Mae’r celfyddydau a diwylliant wedi dioddef ergydion economaidd sylweddol yn ystod pandemig COVID-19. Ar draws holl sbectrwm gweithgareddau artistig a chreadigol mae cyfyngiadau ar gynulliadau, newidiadau yn arferion defnyddwyr (o’u gwirfodd neu fel arall) a diweithdra difrifol wedi cael effaith ddinistriol ar y sector. Gall dirnad cwmpas a graddfa’r ergydion yma’n llawn fod yn anodd, yn rhannol oherwydd maint ac amrywiaeth yr holl ddiwydiannau a galwedigaethau sy’n rhan o fyd y celfyddydau a diwylliant.
Yn 2020, comisiynodd British Council Cymru dîm ymchwil o ymgynghorwyr o Affrica Is-Sahara (Gorllewin Affrica, Dwyrain Affrica a Deheudir Affrica) i adrodd a allai gweithio’n ddigidol helpu artistiaid, ymarferwyr a sefydliadau celfyddydol a diwylliannol i gydweithio a chyflwyno gwaith ledled Cymru a gwledydd Affrica Is-Sahara; ac os felly, sut y gellid cyflawni hynny, i ddatblygu’r gwytnwch a’r hyblygrwydd sydd ei angen i addasu i fyd ar ôl COVID. Cafodd yr ymchwil ei gynnal drwy gyfuniad o ymchwil desg, adolygu dogfenaeth a llenyddiaeth, cyfweliadau un i un, trafodaethau grŵp ac arolygon.
Canfu’r ymchwilwyr fod technoleg wedi gweddnewid ein ffordd o feddwl am waith, gan greu ecosystemau cysylltiedig lle mae pobl yn gweithio mewn cytgord â thechnoleg. Nododd yr ymchwilwyr y twf yn y defnydd o ffrydio fideo ac mai dyma’r cyfrwng mwyaf poblogaidd ac effeithiol bellach o sicrhau mynediad i’r celfyddydau a diwylliant. Er enghraifft, mae llawer o gwmnïau wedi newid eu dulliau i ddefnyddio platfformau digidol i gyflwyno ffrydiau byw o gyngherddau, gwyliau ffilm ar-lein, teithiau tywys rhithwir, gweithdai a mathau eraill o raglennu digidol sydd wedi eu galluogi i ‘ddal ati’ i gydweithio ac arddangos celfyddydau a diwylliant o leoliadau a safleoedd penodol’.
Canfyddiadau Allweddol
1. Bydd cyfryngau digidol yn dal i gael eu defnyddio ar gyfer gwaith creadigol wedi’r pandemig. Roedd diddordeb gan ymarferwyr creadigol mewn gweithio a chyfathrebu’n ddigidol cyn COVID-19 oherwydd ystyriaethau am yr effaith ar yr hinsawdd.
2. Mae sefydliadau’n ymchwilio i ddulliau hybrid o gydweithio sy’n cynnwys gweithio wyneb yn wyneb a gweithio’n ddigidol i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a mwy o faint.
3. Yr her i artistiaid wrth gydweithio’n ddigidol yw sicrhau fod y profiad digidol yn tanio brwdfrydedd yr artist a’r gynulleidfa - yn hytrach na dim ond ffilmio gwaith a fyddai wedi digwydd wyneb yn wyneb fel arall.
4. Mae cydweithio digidol llwyddiannus yn dibynnu i raddau ar rwydweithio effeithiol i ddatblygu cysylltiadau. Seilir perthnasoedd creadigol ar ymddiriedaeth a chyd-ddealltwriaeth o’r hyn sy’n dod â’r gwahanol bartïon at ei gilydd.
5. Ariannu a chostau sydd wrth wraidd nifer o’r rhwystrau i gynyddu cydweithio ac arddangos digidol. Mae cynhyrchu gwaith digidol yn creu costau penodol, ac nid yw o anghenraid yn rhatach na chynhyrchu gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd byw.
Am gopi o’r adroddiad llawn, cysylltwch â: TeamWales@britishcouncil.org