysig yn y calendar cyhoeddi rhyngwladol ac yn le perffaith i Parthian arddangos ei rhestr Garnifal newydd o awduron i’r byd ehangach. Yn Rebecca F John, mae gan Gymru awdur newydd sydd eisoes yn gwneud ei marc yn rhyngwladol gan ennill y Pen New Writers Award, ac mae John Harrison yn feistr ar ysgrifennu llyfrau teithio. Mae wedi ennill gwobrau lu ac mae ei lyfr newydd yn trin a thrafod diwylliant Mecsico.”

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang. 

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 20 y cant o'n trosiant a oedd yn £864m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang. 

Am ragor o wybodaeth ewch i: wales.britishcouncil.org

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy

http://twitter.com/bcwales

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

Rhannu’r dudalen hon