Gwobr Artes Mundi, y sefydliad celfyddydau o Gymru, yw gwobr celf gyfoes ryngwladol fwyaf y Deyrnas Unedig. Yma, mae’r sgwenwr, Kathryn Tann, yn cyfweld â Lianne Toye, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Datblygu Artes Mundi, am sut mae’r sefydliad wedi addasu i heriau creu arddangosfa gelf ryngwladol yn ystod pandemig, a sut mae’r heriau hynny wedi arwain at ddulliau newydd a llwyddiannus o weithio.
Eleni bydd nawfed Arddangosfa Artes Mundi yn cael ei lansio. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wrth wynebu cwrs rhwystrau o amodau cadw pellter cymdeithasol, mae’r sefydliad celfyddydau nid-er-elw yma wedi llwyddo i wneud mwy na dim ond addasu – mae wedi tyfu’n gryfach.
Mae gwobr Artes Mundi yn cael ei chyflwyno bob yn eilflwydd. Mae cartref y wobr yng Nghaerdydd ond mae’n cyrraedd i bedwar ban byd, ac eleni mae wedi gweld lansiad llwyddiannus ei nawfed arddangosfa. Bydd yr arddangosfa yn dangos gwaith newydd a diweddar gan y chwe artist sydd wedi cyrraedd rhestr fer y wobr. Mae pob un ohonynt yn dod o wledydd gwahanol ac mae eu gwaith yn ‘archwilio, cwestiynu a mynd i’r afael â rhai o’r materion mwyaf arwyddocaol sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd’. Ond ni fyddai unrhyw un wedi gallu rhagweld tirlun newydd y materion hynny pan gafodd y rhestr fer ei dewis ym mis Medi 2019.
Tra bod amodau a chyfyngiadau cenedlaethol Covid-19 yn dal mewn grym yng Nghymru bydd arddangosfa Artes Mundi yn cael ei chyflwyno’n rhithwir yn unig, gyda theithiau tywys manwl o bob gosodwaith ar gael am ddim ar-lein. Mae’r mannau arddangos, sef orielau celf Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Canolfan Gelfyddydau Chapter a g39 yn gobeithio cael agor eu drysau i’r cyhoedd mewn pryd i groesawu haf hir o ymwelwyr. Y bwriad gwreiddiol oedd cadw at y drefn arferol o gynnal yr arddangosfa dros gyfnod o 16 wythnos, ond eleni bydd yr arddangosfa ar agor hyd 5 Medi.
Chwilio am haul ar fryn
Mae Lianne Toye, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Datblygu Artes Mundi, yn credu bod gorfod gohirio’r arddangosfa ddwywaith cyn ei lansio ar ffurf ddigidol wedi bod yn bris bach i’w dalu mewn diwydiant sydd wedi dioddef yn enbyd yn ystod y deuddeg mis diwethaf.
‘Fel tîm, rydyn ni i gyd yn bobl bositif ac rwy’n credu bod nifer o ffurfiau celf ac ymarferwyr ar draws byd y celfyddydau wedi dioddef effeithiau gwirioneddol erchyll heb allu addasu na chyflawni gwaith yn ôl eu harfer. Rydyn ni wedi gallu cyflawni gwaith; ac er y bu’n rhaid gwneud newidiadau bach i rai pethau, ac er nad yw pobl yn gallu ymweld ag orielau yn y cnawd, does dim byd wedi teimlo’n gwbl amhosib nac wedi bod yn her anorchfygol.’
‘Yn gyffredinol, rwy’n credu bod y celfyddydau gweledol wedi bod yn fwy ffodus na’r celfyddydau perfformio. Gan nad oes gan sefydliad Artes Mundi gartref penodol mewn un ganolfan benodol, dydyn ni ddim wedi gorfod ymdopi â cholli incwm masnachol a gweld cyllid yn crebachu. Mae llawer o sefydliadau’n dibynnu’n drwm nid yn unig ar arian tocynnau ond hefyd ar incwm o siopau a chaffis. Dydyn ni ddim wedi gorfod dygymod â hynny.’
Mwy na dim ond gwobr
Mae Lianne yn mynd ymlaen i esbonio fod Artes Mundi yn gwneud llawer mwy na chynnal y brif arddangosfa bob dwy flynedd. Mae gan Artes Mundi raglen waith sydd wedi ymrwymo i hybu artistiaid ac annog ymgysylltu artistig gyda phartneriaid fel The Aurora Trinity Collective a nifer o brosiectau a mentrau cydweithredol cymunedol eraill, yn ogystal â rhaglen o ddigwyddiadau a mentrau - sy’n tyfu’n gyflym - y tu hwnt i’r wobr.
Ym mis Ionawr 2020, ymunodd Letty Clarke ag Artes Mundi fel Curadur Rhaglenni Cyhoeddus. Gobaith Artes Mundi oedd datblygu rhaglen gryfach o weithgareddau i redeg drwy gydol cylchdro’r ddwy flynedd, a gwneud hynny ‘..mewn modd llawer mwy arwyddocaol a chreiddiol.’
Pan ddechreuodd cyfyngiadau Covid-19 gymryd gafael, fe lwyddodd Artes Mundi i newid amserlen yr arddangosfa. Fel mae Lianne yn esbonio, ‘Roedden ni’n lwcus achos pan ddechreuodd y cyfnod clo cyntaf, roedd gyda ni saith mis tan ddyddiad agor arddangosfa AM9, sef mis Hydref 2020, ac felly roedd gyda ni amser i gynllunio ar gyfer hynny’.
Rhoddodd y newidiadau yn yr amserlen gyfle i’r tîm ganolbwyntio ar waith ymgysylltu â’r gymuned na fyddent o bosib wedi gallu gwneud fel arall. Y peth cyntaf a nododd y tîm wrth weld lansio’r holl gynlluniau newydd i hybu adferiad diwylliannol, oedd bod ganddynt gyfle da i ddefnyddio eu harbenigeddau i gynnig help i bobl gyda’r broses lafurus (a digon brawychus ar brydiau) o baratoi a chyflwyno ceisiadau am gyllid.
‘Fe wnaethon ni gynnig help i artistiaid ac unigolion achos roedd cymaint o’r ymarferwyr hynny’n gweithio ar eu pen eu hunain - a gan fod cymaint o’u gwaith dysgu a’u gwaith yn y gymuned wedi stopio, roeddent wedi eu hynysu’. Llynedd, cynhaliodd tîm Artes Mundi 32 o sesiynau un i un gydag artistiaid, ac rydym yn bwriadu cynnal mwy yn y misoedd i ddod. Rydym hefyd yn bwriadu gwahodd curaduron ac artistiaid rhyngwladol i gymryd rhan a chyfrannu.’
Yn sgil y fenter yna, fe gynhaliodd Artes Mundi gyfres o Gynulliadau Artistiaid gan gynnwys Cynulliadau Gwarchodedig i artistiaid duon ac artistiaid croenliw sydd heb fod yn ddu. Wrth gysylltu ag unigolion i gynnig help gyda cheisiadau cyllid daeth yn amlwg ‘nad oedd fforwm na rhwydwaith yn ei le i’w galluogi i ddod at ei gilydd i drafod eu profiadau – nid yn unig i rannu syniadau ond hefyd i drafod y materion y maent yn eu hwynebu a chefnogi ei gilydd.’ Cafodd y sesiynau yma eu cynnal yn fisol am dri mis; ac yna datblygwyd rhaglen newydd mewn ymateb i adborth y mynychwyr.
Pŵer technoleg a chyfryngau digidol
Roedd y mentrau yma, yn ogystal ag esblygiad y gwaith gyda’r Aurora Trinity Collective - fel gweithdai gwnïo a digwyddiadau cymdeithasol - yn cael eu rhedeg a’u cynnal drwy zoom.
‘Fe dyfodd llawer o’r gweithgareddau ohonynt eu hunain. Fe dyfodd y perthnasoedd yn gryfach ac fe wnaethon nhw esblygu; ac rydyn ni wedi meithrin sefyllfa lle mae’r holl weithgareddau yma’n rhan ganolog o’n gwaith bob dydd ac yn tyfu’n fwyfwy felly. O fewn y grŵp mae pobl yn datblygu syniadau am yr hyn y maent eisiau ac amcanion y maent yn awyddus i’w dilyn. Mae’n fwy na thebyg na fyddai hynny wedi digwydd i’r un graddau dan amodau arferol, achos ni fyddai gyda ni’r amser na’r cyfle i edrych am ffyrdd o wneud pethau mewn fformat mor wahanol.’
Yn anochel, mae’r gweithgareddau ar-lein a’r gweithgareddau o bell yma wedi siapio fformat gweithgareddau arddangosfa eleni hefyd. Fel arfer, byddai gweithgareddau Artes Mundi yn gyfyngedig i ysgolion lleol yng Nghaerdydd a De Cymru, ond bellach, rydyn ni’n gallu cysylltu’n genedlaethol – yn rhyngwladol hyd yn oed – gan sicrhau bod cyfle i bobl ifanc gael at gelf weledol lle bynnag y maent yn y byd. Mae hynny’n wir am yr arddangosfa ei hun hefyd. Er bod Artes Mundi yn arfer croesawu ymwelwyr o bob rhan o’r byd, mae disgwyl y bydd cyrhaeddiad rhyngwladol yr arddangosfa eleni yn ehangach nag erioed o’r blaen. Mae’r tîm eisoes yn gweld bod dwywaith cymaint o docynnau wedi cael eu gwerthu ar gyfer y gyfres o sgyrsiau ar-lein, Wrth y Bwrdd, â phetai’r un digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn adeilad penodol.
Gwella hygyrchedd ar gyfer y dyfodol
Mae Lianne Toye yn arbennig o frwdfrydig am beth y gallai hyn oll ei olygu o ran hygyrchedd. ‘Mae’n ffordd newydd o feddwl a ffordd newydd o weithio; i bobl sy’n methu gadael eu cartrefi fel arfer – oherwydd salwch, anableddau corfforol, am eu bod yn gorfod cael triniaeth neu am nad ydynt yn hoffi bod mewn torf o bobl – mae cymaint o wahanol gyflyrau ac amodau sy’n effeithio ar symudedd pobl. Mae’n golygu y gall unrhyw un yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg weld y gweithiau celf yma ar-lein. Wrth gwrs nid yw hynny’r un peth â phrofi’r gwaith yn y cnawd, ond mae’n ffordd o gynnig dewis amgen sy’n ystyrlon.’
Mae Lianne hefyd yn credu y bydd cyflwyno’r arddangosfa am ddim ar-lein – trwy deithiau tywys wedi’u llunio’n ofalus gyda sain ddisgrifiad yn trafod y gwaith a bwriadau’r artistiaid - yn gwella hygyrchedd ar gyfer pobl sy’n teimlo’n betrus am fynychu orielau celf neu sydd ddim yn arfer edrych ar weithiau celf. Mae’n credu y gallai hyn fod yn ffordd i gyrraedd pobl sy’n teimlo nad yw celf yn perthyn iddyn nhw, a chynnig ffordd iddynt archwilio a mwynhau’r gwaith ar eu telerau eu hunain ac mewn ffordd sy’n teimlo’n gyfforddus cyn iddynt benderfynnu os ydynt am weld y gweithiau yn y cnawd.
‘Gall pawb deimlo’n rhan o’r peth a theimlo eu bod yn gallu cyfranogi – a dyna beth yr ydym wir eisiau ei wneud, achos mae’r celfyddydau yn perthyn i bawb. Mae’n ffordd o ddod â phobl at ei gilydd ac yn gyfrwng i rannu profiadau bywyd pobl eraill a dysgu o hynny.’
Moment newydd i gelf weledol
Cenhadaeth Artes Mundi yw ‘dod â chelfyddyd ryngwladol eithriadol i Gymru a chreu cyfleoedd unigryw i unigolion a chymunedau lleol ymgysylltu’n greadigol â phynciau llosg ein hoes mewn ffyrdd sy’n taro tant gyda phob un ohonom.’ Eleni mae’r genhadaeth honno wedi teimlo’n fwy ingol – ac wedi cael mwy o effaith – nag erioed o’r blaen. Mae’r celfyddydau eisoes wedi dangos y gallant fod yn ddylanwad grymus ar broses o iacháu ac adfer sy’n mynd i gymryd cryn amser. Yr hyn y mae aelodau tîm Artes Mundi yn ei wneud, yng Nghaerdydd a thu hwnt, yw cymhwyso eu gwaith nid yn unig at ddibenion adferiad, ond hefyd i roi newidiadau gwerthfawr ar waith ac addasu.
‘Mae trefn bywyd wedi newid,’ meddai Lianne, ‘ac felly rwy’n credu fod pobl yn gyffredinol yn fwy sylwgar, ac yn meddwl o ddifrif am eraill ac am holl agweddau thema’r cyflwr dynol a phrofiadau byw - a dyna yw hanfod ein gwaith ni.’
Mae arddangosfa Artes Mundi 9 yn rhedeg o 15 Mawrth hyd 5 Medi 2021. Gallwch weld yr arddangosfa ar-lein yma nes bod amgueddfeydd ac orielau yn cael ail-agor.
Mae British Council Cymru yn un o bartneriaid ariannu Artes Mundi ac yn cefnogi’r gwaith o hybu’r wobr a’r artistiaid yn rhyngwladol yn ogystal â hyrwyddo’r cynhadleddau a’r rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau cyhoeddus sy’n gysylltiedig â’r arddangosfa.