Dwy ysgol yng Nghaerdydd yw'r rhai cyntaf yng Nghymru i ymuno â rhaglen Arabeg y British Council, sy'n hyrwyddo dysgu'r iaith Arabeg a'r diwylliant mewn ysgolion yn y DU.
Mae grantiau o £6k a £5k wedi eu dyfarnu, y naill i Ysgol Uwchradd Fitzalan yn Lecwydd a'r llall i Ysgol Gynradd Lakeside fel rhan o'r rhaglen ac maent wedi cyflwyno clybiau ar ôl ysgol ar gyfer Arabeg.
Mae Arabeg yn boblogaidd yn Fitzalan gyda 40 o ddisgyblion wedi eu cofrestru i sefyll TGAU Arabeg eleni a 35 o ddisgyblion wedi eu cofrestru ar gyfer y clwb ar ôl ysgol yn yr wythnosau cyntaf.
Canfu adroddiad ymchwil Ieithoedd i'r Dyfodol y British Council mai Arabeg fydd yr ail iaith fwyaf hanfodol i'r DU dros yr ugain mlynedd nesaf (yn ail i Sbaeneg). Sefydlwyd y rhaglen Arabeg ddwy flynedd yn ôl mewn ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad ac mae grantiau wedi eu dyfarnu i 15 o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y DU â'r bwriad o arwain y ffordd yn natblygiad dysgu ac addysgu Arabeg. Mae llawer o'r ysgolion yn cydgysylltu grwpiau lleol o ysgolion ac yn darparu:
• Addysgu Arabeg yn y cwricwlwm
• rhannu arfer da
• datblygiad proffesiynol i athrawon
• gweithdai/diwrnodau agored a sesiynau rhagflas gydag ysgolion eraill
Mae cyfanswm o 70 o ysgolion ledled y DU yn cymryd rhan yn y rhaglen.
Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae'n wych cael dwy ysgol Gymraeg yn cymryd rhan yn y cynllun a gobeithiwn y bydd rhagor yn cael eu hysbrydoli gan Fitzalan a Lecwydd. Mae hyn yn ffordd i blant sydd yn gwybod rhywfaint o Arabeg o'u teuluoedd, yn ogystal â'r rheini sy'n newydd i Arabeg, i ddechrau dysgu iaith sydd o bwysigrwydd mawr i'r DU. Ar hyn o bryd mae'r bwlch rhwng ein hangen am sgiliau Arabeg a'n darpariaeth gyfredol yn fawr iawn, gydag Arabeg ond yn cael ei dysgu mewn 300 neu 1% o'r ysgolion yn y DU."
Dylai athrawon sydd â diddordeb mewn cyflwyno Arabeg yn eu hysgolion e-bostio ArabicSchools@britishcouncil.org