Cronfa Ddiwylliannol Cymru a Japan ar agor nawr!
Fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru Blwyddyn Cymru a Japan 2025 mae British Council Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn lansio Cronfa Ddiwylliannol arbennig. Nod cronfa Cymru a Japan yw cefnogi gweithgareddau ym maes y celfyddydau rhwng y ddwy wlad yn ystod 2025.
Mae'r gronfa'n rhan o raglen blwyddyn i ysgogi partneriaethau economaidd a diwylliannol rhwng Cymru a Japan, gan sicrhau buddiannau hir-dymor i'r ddwy wlad.
Mae'r gronfa'n agored i geisiadau gan unigolion neu sefydliadau sy'n gweithio ym maes y celfyddydau yng Nghymru. Mae'n gronfa gwerth £150,000 ac mae ar gael i:
- ddatblygu ac ehangu partneriaethau a mentrau cydweithio sy'n bodoli'n barod rhwng Cymru a Japan.
- datblygu cysylltiadau a mentrau cydweithio artistig a diwylliannol rhwng artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac ymarferwyr diwylliannol a fydd yn meithrin cysylltiadau cynaliadwy hirdymor rhwng artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac ymarferwyr diwylliannol.
Sefydlwyd y gronfa'n sgil llwyddiant cyfleoedd cyd-ariannu tebyg i hybu gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol fel rhan o Flwyddyn Cymru yn Ffrainc yn 2023-24 a Blwyddyn Cymru yn India yn 2024-25.
Bydd cyfle i ymgeiswyr wneud cais ariannu i'r gronfa am rhwng £1,000 a £40,000. Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw Dydd Mercher 5 Mawrth 2025.
Dywedodd Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru,
"Mae'n addo bod yn flwyddyn ryfeddol o ddathlu cysylltiadau sy'n bodoli eisoes a meithrin cyfleoedd newydd rhwng Cymru a Japan. O harmoniau 'Gwlad y Gân' i rythmau tyner shamisen Japan, mae gan ein dwy wlad barch dwfn at fynegiant artistig. Mae'r alwad hon yn gyfle euraidd i berfformwyr ac artistiaid o Gymru â phartner yn Japan i gynnig syniadau - i'w cyflwyno yn Japan, yng Nghymru, neu'n ddigidol rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025."
Wrth sôn am y gronfa, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr, British Council Cymru,
"Mae Japan yn wlad hynod unigryw sy'n llawn traddodiad ac arloesedd, ac rydym yn falch iawn i greu Cronfa Ddiwylliannol Cymru a Japan a fydd yn rhoi cyfle i artistiaid o Gymru gysylltu â chyd-artistiaid ar fentrau cydweithio newydd a beiddgar. Mae Cymru a Japan yn cael eu huno gan eu creadigrwydd a'u treftadaeth ddiwylliannol, a bydd y gronfa hon yn grymuso artistiaid i wthio ffiniau, arbrofi gyda syniadau newydd ac adeiladu partneriaethau a deialog ystyrlon. Mae rhai cysylltiadau hyfryd yn bodoli'n barod rhwng ein dwy wlad a gallwn ni ddim aros i weld y prosiectau cyffrous a fydd yn deillio o hyn a'r effaith barhaol y byddant yn eu cael yng Nghymru, Japan a thu hwnt."