Daeth dros 130 o athrawon ac ymarferwyr addysg o bob rhan o Gymru i gynhadledd a drefnwyd gan y British Council yn Stadiwm Dinas Caerdydd i ddysgu mwy am Ysgolion Bro.
Nod y gynhadledd, a oedd yn canolbwyntio ar dri maes – patneriaethau amlasiantaeth; ymgysylltu â rhieni a theuluoedd; a chysylltiadau â’r gymuned – oedd rhannu arfer gorau a dulliau arloesol ar gyfer datblygu cysylltiadau cryf rhwng ysgolion, teuluoedd a’u cymunedau lleol.
Un o uchafbwyntiau’r gynhadledd oedd y cyfle i glywed gan arbenigwyr ym maes Ysgolion Bro o’r Unol Daleithiau lle maent, dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi llwyddo i droi sefydliadau addysgol yn ganolfannau ar gyfer cydweithredu.
Cafwyd annerchiadau gan Dr Jo-Anne Ferrara, Prif Swyddog Rhaglenni’r Ganolfan Gymorth Technegol i Ysgolion Bro yn Rhanbarth Dwyrain Talaith Efrog Newydd; a Dr Amy Ellis, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ysgolion Bro ym Mhrifysgol Canolbarth Fflorida, a ranodd eu profiadau o gyflwyno ysgolion bro yn yr Unol Daleithiau.
Bu’r gynhadledd yn edrych ar astudiaethau achos ac enghreifftiau o arfer gorau o ysgolion ar draws Cymru sydd eisoes wedi cymryd camau bras yn y maes. Roedd y rhain yn cynnwys Ysgol Gynradd Tregatwg yn Y Bari, Ysgol Gynradd Craigfelen yng Nghlydach, Addysg Gogledd Cymru ac Ysgol Gynradd Millbrook yng Nghasnewydd lle mae ymgysylltu â’r gymuned yn rhan gwbl ganolog o fywyd yr ysgol.
Yn ogystal, rhoddwyd sylw i astudiaethau achos o Gymuned Ddysgu Pencoedtre, lle mae chwech o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau yn canolbwyntio ar ymgysylltu â theuluoedd; Ysgol Gynradd Craigfelen yn Abertawe, sydd wedi sefydlu cegin a gardd gymunedol a chaffi cymunedol sy’n cael ei redeg gan ddisgyblion, a Chymuned Ddysgu Blynyddoedd Cynnar Bettws yng Nghasnewydd, sy’n dod â gwasanaethau, sefydliadau a theuluoedd lleol at ei gilydd.
Mae Ysgolion Bro yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru – ysgolion sy’n sicrhau fod y plentyn wrth galon eu dull gweithredu gan gysylltu teuluoedd, yr ysgol, a’r gymuned gyda’i gilydd i sicrhau dull integredig o ddysgu a datblygu.
O’r gynhadledd, dywedodd Owain Lloyd, Cyfarwyddwr Addysg a’r Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cymru: “Cenhadaeth ein cenedl yw sicrhau cyflawni safonau a dyheadau uchel drwy fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a chefnogi pob dysgwr.
“Ein huchelgais yw bod holl ysgolion Cymru yn Ysgolion Bro – yn ymateb i anghenion eu cymunedau, meithrin cysylltiadau cadarn gyda theuluoedd a chydweithio’n effeithiol gyda gwasanaethau eraill i sicrhau fod pob dysgwr yn cael y dechrau gorau i’w bywyd.
Mae Ysgolion Bro yn ganolog i sicrhau tegwch ym maes addysg a mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol ac maent yn elfen allweddol o Genhadaeth ein Cenedl.”
Mae’r gynhadledd yn rhan o raglen wythnos o hyd a drefnwyd gan y British Council a fydd yn cynnwys ymweliadau allweddol ag ysgolion bro yng Nghaerdydd ac Abertawe, yn ogystal â chyfarfodydd gyda chyrff addysgol amrywiol.
Hefyd yn y digwyddiad roedd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr, British Council Cymru. Dywedodd: “Mae’r gynhadledd yma heddiw yn dilyn ymweliadau astudio gan ymarferwyr i Efrog Newydd a Fflorida, a digwyddiad ar-lein a gynhaliwyd yn ystod Covid-19 a oedd yn edrych ar ysgolion bro yma yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau. Rydyn ni wrth ein bodd i barhau’r sgwrs a chroesawu arbenigwyr ym maes ysgolion bro o’r Unol Daleithiau i ymuno â ni yng Nghymru’r wythnos hon.
“Rydyn ni’n credu fod ysgolion bro yn chwarae rhan allwedddol o ran cysylltu teuluoedd, ysgolion a chymunedau. Wrth ddod â safbwyntiau, gwybodaeth a phrofiadau amrywiol at ei gilydd, gallwn greu system addysg sy’n wirioneddol gynhwysol ac effeithiol sy’n ateb gofynion unigryw ein cymunedau lleol. Gyda’n gilydd, gallwn siapio dyfodol addysg yng Nghymru a meithrin potensial pob dysgwr.”
Mae cynhadledd Ysgolion Bro’r British Council yn sicrhau fod ein gwaith yn parhau i feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy’r celfyddydau, addysg ac addysgu’r iaith Saesneg. Cewch fwy o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru drwy ymweld â British Council Cymru a/neu drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook neu Instagram.