Catrin Finch and Aoife Ní Bhriain  ©

Photo: Jennie-Caldwell

Dydd Gwener 17 Mawrth 2023

 

Y British Council yn dod â cherddoriaeth Geltaidd i’r  cyfandir ar gyfer rhaglen Cymru yn Ffrainc

Bydd dwy o arloeswyr cerddoriaeth Geltaidd, Catrin Finch and Aoife Ní Bhriain, yn perfformio yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis heno (Nos Wener 17 Mawrth) i nodi dechrau blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru.

Mae’r perfformiad, a noddir gan y British Council, yn rhan o raglen blwyddyn o hyd i ddathlu’r cysylltiadau diwylliannol, busnes a chwaraeon rhwng Cymru a Ffrainc. Mae Catrin Finch, a ddaw o Lanon yn wreiddiol, yn delynores a chyfansoddwr sydd wedi ennill bri rhyngwladol ac a fu hefyd yn Delynores Swyddogol Tywysog Cymru. Yn ddiweddar, mae wedi derbyn comisiynau i gyfansoddi gweithiau ar gyfer Ballet Cymru, S4C a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r chwaraewr ffidil Gwyddelig, Aoife Ní Bhriain, yn cyfuno cerddoriaeth glasurol a thraddodiadol yn ei pherfformiadau ac mae wedi ennill enw fel un o chwaraewyr feiolin mwyaf disglair ei chyfnod. Gyda’i gilydd, maen nhw’n chwarae cerddoriaeth sy’n llawn dylanwadau o ddiwylliannau eu dwy wlad a’r cysylltiadau rhyngddynt.

Cafodd y cywaith cerddorol yma ei greu dan adain Cynyrchiadau Mwldan, a derbyniodd glod aruthrol pan gafodd ei berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Lleisiau Eraill yn Aberteifi yn hydref 2022.

Bydd y British Council, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn cefnogi blwyddyn Cymru yn Ffrainc gyda rhaglen o weithgareddau celfyddydol a diwylliannol sydd eto i’w chyhoeddi. Bydd y rhaglen yn rhoi cefnogaeth i unigolion a sefydliadau yng Nghymru a Ffrainc gysylltu, meithrin perthnasoedd a chreu gwaith yn ystod 2023.

Wrth sôn am raglen Cymru yn Ffrainc, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:                                                                                                             

  “Rydyn ni’n falch iawn i gefnogi rhaglen Llywodraeth Cymru, Cymru yn Ffrainc, drwy ein rhaglenni celfyddydau ac addysg. Mae hanes arbennig rhwng Cymru a Ffrainc o ran ein hunaniaeth Geltaidd gyffredin a’r holl gysylltiadau rhwng ein hieithoedd, cerddoriaeth a’n diwylliant. Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn i gefnogi cerddorion o Gymru yn y digwyddiad lansio ym Mharis, ac am y cyfle i weithio gyda’n partneriaid gwerthfawr, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Dymunwn bob lwc i Catrin ac Aoife gyda’u perfformiad heno, ac edrychwn ymlaen yn fawr at raglen draws-ddiwylliannol gyffrous o weithgareddau yn 2023.”

Yn y gorffennol, mae’r British Council wedi cefnogi nifer o brosiectau sydd wedi creu cysylltiadau rhwng Cymru a Ffrainc. Yn fwyaf diweddar, fe wnaethom gefnogi cyfres o gyngherddau ar y cyd rhwng Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Orchestre National de Bretagne yn 2022.

Mae rhaglen Cymru yn Ffrainc yn parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Gyfunol a thramor drwy’r celfyddydau, addysg ac addysgu ieithoedd. Am ragor o wybodaeth am waith y British Council yng Nghymru, cymerwch olwg ar ein gwefan https://wales.britishcouncil.org/ neu dilynwch ni ar Twitter, Facebook neu Instagram.

Nodiadau i olygyddion

Ar gyfer cysylltiadau’r wasg, cysylltwch â:

Claire McAuley, British Council: +44 (0)7542268752 E: Claire.McAuley@britishcouncil.org

Cymru yn Ffrainc

Mae Cymru yn Ffrainc yn fenter gydweithiol a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru i helaethu’r cysylltiadau sy’n bodoli’n barod rhwng Cymru a Ffrainc a buddsoddi’n strategol mewn cysylltiadau newydd a ddaw â budd hirdymor i bobl Cymru.                                                                                                  

Am ragor o wybodaeth: @WGinFrance  #WalesinFrance 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgiadol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2020-21 fe wnaethom ni ymgysylltu â 650 miliwn o bobl.

Rhannu’r dudalen hon