Bydd disgyblion o Ysgol Sant Martin yng Nghaerffili'n teithio i Silverstone ddydd Gwener (4 Gorffennaf) ar gyfer ymweliad 'cip tu ôl i'r llenni' arbennig, ar ôl ennill cystadleuaeth STEM rhyngwladol.
Cymerodd yr ysgol ran yn rhaglen Learning Sectors y British Council, a gefnogir gan Fformiwla 1, sy'n cysylltu ysgolion yn y DU, De Affrica ac India i gydweithio i ddatrys heriau STEM yn y byd go iawn.
Ffurfiodd Ysgol Sant Martin bartneriaeth ag ysgol Hoërskool Koffiefontein yn Koffiefontein (tref ffermio fach yn nhalaith Free State yn Ne Affrica). Rhoddwyd her i'r disgyblion ystyried materion argyfyngus sy'n effeithio ar eu cymunedau lleol. Dewisodd yr ysgol yn Ne Affrica amlygu mater o bwys difrifol: dim ond tair awr o ddŵr mae eu tref yn ei dderbyn yn ddyddiol oherwydd isadeiledd hynafol a systemau dosbarthu wedi'u difrodi.
Trwy alwadau fideo a negeseuon cyson, cafodd y disgyblion yng Nghymru weld tystiolaeth uniongyrchol o effaith yr argyfwng, ac fe ddechreuon nhw ymchwilio i nifer o atebion posibl - o ddefnyddio gwahanol ddeunydd atgyweirio i fodelau cynnal a chadw cymunedol. Yn ogystal, bu'r disgyblion yn edrych ar faterion ehangach fel perchnogaeth tir, nawdd cyhoeddus a chyfrifoldeb gwleidyddol. Gan edrych ar waith cyrff anllywodraethol (NGOs) a sefydliadau cymorth rhyngwladol, fe luniodd y disgyblion gynllun cynhwysfawr i fynd i'r afael â'r heriau technegol yn ogystal â'r cyd-destun cymdeithasol ac economaidd ehangach.
Tra bod y disgyblion o Ysgol Sant Martin yn canolbwyntio ar yr argyfwng dosbarthu dŵr yn Ne Affrica, aeth ei hysgol bartner yn Koffiefontein i'r afael â her yn y DU - yr argyfwng costau byw cyfredol, a sut i leihau costau ynni a gwres. Bu'r cyfnewid dwy ffordd yma'n help i'r disgyblion ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o heriau byd-eang, empathi â phrofiadau pobl eraill a sgiliau datrys problemau drwy gydweithio.
Wrth sôn am effaith y prosiect buddugol, dywedodd Francisco Lopez, yr athro arweiniol: "Fe ddechreuodd fel prosiect bach yn yr ysgol, ond fe dyfodd y tu hwnt i bob disgwyl. Roedd y disgyblion yn gweithio'n annibynnol ac fe wnaethon nhw gysylltu ag arbenigwyr fel Dŵr Cymru, gan ddatblygu nid dim ond un syniad ond ystod o atebion ystyrlon a realistig. Fe ddysgon nhw nad problemau peirianegol yn unig yw heriau byd-eang fel prinder dŵr - maent yn ymwneud â phobl, gwleidyddiaeth ac empathi.
"Un o'r pethau mwyaf emosiynol oedd gweld ein disgyblion ni'n cael cyfle uniongyrchol i weld optimistiaeth a gwydnwch eu cyd-ddisgyblion yn Ne Affrica. Mae wedi trawsnewid y ffordd maen nhw'n meddwl am anghydraddoldeb - nid fel rhywbeth i deimlo trueni drosto, ond rhywbeth i ddatrys gyda'n gilydd".
Wrth ddisgrifio'r foment y clywodd y tîm eu bod wedi ennill, dyweddodd Francisco: "Ro'n i wrth fy modd - yn enwedig dros y disgyblion. Fe redais i ddweud wrth y pennaeth. Roedd y gystadleuaeth ar draws y DU yn ffyrnig ac, â bod yn onest, doeddwn i ddim wedi disgwyl ennill. Byddan nhw'n cofio hyn am byth.
"Ac fe gafodd y dysgwyr sioc hefyd o glywed y newyddion. Mae rhai ohonyn nhw'n ffans mawr o F1 ac yn methu credu y byddan nhw'n cael bod yn westeion VIP."
Fel rhan o'u gwobr, bydd y tîm o Ysgol Sant Martin, sy'n cynnwys pedair merch a phedwar bachgen, yn mynd ar ymweliad arbennig â Silverstone am brofiad 'tu ôl i'r llenni' unigryw. Byddant yn cwrdd â pheirianwyr Fformiwla 1, treulio amser yn y padog, a gweld drostynt eu hunain sut mae sgiliau STEM yn cael eu rhoi ar waith yn un o ganolfannau chwaraeon enwocaf y byd.
Mae Francisco'n gobeithio y bydd y profiad yn agor gorwelion newydd i'r disgyblion. Meddai: "Nid yw pob un o'r disgyblion yn breuddwydio am fod yn beirianwyr, ond mae'r prosiect yma'n dangos fod STEM ym mhob man - o faes cyfathrebu a logisteg i reoli prosiectau a gwleidyddiaeth. Mae Fformiwla 1 yn cyfuno'r holl elfennau hyn mewn cyd-destun rhyngwladol deinamig. Mae'n ffordd rymus o gysylltu angerdd â phosibiliadau gyrfa yn y dyfodol."
Nod rhaglen Learning Sectors yw cyrraedd 700 o ysgolion ledled y byd yn y flwyddyn gyntaf.
Wrth longyfarch yr ysgol ar ei llwyddiant, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr Brtish Council Cymru: "Mae gweld ysgol o Gymru'n ennill cystadleuaeth i'r DU gyfan yn wych - mae'n brawf gwirioneddol o greadigrwydd, ymroddiad a golwg byd-eang disgyblion a staff Ysgol Sant Martin.
"Mae'r prosiect yma'n adlewyrchu amcanion rhaglen Learning Sectors yn berffaith - meithrin cydweithio byd-eang, creadigrwydd a dulliau ymarferol o ddatrys problemau. Gwnaeth dyfnder, gwreiddioldeb a gwaith tîm y cynnig a gyflwynwyd gan y disgyblion argraff arbennig ar y beirniaid.
"Mae gweld pobl ifanc o wahanol rannau o'r byd yn cydweithio ar heriau taer a chymleth yn ysbrydoliaeth. Rydyn ni'n gobeithio y caiff disgyblion Ysgol Sant Martin brofiad gwych yn Silverstone, ac y bydd yn sbarduno syniadau newydd am bosibiliadau eu llwybrau yn y dyfodol."
Gall ysgolion yng Nghymru wneud cais nawr i gymryd rhan yn rownd nesaf Rhaglen Learning Sectors y British Council. Y dyddiad cau ar gyfer y rownd nesaf yw 12 Medi. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.britishcouncil.org/school-resources/learningsectors
Mae'r rhaglen hon yn adeiladu ar genhadaeth y British Council ers tro byd i feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng y DU a'r byd ehangach drwy'r celfyddydau, addysg a'r iaith Saesneg. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ac ysgolion gael eu hysbrydoli gan gydweithio rhyngwladol ac ystyried posibiliadau pellach ar gyfer partneriaethau byd-eang ac ymgysylltu trawsddiwylliannol.
Am fwy o wybodaeth am British Council Cymru, ewch i https://wales.britishcouncil.org/en neu dilynwch ni ar X, Facebook, ac Instagram.