Mae Josephine Moate yn uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Jyväskylä yn y Ffindir. Yma, mae hi’n sôn am system addysg y Ffindir a chymharu dulliau dysgu ieithoedd yng Nghymru a’r Ffindir.
Yn y blog yma, rwy’n tynnu ar fy mhrofiad o iaith ac ieithoedd yn nhirlun addysg y Ffindir, gan dynnu sylw at rai elfennau sy’n debyg i’r sefyllfa yng Nghymru. Cyn dechrau, hoffwn gael dweud fy mod i’n cymeradwyo cwricwlwm newydd Cymru yn llwyr.
Addysg Ieithoedd yn y Ffindir
Ffinneg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o blant yn y Ffindir; Swedeg yw iaith gyntaf ychydig dros 5 y cant o’r boblogaeth. Mae plant yn y Ffindir yn dechrau astudio eu hiaith ychwanegol gyntaf (Saesneg, fel arfer) fan hwyraf yn ystod eu blwyddyn gyntaf yn yr ysgol (7-8 oed). Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd ymdrech sylweddol i gyflwyno gwahanol ieithoedd fel rhan o addysg gynnar plant yn y Ffindir. Mae rhai prosiectau wedi bod yn hybu a chyflwyno ieithoedd heblaw Saesneg yn ystod y flwyddyn gyntaf. Er enghraifft, yn ninas Tampere roedd prosiect Kikatus yn cyflwyno saith o ieithoedd gwahanol, gan gynnwys Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Rwsieg a Tsieinëeg, i blant dan oed ysgol (6-7 oed). Bu’r prosiect yn llwyddiant o ran annog mwy o blant i astudio iaith heblaw Saesneg yn eu blwyddyn gyntaf yn yr ysgol.
Ym mlwyddyn 4 (10-11 oed) gall plant yn y Ffindir ddewis astudio trydedd iaith. Os oes grŵp digonol o ddysgwyr yn dewis gwneud hyn, bydd gwersi yn yr iaith honno’n cael eu darparu tan ddiwedd blwyddyn 9 (15-16 oed). Mae plant yn y Ffindir yn dechrau astudio’r iaith genedlaethol arall, naill ai Ffinneg neu Swedeg, fan hwyraf ym mlwyddyn 6 (12 -13 oed). Yn ystod blynyddoedd 7-9 (13-15 oed) gall disgyblion astudio ieithoedd eraill (drwy opsiynau dewisol byr-dymor neu hir-dymor). Yn yr ysgol uwchradd (16-18 oed fel arfer) mae cyfle eto i’r dysgwyr ddewis astudio iaith arall ac mae rheidrwydd ar bob myfyriwr addysg uwch i gwblhau cyrsiau yn Ffinneg a Swedeg yn ogystal ag iaith ychwanegol. Felly mae’r tirlun addysg yn y Ffindir yn cynnig myrdd o gyfleoedd i astudio ieithoedd.
Mae ymchwil yn dangos gwerth cronfeydd ehangach o ieithoedd
Mae’r Ffindir a Chymru, fel gwledydd dwyieithog, yn awyddus i fanteisio’n llawn ar eu hetifeddiaeth ddwyieithog a chydnabod gwerth ehangach ieithoedd a’r angen i blant ddatblygu cronfeydd ieithyddol ehangach a thyfu’n lluosieithog. Rwy’n credu bod newid arwyddocaol yn digwydd yn y ddwy wlad hefyd sy’n golygu nad yw ieithoedd bellach yn cael eu gweld fel rhannau sy’n eistedd ar wahan yn y cwricwlwm; yn hytrach maent yn cael eu gweld fel rhan o gymdeithas a bywyd yr ysgol a’r gymuned ehangach.
Nid yw hyn yn golygu y dylai pawb ddysgu’r un ieithoedd. Yn hytrach, gwelir bod angen amrywiaeth eang o ieithoedd a gallu ieithyddol ar gymdeithas, a bod lle hefyd i amrywiaeth o’r fath yn ein cymdeithas. Yn y ddwy wlad, rwy’n credu bod newid arwyddocaol arall yn digwydd hefyd, sef nad yw ieithoedd bellach yn cael eu gweld fel rhannau ar wahan o’r cwricwlwm – yn gyfyngedig i slotiau penodol yn yr amserlen ar gyfer addysgu a dysgu ieithoedd. Yn hytrach, maent yn cael eu gweld fel rhan o fywyd bob dydd yr ysgol ac yn gyfryngau hanfodol i danio brwdfrydedd a datblygu addysg mewn gwahanol ffyrdd.
Yn y Ffindir ac yng Nghymru fel ei gilydd mae yna gydnabyddiaeth bod y newid arwyddocaol yma’n galw am ymdrech gan y gymuned gyfan. Nid yw hwn yn newid y gellir ei fandadu, er mae’n amlwg y gall polisi helpu. Mae hwn yn newid sy’n digwydd ar lawr gwlad, wrth i ddemograffig poblogaethau amrywio, wrth gydnabod bod ieithoedd treftadaeth yn adnoddau hanfodol – yn bersonol ac economaidd, ac wrth i effaith newidiadau gwleidyddol ddylanwadu ar lefelau gwahanol o gymdeithas.
Mae ymchwil yn dangos gwerth cronfeydd ehangach (nid culach) o ieithoedd gan eu bod yn cryfhau meddwl creadigol, meddwl cysyniadol, hyblygrwydd gwybyddol a meddwl beirniadol. I fanteisio’n llawn ar y cyfoeth o adnoddau iaith sy’n rhan o’r tirlun addysg mae’n rhaid i lunwyr polisi, cyrff ariannu, awdurdodau addysg, ymarferwyr, rhieni a dysgwyr fod yn rhan o’r broses – gyda chyfle i bob un ohonynt gyfrannu o’u safbwynt eu hunain. Rwy’n credu bod yr egni sy’n cael ei roi i’r ymdrech ar y cyd yma’n un o nodweddion rhyfeddol y tirlun addysg yn y Ffindir ac yng Nghymru.
Mae ieithoedd gwahanol yn dehongli’r byd mewn ffyrdd gwahanol
Ond, mae’r newid yma’n gofyn am ffordd newydd o ddeall iaith hefyd – fel ffenomenon ac yn nhermau lluosedd a lluosogrwydd. Nid ffyrdd cyfatebol o ddeall ac esbonio’r byd yw ieithoedd. Nid yw termau, o anghenraid, yn cael eu cyfnewid yn uniongyrchol rhwng un iaith a’r llall. Wrth ddefnyddio’r gair Ffinneg, käsi, rwy’n cyfeirio at y rhan o’m corff sy’n ymestyn o dop fy ysgwydd hyd flaenau fy mysedd fel un endid cyfan; ond yn Saesneg ni fyddwn yn cyfeirio at yr un endid fel ‘arm-hand’. Ond fy mhwynt yw, mae ieithoedd gwahanol yn dehongli’r byd mewn ffyrdd gwahanol ac mae gwerthfawrogi gwahanol ieithoedd yn rhoi mwy o adnoddau i ni ddeall y byd a’n gilydd yn well. Mae iaith yn cyfryngu ein cyfranogiad yn y byd yn ogystal â’n dealltwriaeth a’n perthnasoedd mewn cymaint o ffyrdd arwyddocaol; ac mae defnyddio iaith yn fwy na dim ond dewis ‘tiwb’ gwahanol i ddanfon eich neges ar ei hyd. Mae dewis yr iaith a ddefnyddir yn newid ansawdd a chynnwys y neges yn ogystal â’r profiad sy’n cael ei feithrin gan hynny a’r byd y mae’n ei greu.
Wrth feddwl am ‘lingua franca’ dylem feddwl am draffordd – rhywbeth a grewyd at ddiben strategol, yn gyfrwng i alluogi teithio’n gyflym heb unrhyw gyswllt â’r amgylchedd y mae’n torri drwyddo. Blaenoriaeth traffordd yw ein galluogi i deithio o un lle i’r llall, ac mae angen i bopeth rhwng y man cychwyn a’r gyrchfan fod mor rhwydd ac unplyg â phosib. Gall traffyrdd fod yn ddefnyddiol ar gyfer siwrneiau hir, ond maent yn fwy o drafferth na help ar gyfer ymweld â siopau lleol, canolfannau cymunedol rhanbarthol, cymdogion a ffrindiau. Mae ieithoedd treftadaeth yn debycach i briffyrdd a chilffyrdd sydd wedi cael eu siapio gan ffurf y tir a’r angen i fyw a chydweithio gyda phobl eraill. Mae’r ieithoedd yma’n cysylltu cenedlaethau, cryfhau perthnasoedd cymdeithasol a galluogi cymdogaethau a chymunedau i ffynnu ochr yn ochr â’i gilydd. Mae ieithoedd treftadaeth yn gyfrwng i rannu’r stori am bwy ydym ni a chadw’r stori honno i fynd o genhedlaeth i genhedlaeth.
Mae hon yn foment gyffrous iawn i’r Ffindir a Chymru
Mae ieithoedd tramor yn dramwyfeydd sy’n ein cario y tu hwnt i’n ffiniau personol a thu hwnt i ffiniau ein cymdogaethau, rhanbarthau a gwledydd. Mae ieithoedd tramor modern yn rhoi cyfle i ni edrych a gweld gyda llygaid newydd, anturio gyda geiriau newydd, a meithrin perthnasoedd newydd sy’n dod â manteision diwylliannol ac economaidd. Mae ieithoedd tramor yn cydnabod fod yna bobl eraill sy’n byw a bod mewn ffyrdd gwahanol a bod ganddynt ddealltwriaeth wahanol o’r byd. Wrth i ni ddysgu ac ymwneud ag ieithoedd pobl eraill, rydym yn meithrin gwell dealltwriaeth ohonom ein hunain a dealltwriaeth gyfoethocach o’r byd yn ogystal â chreu mwy o gyfleoedd i ymgysylltu ymhellach ag eraill.
Byddwn yn awgrymu fod hon yn foment gyffrous iawn i’r Ffindir a Chymru wrth iddynt droi at benodau newydd yn eu straeon; neu, mewn gwirionedd, wrth iddynt ysgrifennu penodau newydd yn eu straeon – penodau sydd lawn mor gyffrous i’r awduron ac ydynt i’r darllenwr!
Mae rhai ardaloedd yn ddwyieithog, rhai yn amlieithog a rhai yn uniaith
Hoffwn rannu un esiampl ymarferol. Rwy’n rhan o brosiect cenedlaethol sy’n anelu i ddatblygu map a chwmpawd i nodi a dilyn dulliau arloesol o addysgu ieithoedd yn y Ffindir. Rydym wedi bod yn casglu enghreifftiau o ymarfer arloesol gan addysgwyr ledled y Ffindir sy’n hybu defnydd a datblygiad iaith ac ieithoedd yng nghyfnod cynnar plentyndod ac fel rhan o addysg sylfaennol. Ond rydym yn deall fod y tirlun addysgol ac ieithyddol yn amrywio ar draws y wlad. Mae rhai ardaloedd yn fwy dwyieithog, rhai’n amlieithog a rhai’n ymddangos yn fwy uniaith. Tra bod rhai athrawon yn gyfarwydd iawn â dysgu ieithoedd, mae’n golygu newid mawr i eraill. Yn ogystal ag addysgu mwy o ieithoedd ac addysgu ieithoedd i blant iau, dylid mabwysiadu dulliau gweithredu sy’n effro i ieithoedd ar draws y cwricwlwm.
Oherwydd amrywiadau o’r fath ym mhatrymau iaith gwahanol ardaloedd, ni allwn drawsblannu dulliau o un cyd-destun i’r llall a disgwyl iddynt weithio; ond fe allwn ddysgu oddi wrth ein gilydd a gyda’n gilydd. Mae clywed am brofiadau pobl eraill yn cynnig mwy o opsiynau o ran datblygu ein hymarfer addysgol ein hunain. Mae gallu troi at gwmpawd o amrywiadau fel hyn - deall pam yr ydym yn addysgu a dysgu ieithoedd, sut i hybu datblygiad ieithyddol a gwerth ieithoedd fel rhan o fywyd ein cymunedau – yn golygu y gallwn gymhwyso dulliau pobl eraill mewn modd ystyrlon, a’u haddasu at ofynion ein cymunedau ein hunain. O ganlyniad rydym yn cyfoethogi ein hamgylcheddau cymdeithasol lleol a buddsoddi yn amrywiaeth fywiol y gymuned ehangach.
Mae’n ymddangos i mi fod prosiect tebyg ar waith ledled y wlad yng Nghymru. Mewn sawl ffordd, mae’r map newydd wedi cael ei lunio’n barod wrth greu’r cwricwlwm newydd – a ddatblygwyd drwy ymdrech gymunedol a gweledigaeth gyffredin. Mae’n siwr bod y gwaith o greu’r cwmpawd yn dal i fynd yn ei flaen; ond os yw hynny’n golygu bod addysgwyr, llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill ym maes addysg yn gorfod cadw’r sgwrs ehangach i fynd, byddwn i’n dweud mai da o beth yw hynny.