fiveFilms4freedom 2016 - Mae’r ŵyl ffilm LGBT ddigidol cyntaf ar y ddaear nôl
Fe lwyddodd diwgyddiad y llynedd, sef yr ŵyl cyntaf erioed o’i math, i gyrraedd pobl mewn 135 o wledydd. Ar anterth y llwyddiant hyn, mae’r British Council Cymru a’r British Film Institute (BFI) yn gobeithio y bydd fiveFilmsfreedom 2016 hyd yn oed yn fwy ac yn well ac yn ysbrydoli pobl mwy na’r ŵyl gyntaf.
O 16-27 Mawrth 2016, bydd cynulleidfaoedd Llundain yn mwynhau’r BFI Flare, sef yr ŵyl ffilm lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT). Ar yr un pryd, gallwch chi, a holl bobl y byd wylio pum ffilm o’r ŵyl am ddim ar-lein.
Mae cariad yn hawl ddynol – gwyliwch, trydarwch, rhannwch ar 17 Mawrth
Ar ddydd Iau 17 Mawrth, mae fiveFilms4freedom 2016 unwaith eto yn gofyn i’r byd i wylio ffilm gyda’i gilydd. Dros gyfnod o ddiwrnod, gallwch chi ddangos bod cariad yn hawl ddynol drwy wylio un o’r ffilmiau, ac ymuno â phobl ar draws y byd.
Os hoffech chi gofnodi eich cefnogaeth, a wnewch chi anfon dradar a’i rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ar 17 Mawrth drwy ddefnyddio’r hashnod #FiveFilms4Freedom.
Gwyliwch y pum ffilm o’r 16-27 Mawrth
Am gyfnod o 12 diwrnod gallwch chi wylio’r ffilmiau ar-lein (yn Saesneg). Y funud hon. Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n eu mwynhau.
XAVIER
Mae Nicolas yn sylwi bod ei fab 11 mlwydd oed yn talu gormod o sylw i fechgyn sydd dipyn yn hŷn.
Cyfarwyddwr Ricky Mastro, Brasil 2016, 14 munud
BREATHE
Mae teithiwr Gwyddelig yn pryderu fod ei fab yn wlanen, felly mae’n mynd ati i’w galedu.
Cyfarwyddwr James Doherty, Iwerddon-DU 2015, 14 munud
TAKE YOUR PARTNERS
Mae Miss Paterson yn disgwyl i Ollie greu boned Pasg fel yr holl ferched eraill. Ond tydi Ollie ddim yn debyg i ferched eraill.
Cyfarwyddwr Siri Rodnes, DU 2015, 14 munud
THE ORCHID (La Orquidea)
Mae gan ddyn rhywbeth i’w ddweud wrth ei fab, ond dim ond ei beiriant ateb sydd ar gael.
Cyfarwyddwr Ferran Navarro-Beltrán, Sbaen 2015, 3 munud
SWIRL
Ar ddiwrnod heulog, mae dwy ferch yn closio at ei gilydd, wysg eu cefn!
Cyfarwyddwr Peterson Varga, Philippines 2015, 4 munud