Mae’r adroddiad mapio yma’n darparu record o ganolfannau creadigol ar draws Cymru yn ogystal â throsolwg o’u rôl, yr heriau y maent yn eu hwynebu a’u hymdrechion i gyflawni effaith gymdeithasol ac economaidd.
Mae mapio’n ffordd o ddysgu mwy am ganolfannau creadigol a’u hecosystemau; eu lleoliad, eu cymunedau, yr effaith y maent yn ei gael, yr heriau y maent yn eu hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Mae’r adroddiad yma’n mapio canolfannau creadigol ar draws Cymru, gan edrych yn gyntaf ar eu lleoliad a’u crynhoad daearyddol. Mae’n cynnig darlun o’r canolfannau o ran eu modelau busnes, gwasanaethau, nifer eu haelodau a’u hymgysylltiad gyda defnyddwyr/cynulleidfa.
Mae’r adroddiad hefyd yn dadansoddi’r effaith y mae’r canolfannau hyn yn ei gael a sut y mae eu hamcanion yn cyd-fynd â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy Byd-eang.
Mae’r tîm ymchwil hefyd yn craffu ar yr heriau sy’n wynebu’r canolfannau yn ogystal â’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt – yn gyffredinol ac yng nghyd-destun eu milltir sgwâr. I gloi, mae’n cyflwyno pum astudiaeth achos o wahanol ganolfannau creadigol ar draws Cymru: Caerdydd Creadigol, TAPE – ffilm a cherddoriaeth gymunedol, elysium, ProMo_cymru a NoFit State.
Gwybodaeth am yr ymchwil
Cafodd y rhaglen ymchwil yma ei chomisiynu gan y British Council ddechrau 2022. Nod y gwaith oedd cyflwyno casgliad o adroddiadau a fyddai’n mapio canolfannau creadigol ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig. Dechreuodd yr ymchwilwyr ar eu gwaith ym mis Mawrth 2022, gan nodi dros 140 o ganolfannau creadigol yng Nghymru a derbyn mewnbwn gan 34.
Mae Dr Mate Miklos Fodor yn Athro Cysylltiol mewn Economeg yn yr Ysgol Newydd ar gyfer Economeg ym Mhrifysgol Satbayev yn Almaty ac yn Ymchwilydd Cysylltiol gyda Clwstwr. Mae Mate yn gwneud gwaith dadansoddi econometreg ac ystadegol i werthuso meysydd polisi allweddol yn economi greadigol Caerdydd a thu hwnt. Economeg llafur a datblygu yw ei brif feysydd ymchwil ac mae’n darlithio ar amrywiaeth eang o bynciau yn Yr Ysgol Newydd ar gyfer Economeg, gan gynnwys econometreg ac economeg llafur.
Mae’r Athro Dr Marlen Komorowski yn gyfrifol am ddadansoddi effaith ymyriadau Clwstwr yn y sector ffilm a theledu (a’r diwydiannau creadigol yn gyffredinol) yn Ne Cymru. Mae’n gysylltiedig â chanolfan ymchwil imec-SMIT-VUB (Astudiaethau o’r Cyfryngau, Arloesi a Thechnoleg) ym Mrwsel ac mae hefyd yn Athro Gwadd yn Vrije Universiteit ym Mrwsel. Mae ei gwaith fel ymchwilydd yn canolbwyntio ar y cyfryngau a phrosiectau sy’n ymwneud â’r diwydiannau creadigol, dadansoddi effaith, clystyru yn y diwydiant, dadansoddi ecosystemau a rhwydweithiau gwerth, modelau busnes newydd ac effaith digido ac arloesi ar ddiwydiannau a chwmnïau.
Mae’r Uned Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd yn ganolfan ar gyfer ymchwil, ymgysylltu ac arloesi ym mhrifddinas Cymru. Ers 2014, mae’r tîm wedi ymroi i ddatblygu canolfan greadigol ryngwladol i annog creadigrwydd ac arloesi, gan feithrin cysylltiadau â miloedd o bobl greadigol a hybu eu gweithgarwch. Mae’r uned yn hyrwyddo’r economi greadigol drwy dair menter: Caerdydd Creadigol, Clwstwr a Media-Cymru sy’n meithrin partneriaethau, mentrau cydweithio a gallu.