Mae busnesau yng Nghymru a sector addysg y wlad wedi bod yn rhannu cyfrinachau eu llwyddiant ym maes hyfforddi sgiliau ag ymwelwyr o mor bell ag Yemen a Nepal.
Bu'r ymwelwyr yn cymryd rhan yn Seminar y British Council ar Strategaeth Sgiliau Genedlaethol y DU (rhwng 12 a 15 Ionawr) a chreodd datblygiad y sector sgiliau yng Nghymru argraff arnynt - gyda llawer o'r cynadleddwyr yn awyddus i ddefnyddio syniadau o Gymru yn eu gwledydd brodorol.
Uchafbwynt y seminar oedd ymweliad i Ganolfan Ryngwladol Hyfforddiant Aerofod (ICAT) Coleg Caerdydd a'r Fro ym Maes Awyr Caerdydd, lle dysgodd y cynadleddwyr sut mae'r coleg yn helpu i hyfforddi peirianwyr aerofod y dyfodol.
Creodd y ganolfan gryn argraff arnynt, gyda rhai yn dweud y byddant yn defnyddio gwaith y coleg fel meincnod yn eu gwledydd eu hunain.
Roedd y cynadleddwyr hefyd wedi clywed gan arbenigwyr addysg yng Nghymru ac wedi cwrdd ag arweinwyr a chyflogwyr busnes lleol, gan gynnwys cynrychiolwyr o GE Aviation, Wales and West Utilities a Sony.
Dywedodd Dr Mohammad Youssef, Dirprwy Weinidog Gweinyddiaeth Addysg yr Aifft dros Addysg Alwedigaethol, y byddai'n defnyddio rhai o'r strategaethau i lywio'r dull o weithredu o ran datblygu sgiliau yn yr Aifft: "Rwyf wedi cael llawer o wybodaeth ac wedi dysgu am yr arfer gorau yn y DU. Byddaf yn defynddio'r wybodaeth a gaffaelwyd i gyflwyno newidiadau yn yr Aifft."
Anerchwyd y gynhadledd gan Julie James, dirprwy weinidog sgiliau a thechnoleg Llywodraeth Cymru a dywedodd wrth y cynadleddwyr: "Un o'r heriau mwyaf rydym yn ei hwynebu fel Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod gan bobl ifanc Cymru y sgiliau cywir i sicrhau eu bod yn gallu gwneud y mwyaf o'u rhagolygon cyflogaeth.
"O ystyried yr amodau economaidd presennol, ni allwn barhau i fod yn brif ffynhonnell o ariannu hyfforddiant sgiliau. Fel y nodwyd yn ein Strategaeth Sgiliau newydd, rhaid i ni rannu'r cyfrifoldeb hwn, rhwng Llywodraeth Cymru, cyflogwyr ac unigolion.
"Mae dros 400,000 o bobl ifanc yng Nghymru ac rwyf am i bob un ohonynt gael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddatblygu drwy addysg a hyfforddiant i gyflogaeth."
Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae'r sector sgiliau yng Nghymru yn elwa ar gysylltiadau cryf rhwng cyflogwyr a cholegau addysg bellach - ac roedd gan ein cynadleddwyr rhyngwladol ddiddordeb arbennig yn hyn. Rydw i'n falch iawn bod rhai o'n cyflogwyr mwyaf yn y De wedi cefnogi'r seminar sgiliau drwy roi eu safbwyntiau eu hunain ar sut mae hyfforddiant galwedigaethol gwych, wedi'i gyflenwi'n lleol yn gwella eu cystadleurwydd a'u cynaliadwyedd fel sefydliadau. Dyma faes lle mae Cymru'n arwain y byd."
Bu uwch swyddogion y llywodraeth a gwneuthurwyr polisi o'r Aifft, Ethiopia, Indonesia, Nepal, Tunisia ac Yemen yn mynychu'r gynhadledd.
Trefnwyd y gynhadledd gan y British Council ac mae'n un o gyfres a gynhelir ym mhedair prif ddinas gwledydd y DU.