Gan Sion Watkins, Athro, Dolen Cymru

19 July 2021 - 09:00

Rhannu’r dudalen hon
Trip maes yn Lesotho
Trip maes yn Lesotho ©

Sion Watkins

Teithiodd Sion Watkins i Lesotho gyda Dolen Cymru am y tro cyntaf yn 2018. Ers hynny, mae wedi dychwelyd yno flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yma mae’n cnoi cil ar yr amser a dreuliodd yn Lesotho, y bobl y mae wedi cyfarfod, a beth mae’r profiad wedi’i olygu iddo.

 “Mae’n wlad wahanol”

Pan ofynwyd i Ian Rush, y pêl-droediwr o Gymru, am ei brofiad o chwarae i dîm Juventus yn yr Eidal, fe roddodd yr ateb enwog: “ Roedd e fel byw mewn gwlad dramor”. Ro’n i wedi chwerthin yn aml am yr ateb yna, ond wrth edrych yn ôl rwy’n sylweddoli nawr pa mor naif oeddwn i ynglyn â theithio allan i Lesotho. Er mod i wedi cael peth wmbredd o hyfforddiant, doedd realiti’r peth ddim wedi gwneud argraff arna i rywsut. Yr unig brofiad oedd gen i o deithio dramor oedd mynd ar wyliau neu deithiau byr gyda’r ysgol. Hyd yn oed ar ôl glanio yn Maseru; roedd canolfan siopa yno ac roedd yr ychydig ddyddiau y treuliais i a’r athrawon eraill o Gymru yno’n dal i deimlo’n ‘normal’ i bob golwg. Ond bu’r foment y cychwynodd ein taith o 170km i ucheldir y wlad yn sioc i’r system; roeddwn i’n teimlo wedi fy ynysu a thu hwnt i ffiniau popeth a oedd yn gyfforddus i mi.

Wedi cyrraedd ein llety yn Thaba Tseka fe wirfoddolais i fynd i brynu ychydig o nwyddau. Ac ar y daith fer yna i’r siop, am y tro cyntaf yn fy mywyd, roeddwn i’n teimlo’n wahanol ac allan o le. Er mod i wedi llwyddo i ddysgu ychydig o ymadroddion mewn Sesotho yn ystod ein sesiynau ymgyfarwyddo, yn y byd amgen yn fy mhen roeddwn wedi tybio y byddai pawb yn siarad Saesneg - ac yn sicr y byddent yn ei siarad pan fyddwn i o’u cwmpas. Nid fy agwedd drahaus bersonol i’n unig oedd yn gyfrifol am dybio hynny achos roeddwn wedi cael ar ddeall hefyd mai Saesneg oedd cyfrwng addysg yno. Chwe mis yn ddiweddarach, ac wedi sawl profiad mewn ystafell staff lle mai’r unig ran o’r sgwrs yr oeddwn yn gallu ei deall oedd ‘Ntate Sion’, roeddwn wedi dysgu gwers werthfawr.

Derbyn, cydnabod a chynhwysiant

Mae pobl y Basotho yn dwlu ar ymwelwyr - ac maent wedi hen arfer â’u croesawu, gan fod aelodau’r llu heddwch o UDA neu Ewrop, aelodau o nifer o eglwysi a nifer o elusennau eraill yn dod i aros yno bob blwyddyn. Maent wrth eu bodd yn dysgu ac mae ganddynt synwyr digrifwch bendigedig ac maen nhw’n dwlu ar  ‘banter’. Maen nhw’n gwerthfawrogi’r hyn y gallwch ei gyfrannu - iddyn nhw a’u cymuned. Maen nhw’n eich derbyn i’w calonnau’n syth.

Ond, mae gweld ymwelwyr yn dychwelyd yn beth mwy anarferol. Yn ystod fy mhenwythnos cyntaf wedi dychwelyd i Lesotho am yr eildro, fe es ar daith gerdded wyth milltir yn y mynyddoedd. Roeddwn yn dynesu at y dre ac yn cerdded drwy bentref bach pan welais fachgen ifanc yr oeddwn wedi ei ddysgu yn yr ysgol gynradd yn Loti yn rhythu arnaf. “Ti’n edrych fel Ntate Sion”, meddai. Fe ges gymaint o sioc ei fod wedi fy adnabod, fe atebais (yn union fel Spartacus): “Myfi yw Ntate Sion”. Gyda gwên lydan am ei fod wedi fy adnabod dywedodd, yn ddigon di-daro, “O, croeso ‘nôl”.

Pan ddychwelais am y trydydd tro roeddwn wedi dechrau gweithio mewn ambell ysgol uwchradd hefyd. Roedd un o’r rhain, sef Ntaote, yn llawn o blant yr oeddwn wedi eu dysgu yn ysgolion cynradd Loti a Thaba Tseka. Pan gyrhaeddais, fe heidiodd y disgyblion hynny o fy nghwmpas – wrth eu bodd i ddangos wrth weddill y dosbarth eu bod yn fy adnabod. Yn ddiweddarach dywedodd eu hathrawes, Mme Thumei, fod y disgyblion yn fy ngharu. Meddyliais fod hynny’n ffordd braidd yn od o fynegi’r peth; ond esboniodd yn ddiweddarach ei bod wedi defnyddio’r gair yna achos roedd y disgyblion yn teimlo’n saff gyda fi ac yn gwybod na fyddwn i’n eu brifo na’u bychanu. “Rwyt ti’n un ohonom ni, rwyt ti’n perthyn” – dyna ddywedodd hi wrth gloi ein sgwrs.

Dw i ddim yn siwr os ydyn nhw’n disgwyl i chi ddychwelyd, ond dydyn nhw ddim yn eich anghofio.

Cadwch at yr hyn yr ydych yn ei wneud orau

Es allan i Thaba Tseka gyda rhaglen i helpu mewn dwy ysgol gynradd. Roedd lleoliadau gwaith blaenorol Dolen wedi canolbwyntio ar ddatblygu dulliau dysgu ffoneg yn yr ysgol ac roedd fy ngwaith innau’n mynd i gynnwys hynny. Gan mai mathemateg uwchradd yw fy nghefndir, ar un olwg nid oedd gen i’r sgiliau o gwbl i gyflawni’r hyn y ces fy nanfon allan yno i’w wneud. Wedi dweud hynny, ar ôl cyrraedd yno, ac wrth holi’r athrawon Basotho am beth oedd yn peri’r anhawster mwyaf iddynt, fe ffeindiais eu bod yn crybwyll mathemateg a gwyddoniaeth yn aml.

Gyda hynny mewn golwg, fe benderfynais ganolbwyntio ar helpu gyda dysgu mathemateg - blynyddoedd 4 i 7 yn benodol. Drwy hynny roeddwn yn gallu defnyddio fy arbenigedd i gynnig rhywbeth yr oeddwn yn teimlo a allai fod yn ddefnyddiol. Wrth gwrs, roeddwn yn hapus i helpu gyda darllen, celf, a Thechnoleg Gwybodaeth hefyd; ond roeddwn yn teimlo mai gyda mathemateg y gallwn i gyfrannu orau - drwy geisio gwneud y pwnc yn atyniadol i’r dysgwyr yn ogystal â’r athrawon.

Fy nghyngor i unrhyw un sy’n gweithio mewn cyd-destun tebyg yw gofyn i bobl beth sydd ei angen arnynt, nid beth maen nhw eisiau; ac yna gweithio i geisio meithrin y gallu i ddarparu hynny.  

Mae problemau’n creu atebion

Pan ddychwelais i Lesotho yn 2019 roedd gyda ni gynlluniau i ddysgu mathemateg a chynnal cyrsiau rhifedd yn y pedair ysgol gynradd leol, a syniad ychydig yn amhendant i gynnwys ysgolion cynradd mewn ail bentref rhyw 30km i ffwrdd – yn ogystal â darparu rhai cyrsiau ychwanegol i athrawon dan hyfforddiant.

Ond cafodd yr holl gynlluniau yna eu chwalu yn sgil streic yr athrawon, a barodd o’r drydedd wythnos hyd ddiwedd fy ymweliad. Roedd yr ysgolion wedi cau ac felly roedd yn rhaid i fi feddwl am rywbeth arall i gyfiawnhau bod yno.

Daeth yr ateb o Basotho. Roeddwn i’n adnabod y Swyddog Adnoddau Rhanbarthol yno; ac roedd hi wedi gosod her i’w hunan i drefnu canolfannau ar gyfer cynnal cyrsiau a sicrhau fod athrawon yn mynychu. O ganlyniad, yn ystod yr ail ymweliad yma, yn ogystal â’r gweithdai yr oeddwn yn eu rhedeg ger Maseru, fe lwyddom i sicrhau fod rhyw 2000 o athrawon ac athrawon dan hyfforddiant wedi gallu manteisio ar gryn dipyn o hyfforddiant gan gynnwys syniadau, dulliau dysgu, cynllunio ysgolion a defnyddio adnoddau.

Bues yn meddwl wedyn am beth sy’n cael yr effaith fwyaf yn yr hirdymor wrth weithio mewn cymunedau fel Thaba Tseka neu Maseru. Rwy’n credu mai’r ateb yw gofyn i’r bobl beth maen nhw eisiau; ffeindio beth sy’n creu problemau ac yna cynnig hyfforddiant drwy ddangos dulliau amgen - yn hytrach na dweud wrth athrawon beth y dylent ei wneud.

Mae’r cyrsiau yn gweithio

O’r 20 o gyrsiau a drefnwyd ar gyfer 2020, dim ond pump y llwyddais i’w cynnal – gyda nifer cymharol fach yn eu mynychu. Ond ar yr ochr gadarnhaol, roedd yn amlwg fod y rheini a fynychodd y cyrsiau yn athrawon mathemateg mwy hyderus bellach a’u bod hefyd yn rhoi’r sgiliau yr oeddent wedi’u meithrin y llynedd ar waith. Mae yna ysbryd o  gyfeillgarwch ac ymddiriedaeth rhyngom – ac er fy mod i weithiau’n cwestiynu’r dull dysgu neu’n amlygu gwendidau neu gamsyniadau, maen nhw’n gwybod nad ydw i’n ceisio eu bychanu.

Y tro yma, roedd yr athrawon yn dipyn mwy parod i dynnu sylw at wendidau, gofyn am amrywiaeth ehangach o bynciau, a gorau oll - yn barod i gymryd rhan yn y broses o fodelu sut y byddent yn dysgu. Gwelwyd rhai o’r canlyniadau mwyaf positif ar y cyrsiau a gynhaliwyd yn yr ardaloedd allgymorth – pentrefi a oedd yn daith dair awr ar hyd lonydd grean i ffwrdd.

Roedd gweld a chlywed hyder yr athrawon hyn a chael rhannu enghreifftiau o sut yr oedd y plant yn datblygu dealltwriaeth o fathemateg, ac yn bwysicach fyth, yn mwynhau’r profiad, yn gwneud i mi deimlo’n wylaidd.

Mae athrawon yn ‘deall’ beth yw hanfod cwrs: rhannu profiad, dysgu drwy wneud, rhoi cynnig ar bethau newydd, a chynnwys yr hyn yr ydych wedi’i ddysgu yn eich gwersi eich hunan. Mae adnoddau hefyd yn boblogaidd iawn gydag athrawon. Mae mwyafrif yr adnoddau y maent yn eu defnyddio nawr yn cael eu creu yn Lesotho – yn aml yn ystod y diwrnod cyn y cwrs, ac weithiau hyd yn oed yn ystod y cwrs!

Athrawon dan hyfforddiant yw’r dyfodol

2020 oedd y flwyddyn gyntaf i mi wneud cryn dipyn o waith gydag ysgolion uwchradd. Fe weithiais gyda phedair ysgol, gyda graddau amrywiol o lwyddiant. Law yn llaw â hynny, fe wnaethom gynnal cwrs ysgol uwchradd llwyddiannus yn Leribe gydag oddeutu 50 o athrawon.

O ran dysgu, bues i’n gweithio’n bennaf gydag athrawes ifanc dan hyfforddiant a ddaeth ataf pan oeddwn yn Ysgol Uwchradd Ntaote. Dywedodd fy mod i wedi cyflwyno cwrs yn ei choleg y flwyddyn cynt, a gofynodd a fyddwn i’n fodlon ei helpu i baratoi rhai adnoddau. O ganlyniad es i’w gwylio’n dysgu, ac yna fe aethon ni’n ôl drwy ei chynlluniau - i weld beth yr oedd hi eisiau ei gyflawni a thrafod pa fath o adnoddau allai fod o gymorth iddi gyda’r addysgu a’r dysgu. Fe ddysgais i gymaint ag y gwnaeth hi, ac roedd yn hyfryd cael bod yn rhan o waith cynllunio go iawn, dysgu fel rhan o dîm, ac yna adolygu’r broses.

Heb os, dyma’r dyfodol – mae’r bobl ifanc eisiau bod yn well athrawon ac maen nhw eisiau gallu cynnig mwy nag y cawson nhw. Canlyniadau positif hyn oedd bod bron pob un o’r adnoddau a gafodd eu creu a’u defnyddio wedi gweithio, ac fe ddatblygodd hi ddull gwahanol o gyflwyno’i gwersi. Roedd cael cyfle i wylio ymateb y dosbarthiadau yn fuddiol hefyd – roeddent yn ymgolli yn y gwersi, ac yn llafar a brwdfrydig.

Dychwelyd i Lesotho

Rwy’n poeni am Lesotho a’r argyfwng Covid 19 presennol, yn enwedig o ystyried y lefelau HIV uchel sydd yno a’r systemau imiwnedd isel sy’n deillio o hynny. Does dim seilwaith yno; mae prinder gwelyau mewn ysbytai; bydd y gaeaf yn cyrraedd mewn rhyw fis; ac mae’r cyfryngau a’r systemau rhannu gwybodaeth yn wael. Mae’n amlwg fod pobl yn pryderu yno - nid yn unig am y firws a’r marwolaethau a ddaw yn ei sgil, ond am y wlad yn gyffredinol. Roedd gwestai’n cael eu cau; mae swyddi yn y fantol – does dim taliadau i achub pobl yma; ac mae plant yn colli ail flwyddyn o addysg.

O fy rhan i, roeddwn wedi disgwyl mai hon fyddai fy mlwyddyn olaf; ond nid felly fydd hi. Mae llawer o bethau rwyf am eu gwneud o hyd, a phob tro rwyf yn Lesotho, rwy’n ffeindio pethau newydd y gellid eu gwneud. Mae potensial yno i helpu athrawon dan hyfforddiant drwy greu dosbarth rhithwir yn un o’r ysgolion cynradd; adeiladu ar y mewnbwn i’r ysgolion uwchradd a datblygu syniadau am y cyfnod pontio rhwng cynradd ag uwchradd; ac mae potensial hefyd i drefnu mwy o gyrsiau mewn ardaloedd allgymorth yn ogystal ag yn ardal Maseru.

Dydych chi byth yn teimlo eich bod wedi cau pen y mwdwl, achos pan fyddwch yn buddsoddi amser ac ymdrech mewn cymuned fel Thaba Tseka mae’n creu ysfa i ddychwelyd dro ar ôl tro. Efallai na fyddaf yn treulio pum mis cyfan yno eto, ond hyd nes y byddaf yn methu gwneud cyfraniad gwerth chweil, byddaf yn dychwelyd i Lesotho.

Ydy’r profiad wedi fy newid?

Wrth orffen fy amser fel Dirprwy Brifathro Uwchradd meddyliais y byddai mynd i Lesotho gyda Dolen Cymru yn ffordd o lithro’n esmwyth o fywyd gwaith i ymddeoliad. Dyna oedd fy mwriad, yn hytrach nag unrhyw ddyhead mawr i helpu i greu newid. Ymhen deuddeg wythnos roeddwn i’n teimlo wedi ymrwymo’n llwyr; roedd gen i ddiddordeb gwirioneddol yn hyn ac roeddwn yn teimlo y gallwn wneud cyfraniad gwirioneddol hefyd – ro’n i wedi cael fy machu!

Rydw i wedi gwneud ffrindiau yn Dolen a ffrindiau oes yn Lesotho – ac yn cadw mewn cysylltiad cyson â nhw. Mae methu teithio’n ôl yno wedi bod yn dorcalonnus. Ond, rwyf wedi addasu a chychwyn gwefan adnoddau o’r enw ‘Prosiect Mathemateg Basotho’ yn ogystal â chynnal gwersi mathemateg drwy zoom ar gyfer elusen arall -  sef Challenge Aid sy’n gweithio yng Nghenia. Fydda i fyth yr un person eto. Mae fy mhrofiadau yn Lesotho wedi fy ngwneud yn berson mwy gwleidyddol, yn fwy effro’n fyd-eang ac yn fwy ystyrlon; yn athro mwy amyneddgar ac yn well person.

Sion Watkins yn dysgu yn Lesotho
Sion yn dysgu yn Lesotho ©

Sion Watkins

Teacher Sion Watkins

Sion Watkins

Athro, Dolen Cymru