Ydych chi'n CHWILIO AM ANTUR NEWYDD yn 2025? Mae'r British Council yn chwilio am bobl o Gymru i ddysgu Saesneg mewn deg o wahanol wledydd o gwmpas y byd.
Mae ein rhaglen Cynorthwywyr Iaith Saesneg yn cynnig lleoliadau mewn nifer o wahanol wledydd gan gynnwys Ffrainc, Canada a Cholombia. Mae'n gyfle unigryw i gyfranogwyr gael profiad dysgu rhyngwladol, datblygu sgiliau proffesiynol a chael rhwng chwe mis a blwyddyn o drochiad mewn diwylliant newydd.
Mae'r gofynion ieithyddol i ymgeiswyr yn amrywio o wlad i wlad ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bob math o ymgeiswyr. Does dim angen cymhwyster iaith ffurfiol arnoch i ymgeisio - gallwch fod wedi meithrin eich sgiliau iaith drwy deithio, astudio ar eich liwt eich hun neu gyrsiau iaith prifysgol.
Daw Georgia Riches, sy'n dair ar hugain, o Abertawe. Ar hyn o bryd mae ar ei hail flwyddyn fel Cynorthwyydd Iaith Saesneg yn Sbaen. Gwnaeth ei chais gwreiddiol ar ôl gorffen cwrs gradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe pan oedd yn ansicr am beth i'w wneud nesaf.
Dywedodd: "Ro'n i'n gwybod mod i eisiau saib ar ôl fy ngradd, ond do'n i ddim yn hollol sicr beth ro'n i am ei wneud nesaf, a doedd cymryd blwyddyn i ffwrdd ddim yn opsiwn fforddiadwy i fi. Ro'n i wedi bod eisiau teithio i Sbaen erioed ac roedd gen i 'chydig o Sbaeneg hefyd. Gan nad oedd y rhaglen yn gofyn am gymwysterau iaith penodol yn Sbaeneg, ro'n i'n meddwl y byddai hwn yn gyfle perffaith."
Ar hyn o bryd mae Georgia'n byw yn Bilbao, yn dysgu oedolion mewn ysgol ryngwladol. Cyn hynny, roedd yn byw mewn tref fach ger San Sebastian yn dysgu plant rhwng 8-12 oed.
Ychwanegodd: "Er nad y rhan yma o Sbaen oedd fy newis cyntaf, rwy mor ddiolchgar mod i wedi cael lleoliad yng Ngwlad y Basg. Mae'r profiad wedi bod mor anhygoel dw i wedi penderfynu aros am flwyddyn arall. Dw i wedi dwlu cwrdd â phobl o ledled y byd. Bellach mae gen i gymaint o ffrindiau o America ac Awstralia a rhai o India a Chanada, a dw i hyd yn oed wedi ffeindio cariad yma. Mae wedi bod yn wych i gwrdd â chymaint o bobl â meddylfryd tebyg i fi sydd wedi bod yn ddigon dewr i wneud hyn ar eu pen eu hunain.
"Drwy'r rhaglen mae fy hyder wedi tyfu cymaint, ac mae wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau nad sy'n cael eu dysgu mewn prifysgol - fel siarad yn gyhoeddus. Dw i'n teimlo mod i'n fwy medrus nawr ac mae camu allan o fy mharth cysurus wedi bod yn beth da iawn. Yn ogystal, rwy wedi dysgu mod i'n mwynhau arwain, rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi meddwl amdano o'r blaen, ac mae hynny wedi fy nghymell i ystyried seicoleg alwedigaethol ar gyfer fy ngradd meistr. Bydd hynny'n golygu trefnu gweithleoedd, defnyddio sgiliau rhyngbersonol a gallu siarad â llawer o wahanol bobl - sy'n gyfuniad da o'r hyn rwy wedi'i ddysgu ar y rhaglen yma a thrwy fy ngradd.
"Byddwn i'n dweud wrth unrhyw un sy'n meddwl am ymgeisio am le ar y rhaglen - ewch amdani gyda meddwl agored. Mae'n ystrydeb, ond weithiau mae'r pethau gorau'n deillio o sefyllfa anisgwyl. Petawn i heb ddod i'r ardal yma ni fyddai gen i'r lefel o Sbaeneg sydd gen i nawr, fyddwn i ddim wedi gallu meithrin cymuned wych o athrawon Saesneg na chael cyfle i ddarganfod y rhan fendigedig yma o Sbaen."
Bu Emma Lee, a oedd yn fyfyriwr Almaeneg a Gwleidyddiaeth ar ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd, ar leoliad yn Graz, Awstria yn 2023.
Dywedodd: "Bues i'n gweithio mewn dwy ysgol yn Graz, yn dysgu myfyrwyr o 10 oed i 23 oed (rhai ohonynt yn hŷn na fi!). Ro'n i wir yn dwlu dysgu'r myfyrwyr ifancaf. Dim ond dechrau dysgu Saesneg oedden nhw, felly roedd eu geirfa'n llawer llai, ond roedden nhw mor chwilfrydig a phenderfynol ac fe gawsom ni wersi hyfryd.
"Roedd Graz yn berffaith i fi. Mae'n le mor brydferth â naws gyfeillgar iawn sy'n Awstriaidd i'r carn ond hefyd yn fodern. Dyw e ddim yn le arbenig o dwristaidd - bydddwn i'n ei alw'n 'drysor cudd', yn enwedig i ymwelwyr o Brydain. Rwy'n cofio'r hyn ddywedodd fy mentor wrtha i yn fy wythnos gyntaf, 'Mae Fiena yn ddinas i ymweld â hi, mae Graz yn ddinas i fyw ynddi'.
"Un o fy uchafbwyntiau oedd mynychu Maturaball. Mae Maturaball yn debyg i 'prom' - ond yn dipyn mwy o sbloets! Mae myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn dechrau paratoi ar ei gyfer flwyddyn ymlaen llaw. Ar y noson, mae ganddyn nhw sawl gwisg wahanol ac maen nhw hefyd wedi dysgu routines dawns wedi'u coreograffio. Yr hyn sy'n gwneud y digwyddiadau hyn mor fendigedig yw eu bod yn cael eu cynnal mewn adeiladau hardd gyda neuaddau dawns anferth wedi'u haddurno'n goeth."
I Emma, bu'r cyfle'n brofiad amhrisiadwy - yn bersonol a phroffesiynol.
Dywedodd: "Yn bersonol, dw i'n teimlo'n llawer mwy sicr a hyderus ynof fy hun. Â dweud y gwir, weithiau mae'n anodd credu mod i wedi gallu nid yn unig symud dramor, ond hefyd bod yn athrawes am flwyddyn! Yn broffesiynol, mae gallu cynnwys profiad gwaith dramor ar fy CV yn wych, ac mae'r rhaglen wedi rhoi arweiniad i fi o ran yr hyn yr hoffwn ei wneud ar ôl gadael y brifysgol.
"Bues i'n arbennig o lwcus gyda'r ddau leoliad ysgol a gefais. Ro'dd gen i fentoriaid dysgu a chydweithwyr ardderchog, ac er mod i'n gwybod y byddwn mewn dwylo diogel, dw i'n credu y ces fy synnu gan ba mor hyfryd oedd pawb."
Bob blwyddyn, mae'r British Council yn anfon tua 1,800 o gynorthwywyr o'r Deyrnas Unedig i wledydd tramor i gefnogi'r gwaith o ddysgu Saesneg mewn ysgolion, prifysgolion a chanolfannau iaith. Ac wrth i'r rhaglen agosáu at ei phenblwydd yn 120 oed yn 2025, mae'n parhau i agor drysau i'r rheini sy'n cymryd rhan a hyrwyddo cyfnewid diwylliannol ledled y byd.
Mae'r rhaglen yn derbyn cefnogaeth gan yr Adran Addysg a Sgiliau. Mae'n rhaglen ddwyochrog gan ei bod hefyd yn galluogi Cynorthwywyr Ieithoedd Modern o wledydd tramor i ddysgu Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Mandarin yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Yn 2024, roedd dros 700 o Gynorthwywyr Ieithoedd Modern yn dysgu mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ar draws Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.
Wrth sôn am y rhaglen dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: Mae'r Rhaglen Cynorthwywyr Iaith Saesneg yn rhoi cyfle i chi drochi eich hun mewn diwylliant arall, datblygu sgiliau amhrisiadwy a bod yn llysgenad balch dros Gymru. Ers dros 120 o flynyddoedd mae'r fenter hon wedi bod yn meithrin cysylltiadau arwyddocaol rhwng y Deyrnas Unedig a'r byd ehangach. Os oes gennych angerdd am ieithoedd, cyfnewid diwylliannol ac ysbrydoli eraill, rwy'n eich annog i wneud cais i fanteisio ar y cyfle unwaith mewn oes yma a helpu i sicrhau mai 2025 yw eich blwyddyn orau eto!"
Mae'r cyfnod i wneud ceisiadau ar gyfer y rhaglen Cynorthwywyr Iaith Saesneg ar agor nawr. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Iau 30 Ionawr 2025. Mae rhagor o wybodaeth a manylion am feini prawf cymhwyster y rhaglen ar gael yma.
Mae'r rhaglen Cynorthwywyr Iaith Saesneg yn parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy'r celfyddydau, addysg a dysgu'r iaith Saesneg. Am fwy o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru ewch i wefan British Council Cymru neu dilynwch ni ar X, Facebook neu Instagram.