Dydd Mawrth 01 Mawrth 2016

 

Mae ysgolion ar draws Cymru wedi ennill Gwobr Ysgolion Rhyngwladol mawreddog y British Council i gydnabod eu gwaith yn dod â’r byd i'r ystafell ddosbarth.

Mae'r Wobr Ysgolion Rhyngwladol yn anrhydedd i ysgolion sy'n gwneud gwaith eithriadol mewn addysg ryngwladol er enghraifft drwy feithrin cysylltiadau ag ysgolion partner dramor. Mae meithrin dimensiwn rhyngwladol yn y cwricwlwm wrth wraidd gwaith y British Council gydag ysgolion, a’r nod yw sicrhau bod pobl ifanc yn magu’r ddealltwriaeth ddiwylliannol a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw a gweithio fel dinasyddion byd-eang.

Cyflwynwyd y wobr yn Seremoni Wobrau Ysgolion Rhyngwladol Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ar 25 Chwefror 2015. 

Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: “Mae’r Wobr Ysgolion Rhyngwladol yn cefnogi ysgolion i feithrin cysylltiadau rhyngwladol ac yn hyrwyddo dealltwriaeth ar y cyd rhwng diwylliannau gwahanol, sydd yn arbennig o bwysig yn y byd modern. Mae hyn yn gamp wych i’r holl ysgolion buddugol ac rwy’n sicr ei fod yn adlewyrchu gwaith caled staff yr ysgolion.”

Yn y seremoni wobrwyo bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithdai, yn rhoi cynnig i ddrymio Brasilaidd, yn dysgu am Fasnach Deg ac yn clywed gan Antony Jinman am ei anturiaethau fel chwilotwr pegynol. 

Dyma restr o’r ysgolion buddugol:

  • Evenlode Primary School, Penarth
  • Gwernyfed High School, Three Cocks, Aberhonddu
  • Jenner Park Primary School, Barri
  • Llanedeyrn Primary School, Caerdydd
  • Maes yr Haul Primary School, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Plascrug Primary School, Aberystwyth
  • St Christopher's School, Wrecsam
  • St Nicholas Church in Wales Primary School, Bro Morgannwg
  • Terrace Road Primary School, Abertawe
  • Willowbrook Primary School, Caerdydd
  • Ysgol Gymraeg  Lôn Las, Abertawe
  • Ysgol Gynradd Llanllechid, Bangor
  • Ysgol Heol Goffa, Llanelli
  • Ysgol Hiraddug, Dyserth, Sir Ddinbych

Nodiadau i olygyddion

Y Wobr Ysgolion Rhyngwladol

Mae’r wobr nawr yn un fyd-eang ac ar gael mewn gwledydd megis India, Sri Lanka, Yr Aifft, Lebanon, Cyprus a Phacistan fel rhan o raglen Cysylltu Dosbarthiadau’r British Council. Mae oddeutu 5,000 o Wobrau Ysgolion Rhyngwladol wedi cael eu cyflwyno i ysgolion llwyddiannus yn y DU ers i’r cynllun ddechrau yn 1999.

Mae'r Wobr Ysgolion Rhyngwladol yn annog ac yn cefnogi ysgolion i ddatblygu:

•Ethos rhyngwladol sydd wedi’i wreiddio ledled yr ysgol

•Mwyafrif y disgyblion yn yr ysgol yn ymwneud â gwaith rhyngwladol ac yn cael eu heffeithio ganddo

•Gwaith seiliedig ar y cwricwlwm ar y cyd â nifer o ysgolion partner

•Gwaith cwricwlwm ar draws ystod o bynciau

•Gweithgarwch rhyngwladol gydol y flwyddyn

•Cynnwys y gymuned ehangach

Dechreuodd Gwobr Ysgolion Rhyngwladol y British Council ym 1999 i gydnabod yr ysgolion sydd ar flaen y gad yn meithrin a datblygu dimensiwn byd-eang i mewn i brofiad dysgu pob plentyn a pherson ifanc. Mae'n cael ei reoli gan y British Council.

‘Siop un stop’ cefnogol yw Ysgolion Ar-lein British Council i helpu ysgolion ddod o hyd i gyfleoedd rhyngwladol ac adnoddau addysgu gan gynnwys manylion am y Wobr Ysgolion Rhyngwladol y British Council. Gall unrhyw ysgol wybod sut i wneud cais drwy fynd i Schools Online .

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang. 

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae ein 8,000 o staff - gan gynnwys 2000 o athrawon - yn gweithio gyda miloedd o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi a miliynau o bobl ifanc bob blwyddyn drwy ddysgu Saesneg, rhannu'r Celfyddydau, a chyflwyno rhaglenni addysg a chymdeithasol.

Rydym yn elusen gofrestredig o fewn y DU sydd wedi'i llywodraethu gan Siarter Frenhinol. Mae grant craidd a ariennir yn gyhoeddus yn llai na 20 y cant o'n trosiant a oedd yn £864m y llynedd. Mae gweddill ein cyllid yn cael ei ennill o wasanaethau y mae cwsmeriaid ledled y byd yn talu amdanynt, drwy gytundebau addysg a datblygu ac o bartneriaethau gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ein holl waith yn anelu at gyflawni ein diben elusennol ac yn cefnogi ffyniant a diogelwch i'r DU ac yn fyd-eang.

Am ragor o wybodaeth ewch i: wales.britishcouncil.org

Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â'r British Council Cymru drwy

http://twitter.com/bcwales

 

https://www.facebook.com/BritishCouncilWales

Rhannu’r dudalen hon