Yma, mae Dr Céline Healy o Brifysgol Maynooth yn Iwerddon yn ystyried sut y gallai Cymru arwain y ffordd o ran addysgu a dysgu ieithoedd.
Sut y gall Cymru ddatblygu’n ganolfan ragoriaeth ar gyfer addysgu a dysgu ieithoedd? Rwyf wedi sylweddoli y bydd angen nifer o oleuadau i lunio a goleuo’r ganolfan hon – a phob un ohonynt wedi eu cysylltu â’i gilydd ac yn cydweithio i wneud mwy o argraff. Ond heb os, y bylbiau allweddol yn y gadwyn yma o oleuadau, yw’r athrawon. Does dim ots pa mor rhagorol yw’r cynlluniau mawr i newid pethau, ni fyddant yn llwyddiannus os nad yw athrawon yn cael y cymorth a’r adnoddau angenrheidiol i’w galluogi i fod ar eu gorau fel athrawon iaith.
Ein hathrawon
Cyn rhoi unrhyw newidiadau arfaethedig ar waith mae angen Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar athrawon - fel eu bod yn glir am y rôl y disgwylir iddynt ei chwarae a pham eu bod yn ei chwarae. Dylai hynny sicrhau eu bod yn hyderus wrth ddefnyddio’r iaith darged ac yn hyderus o’u gallu i danio brwdfrydedd eu dysgwyr i lwyddo wrth ddysgu ieithoedd. Yn y cyd-destun yma, gellid darparu gweithdai i athrawon i sicrhau eu bod yn cyfarwyddo â’r Cydymaith i Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR), sy’n cyflwyno gweledigaeth o’r dysgwr fel person sy’n weithredol yn ei gymdeithas (social agent) a dull gweithredu pwrpasol ac ymarferol (action-orientated approach). Byddai’r gweithdai yma ar gael yn barhaus ac yn annog athrawon i ystyried ffyrdd o ddod â’r byd ehangach i mewn i’r ystafell dosbarth - er enghraifft, drwy fanteisio ar gynlluniau cyfnewid rhwng ysgolion, defnyddio ‘dysgu integredig cynnwys iaith’ (CLIL) a phartneriaeth Cysylltu Dosbarthiadau drwy Ddysgu Byd-eang.
Law yn llaw â hyn, gellid defnyddio adnoddau i helpu i ariannu Rhwydweithiau Athrawon Proffesiynol a Chymunedau Ymarfer ar gyfer athrawon iaith - i sicrhau bod cefnogaeth ac anogaeth barhaus i’r athrawon. Bydd pwyslais ar hybu cydweithio rhwng grwpiau i sicrhau bod cysondeb yn y dull gweithredu o’r blynyddoedd cynnar i gyfnod addysg uwch. Gallai darparu adnoddau ar gyfer athro cyswllt i gyd-lynnu’r gwaith o gynllunio a hwyluso cyfarfodydd y cymunedau ymarfer a’r gweithdai cymorth cymheiriaid proffesiynol helpu i sicrhau nad yw’r mentrau yma’n pylu wedi’r don gyntaf o frwdfrydedd.
Ac wrth gwrs, mae angen sicrhau bod athrawon yn cael cyfle i wella rhuglder yr iaith y maent yn ei haddysgu trwy gyrsiau iaith sy’n darparu adnoddau priodol a chyfleoedd i dreulio amser mewn gwledydd lle siaredir yr iaith darged. Mae llysgenhadaethau, canolfannau diwylliannol a sefydliadau addysg uwch hefyd yn lampau pwysig yn y gadwyn o oleuadau ac yn gallu darparu cyrsiau iaith a chyrsiau methodoleg addysgu i helpu athrawon i uwchsgilio.
Cynorthwywyr Iaith dramor
Mae’r cynorthwyydd iaith dramor yn olau arall sy’n gallu pefrio mewn dosbarthiadau iaith. Byddai darparu mentrau datblygu proffesiynol ar gyfer y cynorthwywyr cyn iddynt ddod i weithio yn y dosbarth (ac fel opsiwn parhaus wedi hynny) yn eu helpu i ddatblygu eu hymarfer addysgu. Byddai cynnal rhai gweithdai ar y cyd gyda’r cynorthwywyr a’r athrawon iaith yn help i’r athrawon ystyried y ffordd orau o gydweithio gyda’u cynorthwywyr i wella eu rhuglder eu hunain, gwella rhuglder y dysgwyr a chynyddu’r defnydd o’r iaith darged yn y dosbarth.
Y dysgwyr
A’r golau arall sy’n pefrio yn y gadwyn - y dysgwyr - beth amdanyn nhw? Gorau oll po fwyaf o gyfle y maent yn ei gael i glywed a defnyddio’r iaith darged - yn ogystal ag amrywiaeth o ieithoedd eraill. Byddai’n wych o beth pe gallem roi’r cyfle iddynt ddysgu ieithoedd eraill - o’u cyfnod meithrin, trwy eu blynyddoedd cynradd ac yna ymlaen i’w blynyddoedd uwchradd. Byddai dysgu ieithoedd yn gyfrwng i ddatblygu eu cymwyseddau lluosieithog a lluosddiwylliannol, lledu eu gorwelion a’u helpu i werthfawrogi ffyrdd gwahanol o edrych ar y byd. Ond mae angen athrawon iaith da arnyn nhw.
Addysg gychwynnol athrawon
Ac mae angen crybwyll bwlb golau allweddol arall: addysg gychwynnol athrawon. Po fwyaf o gyfle sydd i ddarpar athrawon gael eu trwytho yn yr iaith darged, y mwyaf o adnoddau fydd ganddynt i greu amgylcheddau dysgu cyfoethog yn eu hysgolion. Bydd angen eu hannog a’u cefnogi i fanteisio ar gynlluniau cyfnewid ar gyfer darpar athrawon ac i gydweithio gydag athrawon iaith mewn gwledydd eraill.
Rheolaeth ysgolion
A daw hynny â mi at oleuadau rheolaeth ysgolion. Bydd sicrhau bod gan reolwyr ysgolion y wybodaeth ddiweddaraf am ddulliau cyfredol o addysgu a dysgu ieithoedd, yn ogystal â dulliau asesu, DPP ar gyfer athrawon iaith, cynlluniau cyfnewid i ysgolion a chyfleoedd eraill, yn helpu i sicrhau bod athrawon iaith yn cael y cymorth angenrheidiol gan eu hysgolion i hybu dysgu ieithoedd.
Fel y dywedais, cyfres o oleuadau wedi eu cysylltu â’i gilydd – dyna fydd yn helpu Cymru i ddatblygu’n ganolfan ragoriaeth ddisglair ar gyfer addysgu a dysgu ieithoedd. Ar y pwynt agosaf rhwng Iwerddon a Chymru, dim ond 27 milltir o fôr sy’n ein gwahanu. Edrychwn ymlaen at weld goleuadau’r ganolfan ragoriaeth yna’n disgleirio draw o Gymru; bydd yn gymorth i ninnau oleuo ein llwybr tua’r dyfodol o ran addysgu a dysgu ieithoedd ac yn gyfrwng i oleuo mentrau ar y cyd rhwng athrawon iaith a dysgwyr ieithoedd yng Nghymru ac Iwerddon.