Mae adroddiad yn dangos bod yr iaith Gymraeg yn mynd o nerth i nerth ym Mhatagonia gyda chynnydd o 19% ers y llynedd yn nifer y bobl sy'n astudio cyrsiau Cymraeg a chynnydd o 54% yn nifer yr oedolion sy'n dysgu'r iaith.
Mae Adroddiad Monitro Blynyddol 2014 ar Brosiect yr Iaith Gymraeg, sy'n cael ei weithredu ym Mhatagonia gan British Council Cymru, yn dangos poblogrwydd cynyddol yr iaith yn y rhanbarth:
•Cynnydd o 19% yn nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg (o blant i oedolion), o 985 yn 2013/14 i 1174 yn 2014/15, sy'n gynnydd o 39% ers 2011.
•Cynnydd sylweddol yn nifer yr oedolion sy'n dysgu'r iaith gyda 268 o oedolion yn mynychu cyrsiau, cynnydd o 54% eleni a 135% ers 2011.
•Yn ogystal â'r nifer mwyaf erioed o ddysgwyr, yn 2014 y gwelwyd y nifer mwyaf o ddosbarthiadau Cymraeg yn hanes y prosiect, 90 o ddosbarthiadau i gyd, i fyny o 83 yn 2013 a 79 yn 2012.
Dywedodd Gareth Kiff, monitor academaidd y prosiect ac awdur yr adroddiad: "Mae'r cynnydd yn y niferoedd o bobl o bob oedran sy'n dysgu Cymraeg yn ystod y tair blynedd diwethaf yn dyst i waith caled pawb a fu'n ymwneud â'r prosiect ym Mhatagonia a Chymru. Mae'r niferoedd yn tyfu ymhob categori oedran ac erbyn 2016 dylem gyrraedd sefyllfa lle bydd tair ysgol gynradd ddwyieithog.
"Gwaith y prosiect yw sicrhau bod gan bobl leol berchnogaeth o fentrau o'r fath a sicrhau bod dyfodol tymor hir i'r iaith Gymraeg ym Mhatagonia. Mae hyn yn digwydd ac o ystyried y swm bychan o arian sydd ar gael i ni, mae'r prosiect yn enghraifft o gost effeithiolrwydd mewn cyfnod o galedi economaidd."
Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: "Eleni, rydym yn nodi 150 o flynyddoedd ers i ymsefydlwyr o Gymru gyrraedd Patagonia ac mae'r adroddiad yn dangos yn glir sut y mae Prosiect yr Iaith Gymraeg yn helpu'r iaith i ffynnu yn y rhanbarth. Gobeithio y bydd y flwyddyn o ddathlu yn annog mwy o bobl yng nghymuned Gymraeg Patagonia ac yma yng Nghymru i ddysgu'r iaith.
"Mae prosiect y British Council, sef Connecting Classrooms hefyd yn helpu i greu cysylltiadau rhwng Cymru a Phatagonia gyda phartneriaeth ar waith rhwng Ysgol Pentreuchaf, ger Pwllheli, ac Ysgol yr Hendre yn Nhrelew, Chubut. Mae Ysgol Feithrin y Gaiman, Chubut ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth hefyd yn creu partneriaeth ac mae pâr arall o ysgolion wedi mynegi diddordeb."
Mae Prosiect yr Iaith Gymraeg wedi bod yn hyrwyddo a datblygu’r iaith Gymraeg yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia, yr Ariannin ers 1997. Bob blwyddyn mae tri swyddog datblygu iaith o Gymru yn treulio cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr yn dysgu ym Mhatagonia. Maent yn datblygu'r iaith mewn cymunedau sy'n siarad Cymraeg drwy ddysgu a gweithgareddau cymdeithasol.
Mae cydlynydd dysgu parhaol o Gymru hefyd wedi'i leoli ym Mhatagonia, sydd yn gyfrifol am ansawdd y dysgu.
Mae'r prosiect yn cynnwys rhwydwaith o diwtoriaid o Batagonia sy'n siarad Cymraeg sydd wedi'u lleoli yn y rhanbarth. Mae'r tiwtoriaid yn ymweld â Chymru, yn mynychu cyrsiau'r Gymraeg ac yn cymryd rhan mewn ymweliadau arsylwi ysgolion, er mwyn helpu'r prosiect i gynnal safonau addysgu a sicrhau y caiff y methodolegau diweddaraf eu defnyddio ym Mhatagonia.