Dydd Mercher 15 Medi 2021

 

•  Mae’r nifer sy’n dysgu Cymraeg wedi disgyn yn sgil y pandemig

•  Mae gwersi Cymraeg ar-lein wedi denu dysgwyr o mor bell i ffwrdd ag Wrwgwai a’r Almaen

•  Mae digwyddiadau cymdeithasol ar-lein wedi rhoi cyfle i ddysgwyr yng Nghymru a Phatagonia ymarfer eu Cymraeg gyda’i gilydd

Mae’r adroddiad diweddaraf ar Brosiect yr Iaith Gymraeg yn Chubut ym Mhatagonia yn dangos yr effaith y mae’r pandemig wedi’i gael ar yr iaith yn y rhanbarth.

O ganlyniad i gau ysgolion yn ystod y pandemig, mae nifer y plant sy’n astudio’r Gymraeg ar lefel meithrin, cynradd ac uwchradd wedi dirywio; ac mae’r un peth yn wir am oedolion sy’n dysgu hefyd. Drwyddi draw, mae cyfanswm y nifer o ddysgwyr wedi disgyn o 1411 yn 2019 i 623 yn 2020.

Ond mae newyddion da hefyd – mae symud gwersi a digwyddiadau cymdeithasol i oedolion ar-lein wedi denu dysgwyr Cymraeg o’r tu hwnt i ranbarth Chubut. Yn ogystal â dysgwyr ar draws yr Ariannin, mae dysgwyr o mor bell i ffwrdd ag Wrwgwai, Mecsico a’r Almaen wedi ymuno â’r dosbarthiadau Cymraeg ar-lein.

Mae pobl o Gymru wedi gallu ymuno â digwyddiadau cymdeithasol ar-lein hefyd - i ymarfer eu Cymraeg gyda dysgwyr Cymraeg ym Mhatagonia.

Sefydlwyd Prosiect yr Iaith Gymraeg yn 1997 – i hybu a datblygu’r iaith Gymraeg ym Mhatagonia. Teithiodd mudwyr o Gymru i sefydlu Gwladfa ym Mhatagonia dros 150 o flynyddoedd yn ôl, ac mae pobl yn dal i siarad Cymraeg yno hyd heddiw.

Bob blwyddyn mae tri swyddog datblygu iaith o Gymru yn treulio deg mis yn gweithio ym Mhatagonia, ochr yn ochr â’r athrawon Cymraeg yn yr ysgolion yno. Maen nhw’n datblygu’r iaith yn y cymunedau lle siaredir Cymraeg drwy gynnal dosbarthiadau i bobl ifanc ac oedolion.

Mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn tair ysgol gynradd ddwyieithog ac mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Sbaeneg yn ogystal â thrwy weithgareddau cymdeithasol anffurfiol. 

Ym mis Chwefror 2020, fe deithiodd y swyddogion datblygu iaith i Batagonia i ddechrau ar eu lleoliadau gwaith a oedd i fod i bara am ddeg mis. Ond, wrth i sefyllfa Covid dyfu’n fwyfwy difrifol, bu’n rhaid i lawer o’r athrawon Cymraeg ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig.

Yn dilyn cyngor gan y llywodraeth, cafodd yr ysgolion eu cau ac fe gafodd gwersi wyneb yn wyneb i oedolion eu stopio hefyd. O ganlyniad, cafodd yr holl ddosbarthiadau Cymraeg eu symud ar-lein – gan gynnwys cyrsiau i oedolion a gwersi ysgol, grwpiau plant, a digwyddiadau cymdeithasol.

Dywedodd Dr Walter Arial Brooks, Pennaeth Addysg British Council Cymru: “Bu symud y  gwersi i fformat ar-lein yn her i’r tiwtoriaid a’r dysgwyr, gan nad yw isadeiledd y rhyngrwyd yn rhanbarth Chubut wedi’i ddatblygu’n ddigonol.

“Mae llawer o’r dysgwyr yn byw y tu allan i’r prif drefi ac felly maen nhw’n gorfod dibynnu ar ddata ffonau symudol i gysylltu â’r rhyngrwyd.

“Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau eraill, gan gynnwys diffyg sgiliau Technoleg a Gwybodaeth Cyfathrebu, prinder offer priodol a goblygiadau gofal plant, fe gollon ni lawer o ddysgwyr pan fu’n rhaid symud y gwersi ar-lein.

Ond, mae’n galonogol iawn gweld cymaint o ddysgwyr newydd o ardaloedd y tu hwnt i Chubut yn dysgu ar-lein gyda dysgwyr Cymraeg ym Mhatagonia.”

Mae’r cyfle i ymarfer y Gymraeg mewn cyd-destun cymdeithasol yn rhan bwysig o ddysgu’r iaith. Cafodd boreau ‘Paned a Sgwrs’ ar-lein eu trefnu, yn ogystal â nosweithiau cwrw a gwin, a chwisiau, gemau geiriau a sawl Noson Lawen. 

Dywedodd un o’r athrawon, Sally Ann Nicholls: “Cafodd holl weithgareddau Menter Patagonia eu cynnal yn ddigidol yn ystod 2020, ond fe roddodd hynny gyfle i bobl o Gymru fynychu’r nosweithiau cymdeithasol a chymryd rhan yn y gweithgareddau hefyd. Mae’r sefyllfa anffodus a achoswyd gan y pandemig wedi cryfhau’r berthynas rhwng siaradwyr Cymraeg yn y ddwy wlad.”

 

Nodiadau i olygyddion

Mae adroddiad diweddaraf Prosiect yr Iaith Gymraeg ar gael ar-lein yma - dolen isod.

Mae Prosiect yr Iaith Gymraeg yn cael ei redeg gan British Council Cymru mewn cydweithrediad â Phwyllgor Yr Iaith Gymraeg. Mae’r pwyllgor yn cynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru, British Council Cymru, Cymdeithas Cymru-Ariannin, Urdd Gobaith Cymru, Ysgol y Gymraeg – Prifysgol Caerdydd, a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r Prosiect ar waith mewn tri dalgylch yn nhalaith Chubut: Yr Andes, Gaiman a Threlew, gan gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau – o wersi i ddechreuwyr i wersi ar gyfer dysgwyr hyfedr – yn ogystal â sesiynau sgwrsio i siaradwyr Cymraeg rhugl.

Mae gwersi’n cael eu cynnal ar draws y sectorau meithrin, cynradd, uwchradd ac addysg oedolion:

Ysgol y Cwm

Ysgol ddwyieithog Gymraeg-Sbaeneg yn yr Andes yw Ysgol y Cwm. Agorodd ei drysau am y tro cyntaf yn 2016 pan groesawyd 50 o blant meithrin i’w dosbarthiadau newydd. Yn y pen draw, bydd lle i 200 o blant yn yr ysgol.

Ysgol yr Hendre

Sefydlwyd Ysgol yr Hendre yn 2006, gyda 22 o ddisgyblion. Bellach mae dros 150 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol ac yn derbyn addysg ddwyieithog Cymraeg-Sbaeneg yno.

Ysgol y Gaiman

Agorwyd Ysgol y Gaiman yn 1993; a rhoddwyd statws ysgol swyddogol iddi yn 2015. Llynedd, gadawodd ddisgyblion blwyddyn 6 yr ysgol – am y tro cyntaf erioed.

Coleg Camwy

Ysgol uwchradd yn y Gaiman yw Coleg Camwy. Mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu fel ail iaith yno. Mae llawer o ddisgyblion o’r ysgolion cynradd dwyieithog yn mynychu Coleg Camwy.

Ysgolion cyfrwng Sbaeneg lle cefnogir y Gymraeg, drwy wersi neu glybiau all-gwricwlaidd:

• Escuela 24 yn Esquel

• Escuela Nº 61 Bryn Gwyn yn y Gaiman

• Ysgol Aliwen yn Nyffryn Camwy

Canolfannau sy’n darparu gwersi i oedolion:

• Coleg Camwy yn Nyffryn Camwy

• Canolfan Casa Toschke ym Mhorth Madryn

• Canolfan Trelew yn Nhrelew

• Canolfan Dolavon yn Nolavon

• Canolfan Esquel yn Esquel 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn meithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill drwy’r celfyddydau, addysg a’r iaith Saesneg. Yn ystod 2019-2020 gwnaethom gysylltiad â thros 75 miliwn o bobl yn uniongyrchol, a 758 miliwn o bobl i gyd - gan gynnwys cysylltiadau ar-lein, darllediadau a chyhoeddiadau. Sefydlwyd y British Council ym 1934 ac rydym yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n cael ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn derbyn grant cyllid craidd o 14.5 y cant gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. 

Gweler hefyd

Rhannu’r dudalen hon