Llyfr y Nadolig
Llyfr y Nadolig ©

Shutterstock

Yn gynharach yn y mis, gadawodd Owen Martell, Jon Ronson, John Harrison, Rebecca F John, Ian Sinclair a Joe Dunthorne law Prydain i ymuno â grŵp o awduron o’r DU a aeth i Ffair Lyfrau Rhyngwladol Guadalajara ym Mecsico gyda Chyngor Prydain.

Y sin llenyddol yn y DU oedd ffocws Ffair eleni, un o ffeiriau lyfrau fwyaf y byd, yn ail yn unig i Frankfurt gyda miliwn o ymwelwyr yn dod drwy’r drysau eleni. Roedd yr awduron yn cyflwyno eu gwaith i gyhoeddwyr, llysgenhadon, beirniaid, academyddion a phlant ysgol. Nawr rydym am gyflwyno un neu ddau i chi.

Mae tri o’r llyfrau gan yr awdur teithio llwyddiannus John Harrison wedi’u lleoli yn Ne America. Mae ei lyfr diweddaraf, 1519: A Journey to the End of Time (Parthian Books, 2015), yn ymgysylltu’n uniongyrchol â diwylliant Mecsico, yn dilyn taith Hernán Cortés wrth iddo gwrdd Mayiaid, Asteciaid a diwylliannau eraill ar arfordir aur Mecsico ym 1519. Disgrifiwyd y llyfr fel darn o waith dewr wedi’i ysgrifennu’n hyfryd gan The Telegraph, ac mae 1519 hefyd yn myfyrio ar feidroldeb Harrison ei hun gan iddo orfod cael sgan a ddangosodd na fyddai’n byw i ysgrifennu’r llyfr, hanner ffordd drwy ei waith ymchwil; roedd yn byw ei ddyddiau olaf.

Mae Harisson wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys Gwobr Alexander Cordell ddwywaith, Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2011 a Gwobr Llyfr Ffeithiol y Flwyddyn Cymru yn 2013. Enillodd hefyd wobr Llyfr Gorau’r British Guild of Travel Writers yn 2014. Beth am ddilyn ei drywydd i bellfannau’r byd o flaen tanllwyth o dân y gaeaf hwn?

Yr ieuengaf o’r chwech, mae Rebecca F. John, sy’n 29 oed, wedi ennill Gwobrau Lleisiau Newydd Rhyngwladol 2015 PEN yn ddiweddar am ei stori ‘Moon Dog’ ac roedd hi hefyd ar restr fer Gwobr Stori Fer 2015 EFG The Sunday Times am ‘The Glove Maker’s Numbers’. Caiff y ddwy stori eu darlledu, ochr yn ochr â storïau eraill, ar BBC Radio 4 a bydd BBC Radio 4Extra yn darlledu ei chasgliad cyntaf syfrdanol ac uchelgeisiol, ‘Clown’s Shoes’ (Parthian Books, 2015). 

Mae’r storïau hyn, sydd wedi ennill canmoliaeth gan feirniaid, yn edrych ar gysgodion ac uchafbwyntiau bywyd. O oriau mân boreau tawel i’r cysgodion tywyll, mae ‘Clown’s Shoes’ yn cyflwyno cast o gymeriadau coll sy’n ceisio dod o hyd i’w ffordd ac yn gofyn a yw pawb wir yn dod adref yn y pen draw. Casgliad myfyriol sy’n berffaith ar gyfer diwedd y flwyddyn. 

Mae Susie Wild yn ysgrifennwr ac yn olygydd cyhoeddi yn Parthian Books. Mynychodd FIL Guadalajara fel rhan o Daith Fasnach Llywodraeth Cymru. 

 

John Harrison
John Harrison ©

John Harrison

Rebecca F John
Rebecca F John ©

Rebecca F John

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon