O Gymru i Dde Affrica i Zimbabwe a ‘nôl eto…
Ymunwch â’r Cynhyrchydd Creadigol, Jafar Iqbal, a Chynhyrchydd Cynnwys yn y BBC, Hannah Loy, am gyfres newydd o bodlediadau sy’n cnoi cil ar drip cwmpasu diweddar y British Council i Affrica Is-Sahara.
Bydd y podlediadau’n cynnwys cyfweliadau gyda’r gweithwyr creadigol eraill a oedd ar y siwrnai gyda nhw. Byddant yn bwrw golwg yn ôl ar eu trip gan sôn am eu huchafbwyntiau personol, y gwersi amhrisiadwy a ddysgwyd a sut mae’r profiad wedi newid eu harfer greadigol.
Mae’r gyfres yn cynnwys cyfraniadau gan y dramodydd, dramatwrg a chyfarwyddwr theatr nodedig Branwen Davies, sydd newydd addasu drama gomedi wobrwyedig Phoebe Waller-Bridge, ‘Fleabag’, i’r Gymraeg; Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig cwmni’r Frân Wen, cwmni theatr Cymraeg yng Ngogledd Cymru; Patrick McGuinness – academig, beirniad, nofelydd, bardd ac Athro Ffrangeg a Llenyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgol Rhydychen; a Cat M’Crystal- Fletcher, Ymgynghorydd Marchnata Llyfrau i Rowanvale Books.
GWRANDEWCH AR RAGFLAS ISOD: