Cysylltiadau diwylliannol rhyngwladol drwy arloesi ym maes arferion diwylliannol a chreadigol yw un o'r adnoddau mwyaf pwerus sydd gennym i ddeall ein gilydd ac i greu cyfleoedd a meithrin ymddiriedaeth rhwng pobl. Dyna sydd wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud yn y British Council ac mae'r un mor berthnasol heddiw ag yr oedd pan gawsom ein sefydlu yma yng Nghymru yn 1944.
O'r cychwyn cyntaf, ein diben yng Nghymru oedd hyrwyddo'r diwylliant a'r dysgu gorau o Gymru i weddill y byd; dod ag academyddion, myfyrwyr, gwneuthurwyr polisi ac artistiaid tramor i Gymru a mynd â'u cymheiriaid dramor.
Ers hynny, rydym wedi rhoi cyfle i filoedd o bobl ifanc o Gymru astudio a gweithio dramor, wedi helpu ysgolion a sefydliadau addysg uwch i greu partneriaethau mewn gwledydd eraill, ac wedi cefnogi datblygiad proffesiynol athrawon ac academyddion drwy brofiad rhyngwladol.
Rydym hefyd wedi dod â'r myfyrwyr disgleiriaf o wledydd eraill i weithio, astudio ac addysgu yng Nghymru, gan ehangu gorwelion diwylliannol pobl ifanc.
Rydym wedi dangos y celfyddydau gorau o Gymru ar y llwyfan byd-eang ac wedi dod â'r celfyddydau rhyngwladol gorau i Gymru, gan gefnogi perfformiadau ac arddangosfeydd yn ein gwyliau, ein hamgueddfeydd a'n horielau sydd wedi agor llygaid pobl i'r byd o'u cwmpas.
Heddiw, mae gan British Council Cymru enw da am ei gyrhaeddiad byd-eang. Drwy swyddfeydd mewn 110 o wledydd, rydym yn dwyn ynghyd wybodaeth, profiad a safbwyntiau tramor, yn meithrin cydberthnasau, ac yn rhoi sylwadau ar faterion sy'n effeithio ar broffil a safle Cymru yn y byd. Rydym yn ffynhonnell werthfawr o gefnogaeth a chymorth i gynrychiolwyr diwylliannol ac addysgol o Gymru sy'n ymweld â gwledydd eraill.