Herbert Thompson Primary School Receives British Council International School Accreditation
MP Kevin Brennan presenting Herbert Thompson Head Teacher Sheena Marsh with a British Council International School Accreditation. ©

Patrick Olner

Dydd Mercher 19 Ebrill 2023

Bu’r Aelod Seneddol lleol Kevin Brennan ar ymweliad arbennig ag Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn ddiweddar i gyflwyno Achrediad Ysgol Ryngwladol y British Council i’r Pennaeth, Sheena Marsh, i gydnabod gwaith yr ysgol o ddod â’r byd i’r ystafell ddosbarth. Yn ystod ei ymweliad cymerodd ran mewn digwyddiad unigryw lle’r oedd artistiaid o Gymdeithas Ryngwladol Theatr ar gyfer Plant a Phobl Ifanc (ASSITEJ) yn Ne Affrica yn cynnal gweithgareddau theatr a dawns gyda’r disgyblion.

Mae’r Achrediad Ysgol Ryngwladol yn cydnabod holl waith caled yr ysgol o ran meithrin ymwybyddiaeth ryngwladol a datblygu gweithgareddau ar draws y cwricwlwm i ehangu ymwybyddiaeth o ieithoedd, syniadau a gwahanol ddiwylliannau.

Wrth sôn am rai o’r prosiectau rhyngwladol sydd wedi cael eu datblygu gan Ysgol Gynradd Herbert Thompson dywedodd y Pennaeth, Sheena Marsh: “Mae pob un o’n dosbarthiadau wedi cymryd rhan mewn gwahanol brosiectau rhyngwladol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys creu cysylltiadau gydag ysgol yn Lesotho drwy alwadau zoom, ysgrifennu llythyron a gweithgareddau ar y cyd i blannu coed. Mae ein harweinydd rhyngwladol, Chloe Lazenby, wedi datblygu prosiectau celf sydd wedi rhoi cyfle i’r disgyblion ddysgu am fywyd yng ngwledydd Deheubarth Affrica drwy greu cysylltiadau gydag awduron a straeon o wledydd y rhanbarth. Yn fwyaf diweddar, mae hynny wedi cynnwys ymweliad cyffrous gan grŵp o artistiaid o Dde Affrica.”

Wrth sôn am dderbyn Achrediad Ysgol Ryngwladol, ychwanegodd Sheena: “Roedd yn wych cael croesawu Kevin Brennan yma i gymryd rhan yn yr ymweliad diweddar gan yr artistiaid. Hefyd, cafodd glywed gan y disgyblion am rai o’r gweithgareddau rhyngwladol ar y cyd y mae ein hathrawon wedi eu datblygu. Rydyn ni wedi gweithio’n galed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i greu cysylltiadau rhyngwladol ac ehangu gorwelion y plant, ac rydyn ni’n falch iawn i dderbyn yr achrediad yma. Rydyn ni’n credu fod creu cyfleoedd fel hyn drwy ieithoedd, theatr a llenyddiaeth yn ffordd wych o feithrin ymwybyddiaeth fyd-eang yn yr ysgol.”

Roedd ymweliad diweddar gan artistiaid o Dde Affrica yn un o uchafbwyntiau rhaglen greadigol yr ysgol. Fel rhan o brosiect Mynd Yn Ddigidol, ymwelodd artistiaid o ASSITEJ yn Ne Affrica ac artistiaid o Gymru â’r ysgol i gynnal gweithgareddau i ddod â straeon rhyngwladol yn fyw i’r plant drwy straeon llafar, dawns a drama.

Bu’r artistiaid yn gweithio gyda disgyblion blynyddoedd un a thri ar gyfres o straeon llafar mewn pedair iaith – Zulu, Affrikaans, Cymraeg a Saesneg. Yn ogystal, buon nhw’n gweithio ar ddarn theatr am ddau blentyn, y naill o Soweto yn Ne Affrica a’r llall o Langollen yng Ngogledd Cymru, sydd, er eu bod yn dod o rannau gwahanol iawn o’r byd yn wynebu llawer o heriau cyffredin.

Wrth sôn am ddod â’r artistiaid at ei gilydd ar gyfer y gweithgareddau, dywedodd Sarah Argent, Cyfarwyddwr Theatr ac un o reolwyr y prosiect Mynd yn Ddigidol yma: “Roedd cysylltu’r artistiaid o Dde Affrica a Chymru gyda’r plant drwy’r ymweliad yma ag Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn brofiad ardderchog. Mae’r ddau brosiect y gwnaethom ni ddod i’r ysgol yn dathlu diwylliannau ac ieithoedd De Affrica a Chymru. Roedd y plant yn awyddus iawn i ddysgu gan yr artistiaid, cael hwyl drwy ddawns a drama ac ymgysylltu â’r darnau grymus a heriol hyn.”

“Fe ddaethom ni a thîm gwych o artistiaid at ei gilydd drwy raglen Mynd yn Ddigidol - gan gysylltu aelodau anhygoel o ASSITEG De Affrica sef, Schoemé Grobler, Nompumelelo Mtshali, Miriam Mayet, a Sizwe Vilakazi gyda Nia Morris a Ceri Ellen sy’n gweithio ym myd y theatr yma yng Nghymru.”

Ychwanegodd Rebecca Gould, Pennaeth y Celfyddydau, British Council Cymru: Fe gawsom ni fore ardderchog yn Ysgol Herbert Thompson a chyfle i ymgysylltu â’r plant drwy rannu rhai o’r darnau cyffrous mae’r artistiaid wedi bod yn cydweithio arnynt ar gyfer y prosiect Mynd yn Ddigidol yma. Mae Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn llawn haeddu Achrediad Ysgol Ryngwladol am lwyddo i wreiddio ethos rhyngwladol gwych drwy’r ysgol gyfan.”

 

- Diwedd -

Nodiadau i olygyddion

Ar gyfer ymholiadau’r wasg, cysylltwch â: Rosalind Gould, British Council: +44 (7770 934953) E: rosalind.gould@britishcouncil.org

Am ragor o wybodaeth am waith y British Council yng Nghymru, ewch i  https://wales.britishcouncil.org/ neu dilynwch ni ar Twitter, Facebook neu Instagram.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2020-21 fe wnaethom ni ymgysylltu â 650 miliwn o bobl. 

Rhannu’r dudalen hon