©

British Council

Breaking Boundaries: Yr Ail Gyfres

Cyfres newydd o bedwar podlediad yn bwrw golwg ar gydweithio rhyngwladol ym myd y celfyddydau.

O Gymru i Seland Newydd, Fietnam, Brasil, a thu hwnt...

Ymunwch â'r cerddor gwobrwyedig o Gymru Georgia Ruth ar gyfer cyfres newydd o bodlediadau yn edrych ar sut mae artistiaid o wahanol ddisgyblaethau celfyddydol yn gwthio ffiniau creadigol a meithrin partneriaethau cydweithio rhyngwladol.

Bydd y gyfres, sy'n cynnwys cyfweliadau ag amrywiaeth o artistiaid a gweithwyr creadigol o Gymru, yn ystyried sut mae cyfnewid diwylliannol yn cyfoethogi arfer greadigol, creu cysylltiadau hirdymor a gosod Cymru ar lwyfan celfyddydau byd-eang.

Mae'r gyfres yn cynnwys sgwrs rhwng y cerddor o Gymru Carwyn Ellis a'r cynhyrchydd Greg Haver am eu cysylltiadau â cherddorion a chynhyrchwyr yn Aotearoa yn Seland Newydd; Lleuwen Steffan yn sôn am sut mae ei phrosiect 'Tafod Arian' yn dathlu gwreiddiau cerddoriaeth gysegredig o Gymru; y dramodydd Ian Rowlands yn trafod 'Aurora Borealis' ei brosiect gwrth-theatr blaengar, a'r bardd Joshua Jones yn dathlu cysylltiadau creadigol rhwng cymunedau LHDTCRhA+ yng Nghymru a Fietnam.

Yn ogystal, bydd cyfle i glywed gan y cwmnïau theatr o Gymru Dirty Protest Theatre a Hijinx am eu cysylltiadau â chymunedau yn Ffrainc a rhannau anghysbell o Brasil; yr artist o fri rhyngwladol Syr John Akomfrah yn trafod ei arddangosfa sydd ar fin symud o Biennale Fenis i Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd; a chysylltiad Anna Falcini â Ffrainc a'i hymchwil i etifeddiaeth yr artist o Gymru, Gwen John.

Cynhyrchwyd gan Hannah Loy i British Council Cymru.

GWRANDEWCH NAWR 

Breaking Boundaries - Pennod 1 : Cerddoriaeth ar draws Cefnforoedd

Mae'r bennod gyntaf yn edrych ar fentrau cydweithio cerddorol sy'n rhychwantu hemisfferau wrth i Georgia Ruth gnoi cil ar gymryd rhan ym mhrosiect arloesol SongHubs Māori / Cymraeg gyda'r cynhyrchydd nodedig Greg Haver. Ac yna, bydd y cerddor o Gymru Carwyn Ellis a'r artist a chynhyrchydd o Seland Newydd Kingdon Chapple Wilson (aka KINGS) yn esbonio sut y gwnaethon nhw greu a rhyddhau

'Marare'. Bydd Stormie Kereopa-Lloyd o APRA a Natasha Beckman o British Council Seland Newydd yn rhoi cyd-destun i'r mentrau cyfnewid traws-ddiwylliannol hyn.

Mae'n siwrnai'n parhau gyda phrosiect gwefreiddiol Lleuwen Steffan, 'Tafod Arian', sy'n dod â bywyd newydd i hen emynau gwerin Cymraeg. Mae'n sgwrsio gydag Elen Elis, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru am ei thaith o gwmpas 50 o gapeli a datblygiad ei cherddoriaeth a'i sgiliau cynhyrchu drwy'r Rhwydwaith Byd-eang ar gyfer Cynhyrchwyr Benywaidd (The Global Network for Women Music Producers).

Breaking Boundaries - Pennod 2 :  Llenyddiaeth Heb Ffiniau

Yn y bennod hon mae Georgia Ruth yn ystyried arwyddocad cydweithio rhyngwladol i ysgrifenwyr o Gymru. Ceir sgwrs rhwng y dramodydd Ian Rowlands am ei brosiect gwrth-theatr blaengar 'Aurora Borealis' a ddatblygwyd gyda'r cyfarwyddwr theatr a pherfformiwr, Tiisetso Mashifane wa Noni - gwaith sy'n herio dulliau perfformio confensiynol drwy ddulliau trawsddiwylliannol.

Yna, mae'r sylw'n troi at gasgliad pwerus o gerddi 'Room/Ystafell/Phòng' gyda'r bardd Joshua Jones, sy'n sgwrsio gyda'r beirdd o Gymru, Lauren Morais a Leo Drayton a'u cydweithwyr creadigol yn Fietnam, Xuân Tùng and Maik Cây. Maen nhw'n trafod eu prosiectau sy'n dathlu mannau cwrdd cymunedau LHDTCRhA+ ac yn archwilio hunaniaeth a threftadaeth cwiar a'r tebygrwydd anisgwyl rhwng Cymru a Fietnam. Trwy farddoniaeth, ffotograffiaeth, dawns a disgyblaethau eraill mae'r cyfnewidiadau creadigol hyn yn mynd y tu hwnt i ffiniau gan gadw a dathlu lleisiau unigol gwahanol

Breaking Boundaries - Pennod 3: Celfyddydau Perfformio

Yn y bennod yma mae Georgia Ruth yn edrych ar brosiectau cydweithio blaengar ym myd y theatr. Cawn gyfle i glywed am brosiect cwmni Dirty Protest Theatre 'The Exquisite Corpse' gyda Brazil People's Palace Projects sy'n cysylltu 28 o artistiaid o chwech o gymunedau gwahanol. Mae'n cynnwys perfformwyr brodorol o gymuned y Wauja yn Mato Grosso ac artistiaid o Gymru (o Wrecsam, Cwm Rhondda a Chaernarfon). Mae'r gadwyn greadigol unigryw yma'n defnyddio pedair iaith a dull swreal o gydweithio a pherfformio i archwilio dynoliaeth gyffredin ar draws gwahanol ddiwylliannau.

Yna, byddwn yn teithio i Ffrainc gyda 'Bon Appétit' cynhyrchiad gyda phypedau a chlowniau gan Gwmni Theatr Hijinx ar y cyd â Compagnie de L'Oiseau-Mouche sy'n gweithio gydag artistiaid ag anableddau dysgu. Man cychwyn y cynhyrchiad yw'r ffaith ryfedd nad oes cyfieithiad uniongyrchol yn Gymraeg o'r ymadrodd "Bon Appétit". Mae'r prosiect yn defnyddio bwyd i archwilio hunaniaeth ddiwylliannol ac roedd yn rhan o raglen Blwyddyn Cymru yn Ffrainc.

Pennod 4: Celfyddydau Gweledol Heb Ffiniau

Ym mhennod olaf yr ail gyfres, rydyn ni'n edrych ar sut y gall celfyddydau gweledol greu cysylltiadau rhyngwladol pwerus. Mae Syr John Akomfrah yn trafod ei arddangosfa drochol 'Gwrando Drwy'r Nos ar y Glaw', sy'n agor dydd Sadwrn yma, 24 Mai, yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd. Dyma fan cychwyn taith yr arddangosfa o gwmpas y DU yn dilyn dangosiad llwyddiannus yn Biennale Fenis Rhif 60 y llynedd. Yn ogystal, bydd y curaduron amgueddfa Lowri Angharad Williams a Ceri Jones yn trafod sut mae'r gosodwaith hynod yma - sy'n plethu themâu am y cof, mudo a newid yr hinsawdd drwy dirluniau sonig - yn cynrychioli moment arwyddocaol i Gymru ar y llwyfan celfyddydol byd-eang.

Yna byddwn yn teithio i Baris gyda'r artist Anna Falcini wrth iddi fynd ar drywydd etifeddiaeth yr artist o Gymru, Gwen John. Mae'n dilyn ôl traed Gwen John ym Mharis, gan ddarganfod llythyron personol a llyfrau nodiadau yn archifau'r Musée Rodin sy'n ysbrydoli darn o waith perfformio teimladwy

Rhannu’r dudalen hon