Rhaglen Fyd-eang – Sbotolau ar Ddiwylliant
Yn 2022, roedden ni wrth ein bodd i rannu rhaglen o weithgareddau celfyddydol a diwyllianol yn dathlu’r cysylltiadau rhwng Cymru a Ffrainc. Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer nifer o ddigwyddiadau byd-eang yn 2023 a 2024, gan gynnwys Cwpan Rygbi’r Byd a Gemau Olympaidd yr Haf ym Mharis, fe wnaethon ni gefnogi artistiaid a sefydliadau celfyddydol i greu cysylltiadau, meithrin perthnasoedd a chreu gwaith gyda’u cydweithwyr.
Prosiectau
Fe wnaeth gŵyl gerddoriaeth Tafwyl bartneru gyda Trac Cymru (sefydliad hyrwyddo a datblygu traddodiadau cerddoriaeth a dawns Cymru yng Nghymru a thu hwnt) i helpu cerddorion a chynhyrchwyr ifanc o Gymru a Llydaw i gwrdd a chydweithio’n rhithwir. Arweiniodd y fenter hon at breswyliadau a pherfformiadau byw yn yr ŵyl ym mis Mehefin 2022. Rhoddwyd cefnogaeth i dair partneriaeth: Gwilym Bowen Rhys a Nolwenn Korbell; Cerys Hafana a Léa; a Sam Humphreys a Krismenn.
Cafodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Orchestre National de Bretagne gyfle i ddatblygu a rhannu ffrwyth llafur eu partneriaeth a dderbyniodd nawdd rhannol gan gronfa Symudedd Ewrop British Council Cymru yn 2019. Cynhaliwyd cyfres o gyfnewidiadau ym misoedd Ebrill a Mai 2022, ac yna dwy gyngerdd ar y cyd yn haf 2022 a gwanwyn 2023. Arweiniodd y gyngerdd ddiwethaf at brosiect ar y cyd i ysgolion a chymunedau dan arweiniad y ddwy gerddorfa ar thema’r arfordir, y môr a’r amgylchedd a ysbrydolwyd gan waith Claude Debussy, ‘La Mer’.
Yng Ngwanwyn 2022, fe wnaeth Cwmni Theatr Hijinx o Gymru gwblhau taith drwy Ffrainc gyda’r cynhyrchiad, ‘Meet Fred’. Ar gefn hynny, byddant yn gweithio ar fersiwn yn Ffrangeg o’r cynhyrchiad yn ogystal â datblygu adnoddau i ysgolion. Bydd Hijinx yn gweithio gyda sefydliadau celfyddydol a chanolfannau yng Ngogledd Ffrainc.Cerddorion o Gymru a Llydaw yng ngŵyl Tafwyl ym mis Mehefin 2022.