Darganfyddwch gyfleoedd sy’n newid bywydau gyda Erasmus+
Astudio, hyfforddi a meithrin profiad rhyngwladol ar draws Ewrop
Dysgu mwy am Erasmus+ yn y DU
Manteisiwch ar gyfleoedd sy’n newid bywydau i chi, eich dysgwyr a’ch cyd-weithwyr
Mae Erasmus+ yn agor cyfleoedd newydd i bobl o bob cwr o’r DU feithrin gwybodaeth a phrofiad drwy astudio, hyfforddi a gweithio dramor. Mae cyllid ar gael ar gyfer lleoliadau rhyngwladol a phartneriaethau ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon.
Digwyddiadau Erasmus+ i bawb
Barod i gymryd eich cam cyntaf i fyd addysg ryngwladol a phartneriaethau? Neu i ddeall sut mae Erasmus+ wedi newid? Gyda’r ffenestr ymgeisio am gyllid nesaf yn prysur agosáu ym mis Tachwedd 2026, mae’n amser dechrau cynllunio nawr. Yn ystod mis Mehefin, rydym ni’n trefnu cyfres o ddigwyddiadau rhad ac am ddim ar-lein i bawb mewn addysg ysgol, addysg a hyfforddiant galwedigaethol, gan gynnwys colegau a darparwyr hyfforddiant, ac addysg oedolion. Ymunwch â ni i ddarganfod yr hyn y gallai Erasmus+ ei gynnig.
P’un a ydych chi megis dechrau eich taith neu’n awyddus i adeiladu ar eich profiad blaenorol, mae gennym ni sesiwn i chi. Bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal yn Saesneg.
Darparwyr addysg oedolion
Cam Gweithredu Allweddol 1 Addysg Oedolion Erasmus+ - popeth sydd angen i chi ei wybod
Eisiau gwybod sut i gymryd rhan yn Erasmus+? Gwyliwch y recordiad i gael trosolwg craff o raglen Cam Gweithredu Allweddol 1 (KA1) Erasmus+ ar gyfer y sector Addysg Oedolion. Byddwn yn egluro sut mae’r rhaglen KA1 yn gweithio, pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais, a'r gwahanol opsiynau sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau o fewn prosiect, fel cysgodi swyddi, cyrsiau hyfforddi a symudedd grŵp. Lawrlwythwch y cyflwyniad yma.
Beth yw prosiect Erasmus+ KA2? Gweminar ar gyfer y Sector Addysg Oedolion
Ddim yn gwybod beth mae prosiect Erasmus+ KA2 yn ei olygu? O ddiffinio cysyniad ac amcanion prosiect, i rannu'r camau nesaf o ddatblygiad prosiect a'r broses ymgeisio, gwyliwch y recordiad i ddysgu popeth sydd angen i chi ei wybod am Gam Gweithredu Allweddol 2 a rhaglen Erasmus+ ar gyfer y sector addysg oedolion. Lawrlwythwch y cyflwyniad yma.
Newydd i Erasmus+? Cyflwyniad i ddarparwyr addysg oedolion
Os ydych chi’n newydd i Erasmus+, gwyliwch y recordiad i ddysgu mwy am y rhaglen Erasmus+, y cyfleoedd ar gyfer darparwyr addysg oedolion, a sut y gall eich sefydliad, eich myfyrwyr a’ch cyd-weithwyr elwa. Lawrlwythwch y cyflwyniad yma.
Croeso nôl i Erasmus+! Ar gyfer darparwyr addysg oedolion
Os ydych chi wedi ymgysylltu â Erasmus+ yn y gorffennol, gwyliwch y recordiad i ddeall beth sydd wedi newid, dysgu am y cyfleoedd ar gyfer darparwyr addysg oedolion, a pharatoi i gymryd eich camau nesaf. Lawrlwythwch y cyflwyniad yma.
Addysg a hyfforddiant galwedigaethol
Cam Gweithredu Allweddol 1 Erasmus+ ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) - popeth sydd angen i chi ei wybod
Eisiau gwybod sut i gymryd rhan yn Erasmus+? Gwyliwch y recordiad i gael trosolwg craff o raglen Cam Gweithredu Allweddol 1 (KA1) Erasmus+ ar gyfer y sector Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET). Byddwn yn egluro sut mae rhaglen KA1 yn gweithio, pwy sy'n gymwys i wneud cais, a'r gwahanol opsiynau sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau o fewn prosiect, fel cysgodi swyddi, cyrsiau hyfforddi a symudedd grŵp. Lawrlwythwch y cyflwyniad yma.
Beth yw prosiect Erasmus+ KA2? Gweminar ar gyfer y Sector Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
Ddim yn gwybod beth mae prosiect Erasmus+ KA2 yn ei olygu? O ddiffinio cysyniad ac amcanion prosiect, i rannu'r camau nesaf o ddatblygiad prosiect a'r broses ymgeisio, gwyliwch y recordiad i ddysgu popeth sydd angen i chi ei wybod am Gam Gweithredu Allweddol 2 a rhaglen Erasmus+ ar gyfer y sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Lawrlwythwch y cyflwyniad yma.
Gweminar Erasmus+ - Clywed gan yr Arbenigwyr yn y sector VET
Gwyliwch y recordiad ni am weminar addysgiadol wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer colegau, darparwyr hyfforddiant annibynnol a'r sector VET ehangach.
Wedi'i chynnal gan y Cyngor Prydeinig, mae'r sesiwn yn dwyn ynghyd arbenigwyr allanol sydd wedi llwyddo i sefydlu a chyflawni prosiectau Erasmus+ effeithiol yn y DU. Byddant yn rhannu eu profiadau ac yn cynnig mewnwelediadau i:
- Ddatblygu partneriaethau gwydn gyda sefydliadau cynnal Ewropeaidd
- Dewis Camau Gweithredu Allweddol i gyd-fynd â nodau ac uchelgeisiau strategol
- Dylunio rhaglenni symudedd a phrosiectau strategol i effeithio ar ddysgwyr, staff a'r sefydliad cyfan
- Cyflawni prosiect ymarferol
- Sian Holleran o ColegauCymru Rhyngwladol
- Damian James o South West College
Lawrlwythwch y cyflwyniad yma.
Newydd i Erasmus+? Cyflwyniad i ddarparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol
Os ydych chi’n newydd i Erasmus+, gwyliwch y recordiad i ddysgu mwy am y rhaglen Erasmus+, y cyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, a sut y gall eich sefydliad, eich myfyrwyr a’ch cyd-weithwyr elwa. Lawrlwythwch y cyflwyniad yma.
Croeso nôl i Erasmus+! Ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol
Os ydych chi wedi ymgysylltu â Erasmus+ yn y gorffennol, gwyliwch y recordiad i ddeall beth sydd wedi newid, dysgu am y cyfleoedd ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol, a pharatoi i gymryd eich camau nesaf. Lawrlwythwch y cyflwyniad yma.
Addysg uwch
Cam Gweithredu Allweddol 1 Erasmus+ ar gyfer sefydliadau addysg uwch
Ydych chi'n teimlo ychydig yn rhydlyd ar Erasmus+ ac yn awyddus i ymgysylltu eto? Neu efallai eich bod chi'n newydd i Erasmus+, wedi cyflwyno eich cais ECHE ac eisiau cael gwybodaeth well? Gwyliwch y recordiad Erasmus+ ar gyfer yr holl reolwyr a swyddogion symudedd, i gael trosolwg o'r cyfleoedd ac enghreifftiau o arfer da. Lawrlwythwch y cyflwyniad yma.
Cam Gweithredu Allweddol 2 Erasmus+ ar gyfer sefydliadau addysg uwch
Oes gennych chi ddiddordeb sefydlu partneriaethau sefydliadol gyda sefydliadau addysg uwch yn yr UE ac yn rhyngwladol? Gwyliwch y recordiad Erasmus+ ar Bartneriaethau Cydweithredu ar gyfer rheolwyr ymgysylltu byd-eang, partneriaeth ac ymchwil. Dysgwch am y camau gweithredu datganoledig a sut y gallant eich cefnogi i feithrin ymchwil ar y cyd a rhannu arfer gorau yn rhyngwladol. Lawrlwythwch y cyflwyniad yma.
Gweminar darganfod partner ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch y DU a'r UE
Ydy rhai o'ch partneriaethau yn yr UE wedi dod i ben? Ydych chi eisiau estyn allan at bartneriaid newydd yn yr UE a thrafod proffiliau sefydliadol, cryfderau pwnc, diddordebau symudedd myfyrwyr a staff a lefelau astudio er mwyn dod o hyd i bartneriaid da? Gwyliwch y recordiad darganfod partner rhwng y DU a gwledydd dethol o'r UE i gymryd eich camau cyntaf wrth adeiladu partneriaethau newydd. Lawrlwythwch y cyflwyniad yma.
Ysgolion
Cyflwyniad i Erasmus+
Gwyliwch y recordiad i ddysgu mwy am y rhaglen Erasmus+ a sut y gall eich ysgol, eich disgyblion a’ch staff elwa.
Ieuenctid
Ydych chi'n sefydliad ieuenctid yn y DU sy'n chwilio am gyllid i ehangu cyfleoedd i bobl ifanc, datblygu eich sgiliau a chysylltu â phartneriaid rhyngwladol? Ymunwch â'n gweminarau ar-lein rhad ac am ddim i ddarganfod sut y gall Erasmus+ eich cefnogi chi.
Dewiswch eich sesiwn ranbarthol a chofrestrwch nawr:
- Cymru - Sesiwn 1, Dydd Mawrth 23 Mehefin, rhwng 11.00 a 12.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Yr Alban - Sesiwn 1, Dydd Mercher 24 Mehefin, rhwng 10.00 a 11.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Lloegr - Llundain, Dydd Iau 25 Mehefin, rhwng 12.00 a 13.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Yr Alban - Sesiwn 2, Dydd Gwener 26 Mehefin, rhwng 10.00 a 11.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Lloegr - Dwyrain Lloegr, Dydd Llun 29 Mehefin, rhwng 10.00 a 11.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Cymru - Sesiwn 2, Dydd Mawrth 30 Mehefin, rhwng 11.00 a 12. 00 AHP. Cofrestrwch yma
- Gogledd Iwerddon - Sesiwn 1, Dydd Mercher 1 Gorffennaf, rhwng 12.00 a 13.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Lloegr - Swydd Efrog a Humber, Dydd Iau 2 Gorffennaf, rhwng 11.00 a 12.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Gogledd Iwerddon - Sesiwn 2, Dydd Gwener 3 Gorffennaf, rhwng 11.00 a 12.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Lloegr - De Orllewin, Dydd Llun 6 Gorffennaf, rhwng 12.00 a 13.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Lloegr - Gogledd Ddwyrain, Dydd Mawrth 7 Gorffennaf, rhwng 10.00 a 11.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Lloegr - De-ddwyrain, Dydd Mercher 8 Gorffennaf, rhwng 10.00 a 11.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Lloegr - Gorllewin Canolbarth Lloegr, Dydd Iau 9 Gorffennaf, rhwng 12.00 a 13.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Cymru - Sesiwn 3, Dydd Mawrth 14 Gorffennaf, rhwng 12.00 a 13.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Lloegr - Gogledd Orllewin, Dydd Mercher 15 Gorffennaf, rhwng 13.00 a 14.00 AHP. Cofrestrwch yma
- Lloegr - Dwyrain Canolbarth Lloegr, Dydd Iau 16 Gorffennaf, rhwng 11.00 a 12.00 AHP. Cofrestrwch yma
I weld y cynnwys hwn yn Saesneg, ewch i’n gwefan British Council .