-
Mae British Council Cymru yn chwilio am arweinwyr anhygoel rhwng 18 a 35 oed i gymryd rhan mewn gweithdy naw diwrnod i ddysgu gan arbenigwyr polisi rhyngwladol ac arweinwyr arloesol.
-
Mae dau le wedi'u neilltuo ar gyfer dau o lunwyr polisi'r dyfodol gorau Cymru.
Mae'r gwaith i ddod o hyd i genhedlaeth newydd o arweinwyr Cymru wedi dechrau. Mae cofrestru bellach ar agor ar gyfer Cysylltu Arweinwyr y Dyfodol, sef rhaglen gan y British Council sy'n dod ag unigolion anhygoel o bob cwr o'r byd ynghyd i drafod y materion byd-eang pwysicaf sy'n wynebu'r genhedlaeth nesaf.
Dros naw diwrnod, bydd cyfranogwyr rhwng 18 a 35 oed yn cael cyfle i ddatblygu a dysgu sgiliau arweinyddiaeth, a fydd yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol iddyn nhw i droi syniadau arloesol yn argymhellion polisi sylweddol, a phenllanw'r rhaglen fydd cyfres o weithdai a chyfarfodydd unigryw yn San Steffan.
Bydd y rhaglen yn cynnig cyfle i 50 o bobl ifanc llwyddiannus ddysgu gan benaethiaid cyrff anllywodraethol, llunwyr polisi ac Aelodau Seneddol, yn ogystal â chyfle i gwrdd â phobl o'r Aifft, India, Indonesia, Kenya, Mecsico, Moroco, Nigeria, Pacistan, Tiwnisia, Canada, yr Unol Daleithiau a gweddill gwledydd Prydain.
Meddai Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Rydyn ni'n chwilio am ymgeiswyr llwyddiannus a brwdfrydig i ymuno â rhwydwaith sy'n tyfu o arweinwyr y dyfodol.
"Llynedd, cafodd dau arweinydd ysbrydoledig o Gymru eu dewis i gymryd rhan, sef Nikki Giant, sylfaenydd y fenter gymdeithasol Full Circle Education, a Jack Gillum a oedd yn rhan o'r ymgyrch dros Gynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru.
"Roedd Nikki a Jack yn llysgenhadon gwych dros Gymru ac mae'r ddau yn canmol eu profiadau'n fawr. Rydyn ni'n falch o gael cynnig y cyfle hwn unwaith eto i rai o arweinwyr mwyaf addawol Cymru."
Cafodd Nikki a Jack gyfarfodydd yn y BBC a Dau Dŷ'r Senedd yn Llundain a buon nhw'n trafod heriau byd-eang gyda chyn-Ysgrifenwyr Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-Moon a Kofi Annan.
Yn ystod y rhaglen, buon nhw'n cymryd rhan mewn seminarau ar lunio polisïau a sgiliau arwain, gan ddysgu technegau er mwyn helpu i sicrhau newid gwirioneddol, a dod yn rhan o rwydwaith byd-eang o alumni.
Fel aelod o'r rhwydwaith hwnnw, bydd Nikki yn cymryd rhan mewn digwyddiad Cynnal Polisïau yn Ninas Mecsico yr wythnos hon (7-9 Mawrth), lle bydd yn datblygu ei gwybodaeth a'i sgiliau polisi gydag arweinwyr datblygol o Brydain, Mecsico a'r Unol Daleithiau.
Bydd gofyn i'r ymgeiswyr eleni feddwl am syniadau polisi unigryw a'r hyn sydd ganddyn nhw i'w gwneud yn arweinwyr byd-eang. Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno ar-lein cyn 23.59 (amser Cymru), nos Sul 13 Mai, a hynny drwy www.britishcouncil.org/future-leaders-connect
Fel rhan o'r rhaglen bydd cyfranogwyr yn cael mynd i Gaergrawnt a Llundain ym mis Hydref, a'r British Council fydd yn talu'r costau.
Mae rhaglen Cysylltu Arweinwyr y Dyfodol yn brosiect tymor hir i greu cymuned o arweinwyr datblygol o bob cwr o'r byd sydd wedi treulio amser ym Mhrydain er mwyn datblygu eu gallu i fod yn arweinwyr polisi effeithiol, a dod i ddeall mwy am ddiwylliant a sefydliadau'r ynysoedd hyn.
Ymunwch â'r sgwrs ar-lein drwy ddefnyddio'r hashnod #ArweinwyryDyfodol. I gael rhagor o wybodaeth am British Council Cymru, ewch i https://wales.britishcouncil.org