Yma, mae’r sgwennwr, Kathryn Tann, yn bwrw golwg ar y byd llenyddol yng Nghymru drwy lens Seminar Llenyddiaeth y British Council ac yn argymell detholiad o gyfrolau fel man cychwyn i archwilio rhyddiaith a barddoniaeth o Gymru – yn Saesneg a Chymraeg.
Yn ddeinamig, yn ddwyieithog, yn ymgysylltu’n rhyngwladol – ac yn aml, yn cael ei hanwybyddu. Mae gan Gymru fyd llenyddol bywiog sy’n esblygu’n gyson, a byddai’n dda i weddill y Deyrnas Unedig – a thu hwnt – gymryd sylw.
Rhwng 4 – 6 Mawrth 2021, cynhaliodd y British Council ei Seminar Llenyddiaeth flynyddol yn yr Almaen – ond eleni roedd dau wahaniaeth mawr. Am y tro cyntaf ers ei sefydlu 37 o flynyddoedd yn ôl, cafodd y seminar ei gynnal ar-lein; ac am y tro cyntaf erioed, roedd holl sylw’r seminar ar Gymru, gyda dau awdur o Gymru - Niall Griffiths a Francesca Rhydderch - yn cadeirio’r rhaglen o ddigwyddiadau. Pan ddechreuodd Rebecca Gould o’r British Council ac Elena Schmitz o Lenyddiaeth Cymru drafod y Seminar Llenyddiaeth a’r ffocws a fyddai ar Gymru eleni, yr hyn y cytunon nhw’n syth oedd bod angen cyflwyno golygon newydd a ffres ar Gymru a Chymreictod. Roedd cwestiynau am ôl-drefedigaethedd, dad-drefedigaethu a chydraddoldeb, a dylanwad y themau yma ar ysgrifennu cyfoes yng Nghymru, yn flaenllaw yn eu meddyliau.
Canlyniad hynny oedd, ‘Ni yw Cymru: Cyfoeth o Leisiau, Tirluniau a Straeon’ - rhaglen o ddigwyddiadau yn cynnig cipolwg unigryw ac eang ar dalent lenyddol, gweithgarwch a photensial y byd cyhoeddi yng Nghymru heddiw. Ac nid dim ond ar gyfer y gynulleidfa yn yr Almaen, ond hefyd y nifer fawr o bobl yng Nghymru, gweddill y Deyrnas Unedig a ledled y byd a oedd yn gallu mynychu’r digwyddiadau yma ar-lein.
Mae Cymru’n adnabyddus am ei thraddodiad o greadigrwydd ym maes barddoniaeth, stori a chân – ac mae’n gallu dal ei thir yn nhirlun cyhoeddi ar raddfa eang a llenyddiaeth heddiw hefyd. Mae tipyn mwy gan Gymru i’w gynnig na Dylan Thomas; ac mae’r pethau mwyaf cyffrous yn digwydd ar hyn o bryd.
Mae Cymru’n gartref i lu o gyhoeddwyr ac argraffwyr annibynnol
Mae Cymru’n gartref i nifer o ysgrifenwyr nodedig a thalentog – gan gynnwys Griffiths a Rhydderch – ac i lu o gyhoeddwyr ac argraffwyr annibynnol hefyd. Ymysg y mwyaf o’r cyhoeddwyr Saesneg mae Seren Books, a sefydlwyd yn 1981 ac sy’n gyfrifol am Poetry Wales Magazine; a Parthian Books a fydd yn dathlu 30 mlynedd o gyhoeddiadau cyn bo hir. Yn ogystal, mae rhestrau cyffrous o gyhoeddiadau gan Honno, gwasg llenyddiaeth menywod a sefydlwyd yn 1986; a Firefly - sy’n cyhoeddi llyfrau i blant. Ochr yn ochr â’r rhain mae cyhoeddwyr dwyieithog a chyhoeddwyr cyfrolau Cymraeg sydd wedi hen ennill eu plwyf, fel Graffeg a Gwasg Gomer. Mae nifer o gylchgronau a chyfnodolion adnabyddus ac uchel eu parch, fel New Welsh Review (sydd hefyd yn cyhoeddi llyfrau byrion ac e-lyfrau) a chylchgrawn Planet, hefyd yn rhan o’r tirlun cyhoeddi yng Nghymru.
Gwnaeth nifer o fentrau newydd argraff yn ystod y sioe arddangos ar-lein yma o lenyddiaeth Cymru. Er enghraifft, Lumin Press – gwasg fach newydd sy’n gartref i fenter guradu gydweithredol yng Nghaerdydd. Mae’n cyfeirio at ei hun fel gwasg radicalaidd sy’n rhannu gwaith arbrofol drwy gylchgronnau, pamffledi, llyfrau artistiaid a’r cyfnodolin, Lumin Journal. Menter arall sy’n dechrau gwneud ei marc ym myd y celfyddydau yn Ne Cymru yw Where I’m Coming From - ‘rhwydwaith o lenorion sydd â ffocws cymunedol a noson meic agored sy’n rhoi llwyfan i ysgrifenwyr sy’n cael eu tangynrychioli - o Gymru a Thu Hwnt’. Trwy amrywiaeth o brosiectau, mentrau ar y cyd, gweithdai a digwyddiadau – hyd yn oed yn ystod y pandemig - mae’r holl leisiau ffres yma wedi bod yn sbarduno newidiadau gwirioneddol ac angenrheidiol yn nhirlun llenyddol Cymru.
Mae nifer cynyddol o gyhoeddiadau ar-lein poblogaidd hefyd yn hybu’r celfyddydau llenyddol yng Nghymru. Ymysg y rhain mae’r Wales Arts Review a sefydlwyd gan y golygydd, Gary Raymond - a oedd yn gyfrifol am guradu ‘strafagansa’ o gelf o Gymru ar gyfer un o ddigwyddiadau gyda’r hwyr y seminar. Yn ogystal, cynhaliwyd trafodaeth am fenter uchelgeisiol y mae dirfawr ei hangen, sef Nation.Cymru - platfform newyddion sydd wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaeth newyddion i Gymru yn y Saesneg.
Ond, y tu ôl i’r holl sefydliadau prysur ac egnïol yma, mae talent a gwaith caled ysgrifenwyr, golygyddion, trefnwyr ac artistiaid unigol.
Croestoriad hynod o ddiddorol o’r lleisiau sy’n cael eu cyhoeddi yng Nghymru ar hyn o bryd
Roedd sesiynau Seminar Llenyddiaeth ‘Ni yw Cymru’ yn cael eu cadeirio gan ddau awdur profiadol sydd wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru, sef Francesca Rhydderch a Niall Griffiths. Ac roedden nhw wedi estyn gwahoddiad hefyd i bedwar o lenorion nodedig o Gymru: Charlotte Williams OBE, Manon Steffan Ross, Zoë Brigley a Richard Gwyn. Yn ogystal, yn ystod digwyddiadau’r seminar, rhoddwyd llwyfan i chwech o awduron sy’n dechrau creu argraff – sêr disglair newydd y byd llenyddol yng Nghymru: Alex Wharton, Hanan Issa, Richard Owain Roberts, Joao Morais, Ifan Morgan Jones ac Eluned Gramich.
Roedd y rhaglen yn groestoriad hynod o ddiddorol o’r mathau o leisiau sy’n cael eu cyhoeddi yng Nghymru ar hyn o bryd – ond dim ond crafu’r wyneb oedd hyn. Mae cyfoeth o waith gwych yn cael ei greu a’i hybu ym maes ffuglen, ffeithiol, barddoniaeth a newyddiaduraeth – yn Gymraeg, Saesneg a thrwy gyfieithiadau.
Daeth Seminar Llenyddiaeth 2021 ‘Ni yw Cymru’ i ben gyda thrafodaeth banel. Y cwestiwn i’r panelwyr oedd, ‘Beth nawr?’. Ond yn yr amser oedd ar gael, roedd hwn yn gwestiwn amhosib i’w ateb. Ar hyn o bryd, mae Cymru, fel gweddill y Deyrnas Unedig, ar ganol proses hir ac egnïol o bwyso a mesur a newid. Mae ailasesu’r hyn y mae Cymru a Chymreictod yn ei olygu yn rhan o’r broses honno – proses o agor drysau a syniadau, a phroses sy’n ymwybodol o’r angen i amrywio’r straeon sy’n cael eu hadrodd a’u hargraffu.
Yn ystod y seminar, cafwyd sgyrsiau am orffennol a chydwybod drefedigaethol Cymru, am bwysigrwydd cyfieithu llenyddiaeth a chyfnewid diwylliannol ac am werth iaith a dwyieithrwydd. Erbyn cyrraedd sylwadau cloi’r seminar, yr hyn oedd yn drawiadol o amlwg oedd bod byd llenyddol Cymru wedi cynhyrchu cyfoeth o bethau gwych – ond y gall gyflawni mwy fyth. Mae yna egni newydd yn amlygu ei hun mewn ffyrdd cyffrous a thrwy waith nifer o unigolion gwirioneddol dalentog.
Mae yna awch am newid, ac eiddgarwch am beth ddaw nesaf yn y wlad fach ond llawn asbri yma – awch ac eiddgarwch y dylai’r rheini ar draws y ffîn dalu sylw iddo.