Plant mewn ysgol yn Lesotho
Plant mewn ysgol yn Lesotho ©

Hawlfraint British Council

Mae’r broses recriwtio ar gyfer 2021 wedi cael ei hatal yn sgil pandemig Covid-19

Mae gan athrawon yng Nghymru'r cyfle i helpu i wella addysg  yng nghefn gwlad Lesotho yn ne Affrica am bum mis-cyfle i chi ymledu mewn diwylliant newydd a defnyddio'ch sgiliau addysgu mewn amgylchedd hollol wahanol.

Ers i'r rhaglen lansio ym 1985, mae Cymru a Lesotho wedi ffurfio bond cryf. Mae unigolion, cymunedau a sefydliadau yn y ddwy wlad wedi elwa o'r bartneriaeth.

Bob blwyddyn, rhoddir cyfle i athrawon o Gymru gymryd y daith 8,600 milltir i Lesotho; gwlad o ychydig dros ddwy filiwn o bobl sydd wedi ei amgylchynu'n llwyr gan Ddde Affrica, i ymweld ag ysgolion a rhannu sgiliau. Mae'r prosiect yn para am tua chwe mis - o fis Ionawr i fis Mehefin, ac mae'n gyfle gwych i weithio yn rhanbarth mynyddig Lesotho a rhannu eich profiadau gydag ysgolion yng Nghymru.

Mae'r rhaglen yn cael ei rheoli gan Dolen Cymru a British Council Cymru trwy Raglen Addysg Ryngwladol Llywodraeth Cymru.

2020

Oherwydd y cyfyngiadau teithio yn sgil Covid-19, nid oeddem yn gallu recriwtio athrawon o Gymru i deithio i Lesotho yn ystod 2020. Yn lle hynny mae Dolen Cymru wedi bod yn mentora a hyfforddi athrawon yn Lesotho drwy fideos ar-lein a phlatfformau negeseuon testun.

Bu athrawon arweiniol yn Lesotho yn creu adnoddau dysgu digidol ar gyfer datblygu platfformau ar-lein. Gweithiodd rhai athrawon ar eu datblygiad proffesiynol drwy gwblhau cwrs 20-wythnos ar-lein yn canolbwyntio ar ddefnyddio rhaglen Jolly Phonics; gyda bwriad i rannu hyn gyda’u disgyblion a’u cydweithwyr.

Mae’r adborth gan athrawon yn Lesotho yn pwysleisio bod angen adnoddau digidol ar fyrder arnynt yn sgil Covid-19. Mae llawer o’r athrawon yn Lesotho wedi dysgu sgiliau digidol newydd, cynyddu eu hyder, rhannu syniadau ac elwa wrth fod yn rhan o rwydwaith proffesiynol newydd rhwng Cymru a Lesotho.

Mae gwirfoddolwyr o Gymru wedi bod yn cynnal sesiynau mentora o bell mewn mathemateg drwy Facebook Basotho Maths Club gyda chyfranogwyr o bob rhan o Lesotho.

Ym mis Tachwedd 2020, arweiniodd Dolen Cymru gynhadledd ryngwladol ar-lein a roddodd gyfle i wirfoddolwyr yng Nghymru a Lesotho rannu eu straeon. Cafodd y digwyddiad ei agor gan Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Iaith Gymraeg, a Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

Gallwch wylio fideo o recordiad o’r gynhadledd yma.

Cydweithio yn 2021

Mae athrawon yn Lesotho yn awyddus i barhau i greu adnoddau digidol a chymryd rhan mewn digwyddiadau ar-lein ar gyfer addysgu mathemateg a llythrenedd, mentora a hyfforddi, arweinyddiaeth ysgolion a llesiant dysgwyr er mwyn cefnogi’r ysgolion pan fyddant yn ail-agor.

Os hoffech dderbyn gwybodaeth am ymuno â’r rhwydwaith proffesiynol rhwng Cymru a Lesotho, ebostiwch ni yma: iepwales@britishcouncil.org

Rhannu’r dudalen hon