Dysgu ieithoedd drwy bêl-droed

Bydd athrawon iaith a myfyrwyr yn mwynhau gweithio gyda chwe phecyn addysg  newydd ar y thema pêl-droed 

Mae’r pecynnau ar gael yn yr ieithoedd canlynol:

•Ffrangeg

•Almaeneg

•Cymraeg

•Sbaeneg

•Eidaleg 

•Portiwgaleg

Cynhyrchwyd y pecynnau gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chefnogaeth gan British Council Cymru. Bydd y pecynnau’n dal sylw’r bobl ifainc sydd ar dân dros bêl-droed!

Gellir lawrlwytho’r pecynnau o wefan Llywodraeth Cymru Hwb. Gallwch ddod o hyd i’r gwahanol becynnau isod.